Deialog Platonaidd

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Ffurf llenyddol a hanai o Roeg yn yr Oes Glasurol (y 5g. C.C.) yw’r deialog Platonaidd, ac a gyplysir fynychaf gyda Platon, yr athronydd Groegaidd pwysicaf. Deialogau yw bron pob un o weithiau Platon ar wahân i Amddiffyniad Socrates. Trafodaeth athronyddol yw deialog Platonaidd rhwng nifer fechan o gymeriadau. Gall y cymeriadau fynd ar drywyddau amgen fel sy’n digwydd mewn sgwrs arferol. Yn aml, tynnir sylw yn gynnar at leoliad y ddeialog ac fe gynigir darlun o fyd cymdeithasol y cymeriadau, sy’n rhoi awyrgylch ‘gyfoes’ a pherthnasol i’r dadleuon. Mae nifer o ddeialogau Platon yn ceisio denu darllenwyr (neu wrandawyr) i mewn i’r drafodaeth, gyda’r cymeriadau yn beirniadu eu ffyrdd gwahanol o fyw.

Nid yw Platon byth yn annerch ei gynulleidfa’n uniongyrchol yn ei lais ei hun yn y deialogau. Y cymeriadau ac nid Platon sy’n gwneud gosodiadau a’u cadarnhau, amau, cwestiynu, dadlau yn eu cylch ac ati. Cyfathrebu anuniongyrchol sy’n nodweddu llais Platon yn y deialogau. Cwyd y cwestiwn felly a yw hi’n bosib darganfod athroniaeth Platon drwy’r deialogau, neu a ddylid gwerthfawrogi dadleuon y cymeriadau heb geisio canfod undod y tu ôl iddynt. Un ffordd o fynd i’r afael â hyn yw gofyn pam y bu i Platon ysgrifennu athroniaeth ar ffurf deialogau. Cynigiwyd sawl rheswm posib am hyn. Gallai Platon ddatblygu ei ddiddordebau mewn addysg drwy ffurf deialog, e.e. cael cymeriadau i ofyn cwestiynau egwyddorol am sut mae’n bosib dysgu, oddi wrth ba fath o berson y gellir dysgu orau, ac ati. Daw’n amlwg mai creu dryswch, neu o leiaf cymhlethu pwnc, yw bwriad Platon, er mwyn caniatáu i’r cymeriadau fynd ati i egluro sail eu safbwyntiau’n well a chynnig dadleuon mwy trylwyr. Ymddengys rhai pynciau yn y deialogau’n gyson, e.e. dadleuir nad yw’r enaid yn faterol a’i fod yn anfarwol. Pwnc arall o bwys mawr yw bodolaeth y Ffurfiau Platonaidd. I Platon mae gwrthrychau gwybodaeth, boed yn haniaethol (fel daioni) neu yn ddiriaethol, yn endidau real. Ond fel gwrthrychau gwybodaeth fathemategol (fel ffurfiau geometrig delfrydol), dydyn nhw ddim yn bodoli yn y byd arferol a ganfyddir gan y synhwyrau. Rhagdybiai Platon fodolaeth byd arall, sef byd y Ffurfiau neu’r Syniadau, gan honni fod y pethau a welir yn y byd hwn yn atgof o’r Ffurfiau ac yn eu dynwared. Ar y cyfan ceir un siaradwr ym mhob deialog sy’n fwy blaenllaw na’r lleill, gan amlaf yr athronydd Socrates. Anodd yw gwadu’r gred gyffredinol mai diben y deialogau yw denu a darbwyllo’r gynulleidfa i ystyried a derbyn y dadleuon a gynigir gan y prif gymeriad. Wedi dweud hyn, gan nad traethodau ar egwyddorion neu weithiau dogmataidd ydy’r deialogau, dylid rhagdybio mai eu hamcan addysgiadol oedd annog pobl i chwilio am y gwirionedd trwy drafodaeth lafar yn hytrach na dibynnu ar awdurdod sefydliadol.

Yn yr Oes Glasurol, ysgrifennai nifer o awduron eraill ddeialogau ble roedd Socrates yn brif gymeriad, megis Xenophon, Aristoteles, Plutarch a Lucianos. Diben dychanol oedd i ddeialogau Lucianos. Cyflwynodd Marcus Tullius Cicero’r ffurf i’r Lladin yn rhannol trwy gyfieithu gwaith Platon, a dilynwyd ef gan Tacitus ar areithio a Seneca ar foeseg. Yn y cyfnod ôl-Glasurol a’r Oesoedd Canol, pynciau diwinyddol gâi’r sylw pennaf. Yn De Consolatione Philosophiae (Ar Gysur Athroniaeth) holir Boethius (tra ei fod yn y carchar) gan y Fonesig Athroniaeth am ei amheuon am gyfiawnder mewn bywyd. Ffurf deialog Platonaidd rhwng Anselm, Archesgob Caergaint a’r mynach Boso yw Cur Deus Homo (Pam ddaeth Duw yn ddyn?). Ail-ddarganfuwyd gweithiau Platon yn ystod y Dadeni Eidalaidd pan ddaethpwyd â llawysgrifau Groeg o Byzantium i Fenis, ac fe’u cyfieithwyd i’r Lladin yn 1484 gan Marsilio Ficino.

Yn y cyfnod modern cynnar, adfywiwyd y deialog Platonaidd gan Nicolas Malebranche (1638-1715) gyda’i Entretiens sur la Métaphysique (1688). Yn Saesneg dadleuon am epistemoleg a natur crefydd hawliodd sylw gyda Three Dialogues between Hylas and Philonous gan yr athronydd Anglicanaidd Eingl-Wyddelig, George Berkeley (1685-1753), a Dialogues Concerning Natural Religion gan yr athronydd Albaneg, David Hume (1711-1776). Yn yr 20g. aeth rhai llenorion ati i lunio deialogau ble roedd Socrates ei hun yn gymeriad unwaith eto. Gweler Dialogues in Limbo gan George Santayana (1926) a Acastos gan Iris Murdoch (1986), sy’n cynnwys Platon fel cymeriad.

Carys Moseley

Llyfryddiaeth

Berkeley, G. (1999), Principles of Human Knowledge, and Three Dialogues Between Hylas and Philonous (Oxford: Oxford University Press).

Davies, C. (1995), Welsh Literature and the Classical Tradition (Cardiff: University of Wales Press).

Hume, D. (2008), Dialogues Concerning Natural Religions, and the Natural History of Religion (Oxford: Oxford University Press).

Kraut, R. (1992), The Cambridge Companion to Plato (Cambridge: Cambridge University Press).

Murdoch, I. (1986), Acastos: Two Platonic Dialogues (London: Chatto & Windus).

Platon (1936), Amddiffyniad Socrates. Cyfieithwyd gan D. Emrys Evans (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Platon (1938), Phaedon. Cyfieithwyd gan D. Emrys Evans (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Platon (1943), Ewthuffron: Crito. Cyfieithwyd gan D. Emrys Evans (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Platon (1946), Gorgias. Cyfieithwyd gan D. Emrys Evans (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Platon (1956), Y Wladwriaeth. Cyfieithwyd gan D. Emrys Evans (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.