Dinasyddiaeth

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:36, 25 Mai 2023 gan SionJonesCaerdydd (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

(Saesneg: Citizenship)

Datblygodd T. H. Marshall (1992), sylfaenydd cymdeithaseg dinasyddiaeth, ddimensiwn cymdeithasol i’r cysyniad o ddinasyddiaeth. Dyma un o’r cyfraniadau cymdeithasegol cynharaf ar ddinasyddiaeth, ac mae’r holl ddadansoddi a thrafod ar y pwnc yn tueddu i ddeillio o hyn. Ei ddadl allweddol oedd bod y cysyniad modern o ddinasyddiaeth yn cynnwys cyfuniad o dair elfen.

Yn gyntaf, yr elfen sifil, sy’n cyfeirio at yr hawliau sy’n angenrheidiol ar gyfer rhyddid. Mae’r rhain yn cynnwys: rhyddid personol; rhyddid barn, meddwl a ffydd; rhyddid i fod yn berchen ar eiddo; a’r hawl i gyfiawnder a chydraddoldeb gerbron y gyfraith. Mae’r hawliau hyn yn gysylltiedig â llysoedd cyfiawnder a systemau cyfreithiol. Maent hefyd yn gysylltiedig â’r syniad o’r hawliau unigolyn, sy’n peri problemau i feddylwyr ar-y-cyd.

Yn ail, mae’r elfen wleidyddol, sy’n ymwneud â’r hawl i gymryd rhan mewn pŵer a phrosesau gwleidyddol; yr hawl i ethol a chael eich ethol, sy’n gysylltiedig â sefydliadau seneddol a chynghorau lleol.

Yn drydydd, dinasyddiaeth gymdeithasol, sef hawliau, dyletswyddau a lles pobl fel dinasyddion.

Yn unol â hyn, mae’r International Covenant on Economic, Social and Cultural Rights (ICESCR) (erthygl 11) yn cynnwys yr hawl i safon byw, bwyd a thai digonol sy’n dderbyniol yn ddiwylliannol yn ogystal â bod yn ddigonol yn gorfforol, yn ogystal â chymryd rhan mewn bywyd cymdeithasol bob dydd (gweler Cenhedloedd Unedig, 2021). Mae’n werth nodi yma bod dinasyddiaeth yn aml yn cael ei chymryd yn ganiataol nes bod rhywbeth yn tarfu arni neu fod hawliau’n cael eu gwrthod.

Mae yna broblemau, wrth gwrs, gyda syniad Marshall am ddinasyddiaeth. Yn gyntaf, rydym wedi symud o gymdeithasau diwydiannol Fordist (system o fasgynhyrchu yn yr 1920au) gymdeithasau ôl-Fordist ac o economïau cyfalafol cenedlaethol i rai byd-eang. Mae ffiniau bellach yn ddiangen mewn llawer ffordd ac mae cwestiynau yn codi ynghylch pa endid gwleidyddol y mae person yn ‘perthyn iddo’. Yn ail, ni ellir delio â phroblemau byd-eang, er enghraifft y newid yn yr hinsawdd neu’r pandemig Covid-19, ar lefel genedlaethol, ac mae cydnabyddiaeth gynyddol fod penderfyniadau a wneir o fewn cenhedloedd yn effeithio’n uniongyrchol ar y rhai nad ydynt yn ddinasyddion, ac i’r gwrthwyneb. Yn olaf, mae datganoli pwerau a ffederaleiddio wedi arwain at amrywiaeth yn y cysyniad o ddinasyddiaeth, yn enwedig pan mae’n gysylltiedig â lles.

Fel dewis arall ehangach, mae Dwyer (2016) yn disgrifio dinasyddiaeth fel set o berthnasoedd (rhwng unigolion, rhwng unigolion a chymunedau, a rhwng yr unigolion hynny a’r wladwriaeth); hawliau (mewn perthynas â chyfrifoldebau); a materion (cynhwysiant a gwahardd). Mae Delanty (2000) yn cynnig pedwar model o ddinasyddiaeth:

• set o hawliau (pethau y mae gen i hawl iddynt)

• set o gyfrifoldebau (pethau y mae disgwyl i mi eu gwneud)

hunaniaeth (genedlaethol) (grŵp cenedlaethol rwy’n teimlo’n rhan ohono)

• cyfranogiad (cymuned neu grŵp rwy’n cymryd rhan ynddo).

