Rhethreg
Rhethreg yw’r gelfyddyd o lefaru er mwyn perswadio pobl, neu ddealltwriaeth systemaidd o areithio y gellir ei dysgu. Datblygwyd rhethreg yn Sisili yn y cyfnod clasurol Groegaidd ac fe’i cywreiniwyd gan y Soffyddion. Daeth rhethreg yn elfen greiddiol o addysg yn Rhufain diolch i ddylanwad athrawon Groegaidd yn ystod y ganrif gyntaf cyn Crist. Datblygodd areithio pan gyfododd llywodraeth ddemocrataidd yn Sisili yn lle llywodraeth teyrn gormesol. Dywedir taw’r achosion cyfreithiol a ddaeth yn sgîl y newid cyfansoddiadol hwn a fu’n gyfrifol am ysgogi Corax i drefnu ac ysgrifennu’r rheolau ar gyfer llefaru mewn llysoedd barn. Daeth Gorgias o Leontini â’r dull newydd hwn o areithio i Athen yn 427 CC gan fabwysiadu arddull farddonol. Pwysleisiai’r Soffyddion bwysigrwydd technegau ar gyfer ennill gwrandawyr. Enynnodd hyn elyniaeth yr athronwyr Socrates a Plato, a gredai y dylai lleferydd a anelai at ddarbwyllo fod yn seiliedig ar wybodaeth o’r gwirionedd. Cyferbynnid athroniaeth gyda rhethreg a hefyd barddoniaeth yn aml yng nghyfnod yr Hen Roegiaid a’r Rhufeiniaid. Roedd pum elfen i rethreg glasurol: dyfeisio, sef darganfod y deunydd perthnasol; trefnu, sef gosod y deunydd at ei gilydd mewn strwythur; ieithwedd, sef darganfod arddull a weddai i’r achlysur (mawreddog, canolig neu blaen); cofio, sef arweiniad ar sut i roi areithiau ar gof; traddodi araith, sef dysgu technegau siarad cyhoeddus. Gyda dirywiad yr Ymerodraeth Rhufeinig yn y gorllewin, dirywiodd cefnogaeth y wladwriaeth i addysg a chollwyd llawer o’r rhesymau dros ddysgu rhethreg, am nad oedd seneddau lleol mwyach, ac oherwydd dinistrio llyfrgelloedd gan ymosodiadau gelynion. Athrawon preifat a’r mynachlogydd Cristnogol dan ddylanwad Cassiodorus a gynhaliodd y traddodiad. Yng ngogledd Ewrop ailymddangosodd rhethreg yn yr ysgolion er mwyn addysgu cyfreithwyr yn y llysoedd sifig ac eglwysig. Daeth rhethreg yn ganolog ar gyfer dysgu dadleuon crefyddol, ysgrifennu llythyron, pregethu a barddoni. Daeth yn bwnc yn y prifysgolion canoloesol. Cyfieithwyd Celfyddyd Rhethreg Aristoteles i’r Lladin yn y 13g.. Adfywiwyd astudiaeth o weithiau Cicero yn yr Eidal yn y 14g., datblygiad creiddiol i’r Dadeni. Athrawon rhethreg oedd nifer o’r dyneiddwyr Eidalaidd mwyaf blaenllaw. Symbylwyd y gelfyddyd yn eu plith gan gyfieithiadau o’r prif weithiau rhethreg Groegaidd fel rhai Platon ac Aristoteles, a rhai Lladin Cicero ar ddiwedd y canol oesoedd gan Eidalwyr a Groegwyr oedd yn ddolen rhwng yr Eidal a'r Ymerodraeth Fysantaidd. Yn y Gymraeg lluniwud gweithiau ar rethreg ('rhetoreg') gan William Salesbury a Henry Perri. Parhawyd i ysgrifennu traethodau rhethregol yn y traddodiad clasurol tan y Chwyldro Ffrengig ar y cyfandir a than oes Victoria yn Lloegr. Mae hyn yn eironig pan ystyriwn taw dyma gyfnod twf democratiaeth a taw areithio gwleidyddol oedd y math pwysicaf yng ngolwg Aristoteles. Yn yr 20g. tyfodd damcaniaeth rethregol fodern mewn beirniadaeth lenyddol a meysydd eraill yng Ngogledd America, diolch i waith Kenneth Burke a’i ddilynwyr. Yn y cyfnod modern gwelwyd rhaniad rhwng dibenion