Damcaniaeth dewis rhesymegol

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:49, 26 Mai 2023 gan SionJonesCaerdydd (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

(Saesneg: Rational choice theory)

1. Cyflwyno damcaniaeth dewis rhesymegol

Hanfod y ddamcaniaeth dewis rhesymegol yw’r dybiaeth fod modd esbonio ffenomenau cymdeithasol cymhleth fel canlyniad agregedig dewisiadau unigolion. Ar sail hyn, cynigia’r ddamcaniaeth ystod o ganllawiau sy’n gymorth i ddeall ymddygiad economaidd a chymdeithasol. Yn ganolog i hyn y mae’r dybiaeth fod ymddygiad yn ei hanfod yn rhesymegol. Deellir bod ymddygiad yn cael ei bennu gan ddewisiadau sy’n cael eu gwneud ar sail cyfrifo costau a buddiannau tebygol y darpar-ddewis cyn dod i benderfyniad (dadansoddi cost a budd / cost-benefit analysis). Cynigia hyn rym rhagdybiaethol i’r ddamcaniaeth, fel model ffurfiol o ymddygiad (Scott, 2000). Priodolir dylanwad economeg fel disgyblaeth i’r nodweddion hyn yn y ddamcaniaeth, gan ddenu sylw’r gwyddorau cymdeithasol ehangach, megis gwyddor gwleidyddiaeth, cymdeithaseg, athroniaeth, a’r gyfraith.

Ysgogir y drafodaeth, datblygiad a’r defnydd o’r ddamcaniaeth dewis rhesymegol i raddau helaeth gan y berthynas sydd rhwng disgyblaethau amrywiol y gwyddorau cymdeithasol. Yn aml, diffiniadau amgen o’r ddamcaniaeth sy’n arwain at drafod y berthynas rhwng disgyblaethau’r gwyddorau cymdeithasol perthnasol. Fel rheol, pennir y berthynas rhwng y disgyblaethau hyn gan ddylanwad economeg, yn bennaf oherwydd y canfyddiad o lwyddiant hanesyddol economeg fel maes academaidd. Yn sgil hyn, gwelir anghytuno am egwyddorion sylfaenol y ddamcaniaeth, gan gynnwys y ffocws ar fodau unigol a’r honiad o resymeg. O ganlyniad, mae llenyddiaeth doreithiog (Lovett, 2006) yn trafod y ddamcaniaeth; ond, er gwaethaf y tensiwn cysyniadol, mae modd crisialu rhai egwyddorion creiddiol.

2. Diffinio’r ddamcaniaeth dewis rhesymegol

Yn gyffredinol, deellir y ddamcaniaeth dewis rhesymegol fel modd o esbonio ffenomenau cymdeithasol fel canlyniad hunan-ddiddordeb actorion cymdeithasol. Fel rheol, mae actorion cymdeithasol yn cael eu hystyried yn fodau unigol. Adeiladir y ddamcaniaeth ar y cysyniad o resymeg: bod yr actorion hyn yn cyfrifo costau a buddiannau tebygol y dewis sydd o’u blaenau cyn dod i benderfyniad. Ar sail hyn, hanfod y ddamcaniaeth yw’r ddealltwriaeth o ffenomenau cymdeithasol cymhleth fel canlyniad agregedig dewisiadau unigolion. Yr enw ar y safbwynt hwn yw unigoliaeth fethodolegol (methodological individualism) (Scott, 2000: 127). Noda Elster (1989: 13): ‘The elementary unit of social life is the individual human action. To explain social institutions and social change is to show how they arise as the result of the action and interaction of individuals.’.

Yn yr un modd ag y mae theorïau economaidd yn trafod cynhyrchiant, nwyddau a phrynwriaeth ar sail marchnad o ‘actorion’ rhesymegol yn gweithredu er budd personol, gellir defnyddio’r ddamcaniaeth dewis rhesymegol i esbonio ffenomenau cymdeithasol ar sail dadl Elster (1989: 13) uchod. Gall y ddamcaniaeth esbonio adnoddau megis amser, gwybodaeth, cymeradwyaeth, a bri (Scott, 2000: 127). Mae’n enghraifft o ddamcaniaeth cyfnewid cymdeithasol (social exchange theory), lle canfyddir rhyngweithio cymdeithasol fel canlyniad i gyfrifo costau a buddion actorion unigol rhesymegol.