Mae’r cysyniadau hyn o ddinasyddiaeth wrth wraidd polisi cymdeithasol, gan gynnwys cysyniadau am fathau o wladwriaethau lles. Gan ganolbwyntio ar Ewrop, er enghraifft mewn gwledydd sydd â chyfundrefnau lles rhyddfrydol (fel y Deyrnas Unedig a Gwlad Pwyl), prin yw’r gefnogaeth wladwriaethol i’r rhai sydd ei hangen oherwydd bod yr athroniaeth bolisi sylfaenol yn dibynnu ar gyfrifoldeb unigolion dros eu lles eu hunain, a’u rhyddid i ysgwyddo’r cyfrifoldeb hwnnw. Yn yr achosion hyn, mae dinasyddiaeth wedi’i chysylltu’n agosach â rhyddid unigolion.

Mewn gwledydd sydd â chyfundrefnau lles yn seiliedig ar ddemocratiaeth gymdeithasol (fel Denmarc a Sweden), fel ail enghraifft, mae cyfunoliaethyn sbardun cryf i bolisi. Felly, mae’r wladwriaeth, a’r gymdeithas trwy ailddosbarthu adnoddau, yn cymryd cyfrifoldeb dros y rhai sydd angen cefnogaeth, lles ac yn defnyddio nawdd cymdeithasol. Yn yr achosion hyn, mae dinasyddiaeth yn ymwneud â lleoliad unigolyn o fewn cymdeithas ehangach – syniad llawer mwy casgliadol.

Yn y cyd-destun hwn, mae’r Deyrnas Unedig ‘falls short of international standards for poverty alleviation, benefit levels being “manifestly inadequate” to comply with article 12 of the ESC [International Covenant on Economic, Social and Cultural Rights] (the right to social security)’ (Simpson 2017: 655). Mewn perthynas â diwygio lles, mae Simpson (2017) yn dadlau bod diwygiadau lles yn y 2010au wedi bod yn ymdrech fwriadol i newid dinasyddiaeth gymdeithasol yn y Deyrnas Unedig, yn enwedig drwy gyfyngu ar y gallu i fwynhau ffordd arferol o fyw a thrwy ostwng safon byw a phwysleisio cyflogaeth (o unrhyw fath neu safon) fel prif ddangosydd dinasyddiaeth.

Fodd bynnag, mae gwaith Simpson (2017: 673) hefyd yn tynnu sylw at y ffaith fod y sefyllfa’n wahanol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, lle mae nawdd cymdeithasol wedi’i ddatganoli: ‘Marshall’s vision of a welfare state that underpins a civilized standard of living and takes a less disciplinary stance towards claimants remains alive and well among Scottish elites at least. Northern Irish interviewees, lacking ideological cohesion, tend to foreground more pragmatic grounds for divergence.’

Yng Nghymru, lle mae’r dadleuon yn cynyddu ynghylch datganoli nawdd cymdeithasol, gallwn ddamcaniaethu y bydd y safbwynt ideolegol yn seiliedig fwyfwy ar weledigaeth Marshall yn y dyfodol os bydd nawdd cymdeithasol yn cael ei ddatganoli.

Sioned Pearce

Llyfryddiaeth

Cenhedloedd Unedig (2021), International Covenant on Economic, Social and Cultural Rights, https://www.ohchr.org/en/professionalinterest/pages/cescr.aspx [Cyrchwyd: 15 Gorffennaf 2021].

Delanty, G. (2000), Citizenship in a Global Age (Buckingham: Open University Press).

Dwyer, P. (2016), ‘Citizenship, conduct and conditionality: sanction and support in the 21st century UK welfare state’, Yn: Fenger, M., a Hudson, J., a Needlham, Ca. (goln.), Social Policy Review 28: Analysis and Debate in Social Policy, 2016 (Bristol: Policy Press), tt. 41¬62.

Marshall, T. H. (1992), Citizenship and Social Class (London: Pluto Press).

Jans, M. (2004), ‘Children as citizens: Towards a contemporary notion of child participation’, Childhood 11 (1), 27–44, https://doi.org/10.1177%2F0907568204040182 [Cyrchwyd: 15 Gorffennaf 2021].

Simpson, M. (2017), ‘Renegotiating Social Citizenship in the Age of Devolution’, Journal of Law and Society, 44 (4), https://doi.org/10.1111/jols.12061 [Cyrchwyd: 15 Gorffennaf 2021].


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.