Cyfriniaeth

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Y broses o ymuniaethu â Duw yn ddigyfrwng trwy fyfyrdod ecstatig neu ymgolli’n ysbrydol trwy gynhemlu â’r duwdod. Er bod y syniad o gymuno â’r ysbrydol i’w gael yn y cyfrin-grefyddau Groegaidd, rhoddwyd y prif bwyslais yno ar y defodau y byddai’r ymgeisydd yn cymryd rhan ynddynt wedi iddo gael ei ynydu i’r cwlt. Cyfeiria’r Testament Newydd at y μυςτηριον (musterion), sef y dirgelwch a ddatguddiwyd yn nyfodiad Crist i’r byd (Effesiaid 3:9; Colosiaid 4:3), felly nid peth ‘cyfrin’ oedd hyn mewn gwirionedd ond peth a ddatgelwyd. (Cyfieithwyd musterion yn y Fwlgat, sef y Beibl Lladin, yn sacramentum, a daethpwyd i’w gysylltu â bedydd ac â Swper yr Arglwydd). Gan fod yr efengylau a Llyfr yr Actau yn sôn am wedd brofiadol addoli a gweddïo a bod Paul yn ei epistolau yn cyfeirio at y credadun yn cael ei raddol (neu ei graddol) drawsffurfio trwy’r Ysbryd Glân i ddelw Duw yng Nghrist (‘sancteiddio’), datblygwyd erbyn y canrifoedd Cristnogol cynnar ddysgeidiaeth gyflawn ar ddisgyblaeth ysbrydol ac ymuniaethu profiadol â Duw. Ymhlith y rhai y cysylltir eu henwau â’r symudiad hwn yw Origen o Alexandria (184-254), Grigor o Nyssa (335-95), Awstin Fawr, esgob Hippo yng Ngogledd Affrica (354-430), a’r Pseudo-Dionysius (fl. 550).

Erbyn yr Oesoedd Canol fodd bynnag y daeth y gyfriniaeth Gristnogol i’w llawn dwf gyda rhai fel Bernard o Clairvaux (1090-1153), y lleian Hildegard o Bingen (1098-1194) ac aelodau Ysgol Sant Victor ym Mharis fel Huw (c. 1096-1141) a Rhisiart (m. 1173), ac yna Ffransis o Assisi (1181-1226), Bonaventura (1221-74) ac eraill, yn gadael toreth o dystiolaeth i ddwyster eu defosiwn ac angerdd eu profiadau ysbrydol. Fe’u dilynwyd gan yr Almaenwyr Meistr Eckhart (c. 1260-1321) a Johannes Tauler (c. 1300-61) a’r Is-Almaenwr Ioan Ruysbroeck (1293-1381), a’u cyfoeswr o Gymro, awdur anhysbys y traethawd hynod, Ymborth i’r Enaid, tra aeth cyfrinwyr mawr y Gwrth-Ddiwygiad, y Sbaenwyr Teresa o Avila (1515-82) ac Ieuan y Groes (1552-91) â ni i mewn i’r cyfnod modern. Astudiaeth orchestol Saunders Lewis, Williams Pantycelyn (1927), a dynnodd sylw at rai o’r ffigyrau hyn, a dysgu ei gynulleidfa mai’r ffordd briodol i ddosbarthu profiadau’r enaid oedd trwy ddilyn Bonaventura a sôn am ffordd y puro, ffordd y goleuo a ffordd yr uno. Er gwaethaf disgleirdeb cyfrol Lewis, credir yn bur gyffredin bellach fod y dadansoddiad, o’i gymhwyso at yr emynydd, yn gyfeiliornus, a bod ‘uno â Christ’ yn y traddodiad Protestannaidd yn seiliedig ar ffydd seml yng Nghrist ar sail ei aberth yn hytrach nag ar broses ymdrechgar fwriadus.

Er bod agweddau cyfriniol i’w canfod mewn Iddewiaeth (y Kabbalah) ac Islam yn ogystal ag mewn cyfundrefnau crefyddol eraill fel Hindŵaeth, Bwdïaeth a siamanïaeth (fwdw), cyfriniaeth Gristnogol, boed Gatholig neu Uniongred, sydd fwyaf cyfarwydd yn Ewrop a’r Gorllewin. Yn ôl rhai beirniaid, ceir elfennau cyfriniol yng ngwaith y Piwritan Morgan Llwyd, y Methodist Ann Griffiths, a’r Crynwr Waldo Williams.

D. Densil Morgan

Llyfryddiaeth

Allchin, A. M. (1988), Participation in God: A Forgotten Strand in Anglican Tradition (London: Darton, Longman and Todd).

Davies, P. (1974), ‘Yr Absen Dwyfol’ yn Y Brenin Alltud (Llandybie: Christopher Davies), tt. 121-77.

Jones, R. M. (1994), Cyfriniaeth Gymraeg (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Lewis, S. (2016), Williams Pantycelyn (Llundain: Cwmni Foyle); argraffiad newydd gyda rhagymadrodd gan Morgan, D. D. (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Lossky, V. (1957), The Mystical Theology of the Eastern Church (Cambridge: James Clark).

McGinn, B., Meyendorff, J. a Leclercq, J. (goln) (1987), Christian Spirituality: Origins to the Twelfth Century (London: SCM Press).

Williams, C. G. (1969), Crefyddau’r Dwyrain (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).