Wrth gymhwyso’r ddamcaniaeth dewis rhesymegol i ffenomenau cymdeithasol, mae yna densiwn amlwg â’r nodweddion creiddiol perthnasol o faes economeg. Er enghraifft, mae damcaniaeth cyfnewid cymdeithasol (er yn fynegiant o’r ddamcaniaeth dewis rhesymegol) yn cydnabod strwythurau cymdeithasol megis dwyochredd neu ymrwymiadau cymdeithasol. Yn hyn o beth, gall hoffterau mympwyol neu emosiynau (sy’n elfennau afresymol o ymddygiad) ymddangos fel y ffactorau achosol. O ganlyniad, gall actorion cymdeithasol ymddangos fel petaent yn ymddwyn yn afresymol. Er hyn, dadleuir bod pob ymddygiad cymdeithasol yn meddu ar gymhelliant rhesymegol, waeth pa mor afresymol bynnag y mae’n ymddangos.

2.1 Dewisiadau rhesymegol?

Os rhesymeg yw cynsail y ddamcaniaeth, beth yn union y mae dewis rhesymegol yn ei olygu? Mae rhai o ladmeryddion y ddamcaniaeth yn glynu’n driw at yr honiad bod pob ymddygiad yn rhesymegol. Gellir ystyried pedair nodwedd o ddewis rhesymegol yn unol â’r honiad hwn. Yn gyntaf, bydd yr ‘actor’ dan sylw yn gwneud dewisiadau mewn cyflwr meddyliol sefydlog, hynny yw, nid oes lle i gydnabod dylanwad ffactorau megis emosiwn, blinder, neu frys fel ffactorau ymddygiadol. Yn ail, ystyrir bod yr ‘actor’ yn meddu ar yr holl wybodaeth sy’n berthnasol ar gyfer y dewisiadau posib. Yn drydydd, tybir bod gan yr unigolyn y gallu i brosesu’r holl wybodaeth hon er mwyn gwneud dewis rhesymegol. O’r pwyslais hwn y deillia’r cysyniad o lwybrau dewis: bod unigolion yn medru rhag-weld (neu gyfrifo) canlyniadau eu dewisiadau (Scott, 2000: 127). Felly, wrth wneud dewis mae’r unigolyn rhesymegol yn medru rhagdybio a chyfrifo costau a buddiannau’r dewisiadau dilynol.

O ganlyniad, honnir y dylai ymddygiad rhesymegol arwain unigolion i wneud dewisiadau sy’n gydnaws â’u daliadau a’u buddion ym mhob achos. Hynny yw, fod unigolion yn gweithredu er y budd mwyaf i’w lles unigol – cyn belled â bod hyn yn gydnaws â’u daliadau. Yn hyn o beth, ystyrir unigolion yn actorion sy’n cael eu gyrru gan hunan-ddiddordeb sy’n cael ei sylweddoli trwy ymddygiad rhesymegol. Amod ychwanegol i ddewisiadau rhesymegol felly yw fod disgwyl i’r unigolion wneud dewisiadau sy’n gydnaws â’u blaenoriaethau, eu hagweddau, neu eu gwerthoedd. Ceir mân addasiadau ar hyn, yn dibynnu ar draddodiad y ddisgyblaeth; er enghraifft, mewn economeg pwysleisir elw a chyllid, tra mae’r gwyddorau cymdeithasol ehangach yn ystyried adnoddau cymdeithasol megis bri. Cafeat i’r ystyriaeth hon o amcanion a blaenoriaethau unigolion yw natur anochel y sylweddoliad (rhesymegol!) nad yw’n bosib gwireddu pob blaenoriaeth (Scott, 2000: 128).

3. Dehongli dewisiadau rhesymegol

Honiad syml, eglur a ffurfiol y ddamcaniaeth dewis rhesymegol yw fod bodau unigol yn ymddwyn yn rhesymegol. Ond mae’r ymdriniaethau amrywiol o’r ddamcaniaeth o fewn y gwyddorau cymdeithasol yn cymhlethu pethau (o’i gymharu â’r eglurder syml y mae economeg yn ei hawlio). Cynigia Lovett y diffiniad canlynol o’r ddamcaniaeth dewis rhesymegol: ‘an approach to the study of social phenomena characterized by a small bundle of core methodolgical assumptions’ (2006: 24). Trafodir y rhagdybiaethau hyn isod, fel modd o osgoi’r dadleuon ynghylch y ddamcaniaeth drwy gynnig blas o hanfodion y drafodaeth a gwerthfawrogiad o’r amryw ddiffiniadau ar draws y gwyddorau cymdeithasol.