llenyddol a gwleidyddol rhethreg. Cafwyd datblygiadau athronyddol, wrth ddadlau, er enghraifft, fod i’r gwyddorau cymdeithasol elfen rethregol, ac nad traddodi ffeithiau moel yn unig a wnânt. Rhaid gofyn a wnaeth methiant cyfundrefnau addysg Ewrop i barhau i ddysgu’r traddodiadau rhethregol clasurol mewn modd cyfoes a pherthnasol adael gwagle a lanwyd wedi dyfodiad y bleidlais gyffredin gan bropaganda a arweiniodd mewn cynifer o achosion at lywodraethau totalitaraidd. Heddiw ceir nifer o heriau yn y gwaith o hyrwyddo rhethreg o'r newydd fel damcaniaeth er mwyn meithrin areithwyr. Haerodd Aristoteles taw’r gallu pwysicaf o ran medru perswadio a chynghori’n dda yw deall y mathau gwahanol o gyfansoddiad gwleidyddol, ynghyd ag arferion, rheolau a diddordebau pob un. Mae hyn am taw’r hyn sy’n fanteisiol sy’n perswadio, a taw dyna sy’n cadw cyfansoddiad gwlad. Dewisir yr hyn sy’n cyflawni dibenion y gwahanol gyfansoddiadau. Rhyddid yw diben democratiaeth, cyfoeth ydyw i oligarchiaeth, addysg ac arferion i aristocratiaeth, a sicrwydd yn achos unbennaeth. Os am gymhwyso barn Aristoteles ar gyfer heddiw, gellir dadlau fod amddiffyn rhyddid mynegiant yn greiddiol i ddyfodol rhethreg ac areithio mewn gwledydd democrataidd. Tuedd propaganda ac ideoleg gwlad sy’n blaenoriaethu sicrwydd yw ffrwyno rhyddid mynegiant a llunio deddfau a pholisïau sy’n cyfyngu ar siarad cyhoeddus a’r hawl i ymgynnull. Nid syndod felly taw yn Unol Daleithiau America y mae astudiaethau rhethreg a dadleuon ynglŷn â’r pwnc wedi ffynnu, gan fod ethos amddiffyn rhyddid mynegiant yn gryfach yno nag yn Ewrop.
Carys Moseley
Llyfryddiaeth
Aristotle, .Trans. H. Tancred-Lawson (2004) The Art of Rhetoric (London: Penguin)
Bizzell, P. (2001) The Rhetorical tradition: readings from classical times to the present ( Boston: Bedford/St. Martin’s).
Burke, K. (1962), A Grammar of Motives; A Rhetoric of Motives (New York: Meridian).
Donawerth, J. (2002), Rhetorical Theory by Women Before 1900: An Anthology (London: Rowman & Littlefield.
Evans, D. E. (1946), Plato: Gorgias (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).
Evans, D. E. (1956), Plato: Y Weriniaeth(Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).
Kennedy, G.A. (1980), Classical Rhetoric and its Christian and Secular Tradition from Ancient to Modern Times (London: Croom Helm).
Kennedy, G.A. (1998), Comparative Rhetoric: An Historical and Cross-Cultural Introduction (New York/Oxford: Oxford University Press).
Murphy, J. J. (1974), Rhetoric in the Middle Ages: a history of rhetorical theory from Saint Augustine to the Renaissance( Berkeley, CA: University of California Press).
Ong, W. J. (2004), Ramus, Method, and the Decay of Dialogue: From the Art of Discourse to the Art of Reason (Chicago: Chicago University Press).
Roberts, W. Rh. (1928), Greek Rhetoric and Literary Criticism (Cambridge: Cambridge University Press).
Simons, H. W. (2011) The Rhetorical Turn: Invention and Persuasion in the Conduct of Inquiry (Chicago, IL: University of Chicago Press).
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.