Plaid

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:50, 7 Medi 2024 gan AdamPierceCaerdydd (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

(Saesneg: Party)

Rydyn ni’n tueddu i gysylltu’r term ‘plaid’ â phleidiau gwleidyddol, sef sefydliadau sydd am ddylanwadu ar y wladwriaeth, yn aml drwy geisio meddiannu safleoedd mewn senedd fel Senedd Cymru drwy gystadlu mewn etholiadau (Ware 1995). Diffiniodd Max Weber, damcaniaethwr dylanwadol iawn ym maes y gwyddorau cymdeithasol, y term ‘plaid’ fel grŵp â buddiannau (interests) penodol sy’n ceisio dylanwadu ar lywodraeth ac ar bolisïau gwahanol. Felly, nid pleidiau gwleidyddol yn unig sydd o fewn cwmpas ddiffiniad Weber, ond hefyd garfanau pwyso (pressure groups), er enghraifft y BMA (Cymdeithas Feddygol Prydain, British Medical Association), corff proffesiynol sy’n cynrychioli meddygon a myfyrwyr meddygol; undebau llafur sy’n cynrychioli buddiannau gweithwyr, a charfanau ymgyrchu (campaign groups), er enghraifft carfanau sy’n ymgyrchu dros blant, anifeiliaid neu’r amgylchedd. Ceir rhagor o wybodaeth am garfanau pwyso yn e-lyfrau Elin Royles (2018a; 2018b), Carfanau Pwyso 1: Nodweddion a Mathau a Carfanau Pwyso 2: Dulliau Dylanwadu ac Effeithiolrwydd.

Ar y cyd â dosbarth cymdeithasol a statws, gwelodd Weber (1921/2019) fod plaid a phleidiau’n effeithio ar safleoedd unigolion a grwpiau mewn cymdeithas.

Siôn Jones

Llyfryddiaeth

Royles, E. (2018a), Carfanau Pwyso 1: Nodweddion a Mathau https://llyfrgell.porth.ac.uk/View.aspx?id=4090~4n~NQVt9lmF [Cyrchwyd: 23 Mehefin 2022].

Royles, E. (2018b), Carfanau Pwyso 2: Dulliau Dylanwadu ac Effeithiolrwydd https://llyfrgell.porth.ac.uk/View.aspx?id=4091~4o~orjSKwy3 [Cyrchwyd: 23 Mehefin 2022].

Ware, A. (1995), Political Parties and Party Systems (Oxford: Oxford University Press).

Weber, M. (1921/2019), Economy and Society; cyfieithwyd gan Keith Burns (Cambridge, MA: Harvard University Press).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.