3.1 Actorion pwrpasol?

Sail y ddamcaniaeth dewis rhesymegol yw fod actorion rhesymegol yn gwneud dewisiadau rhesymegol. Rhesymeg yw nodwedd ganolog y ddamcaniaeth, ond mae Lovett (2006: 240) yn gweld yr ‘actor’ fel tybiaeth ganolog y ddamcaniaeth. Hynny yw, ystyrir bod actorion yn meddu ar y gallu i ystyried a dewis (yn bwrpasol) o blith ystod o bosibiliadau cyn gweithredu neu ymdrechu i sylweddoli’r dewis hwnnw. O ganlyniad, nid oes rheidrwydd ar actorion i wneud dewisiadau rhesymegol ym mhob achos. Mae hwn yn ddehongliad mwy agored na’r sylw i resymeg a nodwyd uchod, ond mae’n llwyddo i adlewyrchu nifer o’r un elfennau wrth sicrhau perthnasedd ehangach. Yn glasurol, mae economeg wedi glynu at resymeg fel nodwedd o ymddygiad, tra mae disgyblaethau eraill o fewn y gwyddorau cymdeithasol yn ehangu’r diffiniad o’r ddamcaniaeth.

Mae corff poblogaidd o ymchwil ar economeg ymddygiadol a seicoleg gymdeithasol yn trafod hewristigiau a thueddiadau (gweler Kahneman & Tversky, 1979): corff o lenyddiaeth sydd wedi bod yn ddylanwadol drwy ddamcaniaeth pwniad bach (Thaler & Sunstein, 2008). Felly, mae ymdriniaeth y gwyddorau cymdeithasol yn gyffredinol yn wahanol i ymdriniaeth economeg, sy’n tueddu i bwysleisio rhesymeg fel rhinwedd normadol a disgrifiadol.

3.2 Actorion unigol?

Mae tuedd i ganolbwyntio ar yr unigolyn fel yr uned ddadansoddi. Nodwyd safbwynt unigoliaeth fethodolegol eisoes, ond ystyriaeth atodol i hyn yw canolbwyntio ar fodau unigol fel yr uned berthnasol. Yn rhannol, daw hyn law yn llaw â ffocws hanesyddol ar ymddygiad dynol mewn meysydd perthnasol o’r gwyddorau cymdeithasol, ac ystyrir bodau dynol fel enghreifftiau parod sy’n cydweddu â nodweddion y ddamcaniaeth. Yn gysylltiedig â hyn, y mae ystyried homo economicus (dyn economaidd) a bodau dynol fel actorion unigol ym maes economeg (Thaler, 2000).

Er y duedd i ganolbwyntio ar fodau unigol, nid bodau unigol yw’r unig actorion pwrpasol ac annibynnol; gall actorion ar y cyd fodloni’r diffiniad mewn nifer o achosion. Enghraifft glasurol o hyn yw gwaith Herbert A. Simon ar ymddygiad gweinyddol o fewn sefydliad gweinyddol (1947). Yn yr un modd, gellir ystyried bod gweithdrefnau a phrosesau sefydliad, corfforaeth, neu grŵp ar y cyd, yn bodloni’r canfyddiad o ddewis pwrpasol sydd wrth wraidd y ddamcaniaeth dewis rhesymegol.

3.3 Actorion annibynnol?

Yn olaf, ac yn yr un modd â’r hyn a nodwyd eisoes, nid yw’r amodau annibynnol a phwrpasol yn golygu nad oes posibilrwydd fod ffactorau neu gyfyngiadau allanol yn dylanwadu neu’n effeithio ar ddewisiadau ac ymddygiad. Yr egwyddor sylfaenol yw bod cyfleoedd i’r ‘actor’ dan sylw weithredu yn annibynnol ac yn bwrpasol (fel y disgrifiwyd eisoes). Er hyn, nid oes rheidrwydd ar yr actorion i ymddwyn yn gydnaws â hyn yn gyson. Ystyrir bod actorion perthnasol yn medru ymddwyn yn bwrpasol ac yn annibynnol mewn rhai sefyllfaoedd ond nid ydynt yn gwneud hynny ym mhob achos. Daw hyn yn rhannol o gydnabod nad yw natur annibynnol yr ‘actor’ yn golygu ei fod wedi’i ynysu rhag dylanwadau allanol (gan gynnwys rhwystrau i wireddu dewisiadau). Felly, addasiad o’r egwyddor a nodwyd uchod yw hyn: bod dewisiadau’n cael eu gwneud mewn cyflwr meddyliol sefydlog. Ystyriaeth ychwanegol i hyn yw’r berthynas ehangach rhwng yr unigolyn neu’r actor a’i gyd-destun ehangach. Nodwyd enghraifft berthnasol o hyn eisoes, lle ceir cydnabyddiaeth nad yw’n bosib i actorion wireddu eu holl amcanion a bod yn rhaid blaenoriaethu. Yn aml, cyfyngiadau cyd-destunol megis strwythur cymdeithas neu’r economi sy’n esbonio hyn.

4. Damcaniaeth dewis rhesymegol a Chymru

Mae nifer o ymchwilwyr wedi tynnu ar ddamcaniaeth dewis rhesymegol er mwyn egluro materion yn ymwneud â Chymru. Ar gyfer ei ymchwil ddoethurol, cynhaliodd Jones (2017a) gyfweliadau gyda phobl ifanc yng nghymoedd de Cymru am eu dyheadau ar gyfer y dyfodol. Archwiliodd Jones (2017a) i ba raddau yr oedd damcaniaeth dewis rhesymegol yn gallu egluro dyheadau’r bobl ifanc hyn. Yn ogystal, cymhwysodd Jones (2017b) ddamcaniaeth dewis rhesymegol er mwyn egluro dewisiadau rhieni ynghylch gyrru eu plant un ai i ysgol gyfrwng Gymraeg neu ysgol gyfrwng Saesneg.

5. Hygrededd disgrifiadol a’r defnydd o’r ddamcaniaeth dewis rhesymegol

Mae’r tensiynau o ran y ddamcaniaeth dewis rhesymegol yn y pen draw yn gorfod wynebu’r cwestiwn pa mor glòs y dylid glynu at nodweddion rhesymeg a’r unigolyn fel yr uned dan sylw. Yn aml, mae cwestiynau o’r fath yn tarddu o natur syml, eglur a ffurfiol y ddamcaniaeth. Dadl nifer yn y gwyddorau cymdeithasol yw nad yw damcaniaeth o’r fath yn ddigonol i ddisgrifio dewisiadau ac ymddygiad. Dyma ddadl glasurol rhwng theorïau normadol a rhai disgrifiadol. Tueddir i herio damcaniaethau megis y ddamcaniaeth dewis rhesymegol ar sail eu rhinwedd disgrifiadol: pa mor ddefnyddiol a chywir yw’r ddamcaniaeth wrth ddisgrifio dewisiadau neu ymddygiad ‘go-iawn’? Y mae tair ‘her’ ‘wedi ‘bedevilled attempts to depict theories of rational action as general theories of social action. These are the problems of collective action, of social norms. and of social structure’ (Scott, 2000: 131). Goblygiad yr heriau hyn yw’r angen posib i fynd y tu hwnt i’r ddamcaniaeth neu gefnu arni (Scott, 2000). Gellir dehongli ymgais Lovett yn ei adolygiad i grisialu’r ddamcaniaeth fel ‘a small bundle of core methodological assumptions’ (2006: 24) fel ymgais i oresgyn yr heriau hyn.

Yn rhannol, rydym yn cyfeirio yn ôl at y tensiwn rhwng amryw ddisgyblaethau yn yr achos hwn; tuedda economeg i lynu at un ddamcaniaeth, yn normadol ac yn ddisgrifiadol, tra mae seicoleg yn gwahaniaethu rhyngddynt (Thaler, 2000: 138). Yn yr un modd, noda Lovett fod y dadleuon sy’n ymosod ar y ddamcaniaeth dewis rhesymegol, neu’n ei chefnogi, naill ai ‘fail to correctly understand, or at least fail to sufficiently appreciate, the role rational choice theory plays in developing explanations of social phenomena’ (2006: 237). Felly, rhaid ystyried traddodiadau a safbwyntiau disgyblaethol amrywiol wrth ddefnyddio’r ddamcaniaeth dewis rhesymegol, ac yn wir wrth drafod cysyniadau creiddiol megis yr unigolyn neu resymeg.

Osian Elias

Llyfryddiaeth

Elster, J. (1989), The Cement of Society: A survey of social order (Cambridge: Cambridge University Press).

Jones, S., ‘The aspirations and expectations of young people attending a Welsh-medium and an English-medium school in the South Wales Valleys’, traethawd PhD, Prifysgol Caerdydd, 2017a.

Jones, S. (2017b), ‘What do we Know and not Know about Choice of Medium of Education in South-east Wales?’ Cylchgrawn Addysg Cymru 19 (2), 143–62.

Lovett, F. (2006), ‘Rational choice theory and explanation’, Rationality and Society, 18(2), 237–72.

Scott, J. (2000), ‘Rational Choice Theory’, yn Browning, G. K., Halcli, A., & Webster, F. [goln], Understanding Contemporary Society : theories of the present (London: Sage Publications), tt. 126–38.

Simon, H. (1947), Administrative Behavior: a Study of Decision-making Processes in Administrative Organization (New York: Macmillan).

Thaler, R. (2000), ‘From homo economicus to homo sapiens’, Journal of Economic Perspectives, 14 (1), 133–41.

Thaler, R. a Sunstein, C. (2008), Nudge: improving decisions about health, wealth, and happiness (New Haven: Yale University Press)

Tversky, A. a Kahneman, D. (1974), ‘Judgment under uncertainty: Heuristics and biases’, Science, 185 (4157), 1124–31.


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.