D. T. Davies

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:03, 14 Awst 2014 gan Marc Haynes (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Ganed yr arolygydd ysgolion a dramodydd David Thomas Davies ar 24 Awst 1876 yn Nant-y-moel, Morgannwg, ac fe’i magwyd yn y Gelli, Ystrad Rhondda. Enillodd gradd B.A. o Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth, ac aeth i Lundain i ddysgu hyd nes y Rhyfel Byd Cyntaf, lle ymunodd â’r Ffiwsilwyr Cymreig.

Tra yn Llundain, cafodd gyfle i weld lawer o theatr Saesneg proffesiynol. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd Ibsen yn ddylanwad mawr ar lwyfannau Llundain. Ysgrifennodd Davies rhai dramâu yn ystod y cyfnod hwn, e.e. Ble Ma Fa? (1913) ac Ephraim Harris (1914). Tybia rhai bod ddylanwad Ibsen i’w weld ar ei waith.

Dychwelodd i Gymru ar ôl y rhyfel, a bu’n byw ym Mhontypridd ac yn gweithio fel arolygwr ysgolion. Gweithiodd dros hybu’r ddrama Gymraeg trwy ysgrifennu ar gyfer cylchgronau’r cyfnod, beirniadu mewn Eisteddfodau (megis yr Eisteddfod Genedlaethol), gweithio gyda’r mudiad drama yn Abertawe, ac wrth gwrs, ysgrifennu dramâu. Bu farw ym Mehefin 1962, a fe’i claddwyd ym Mhontypridd.

Llyfryddiaeth

  • D. T. Davies, Ble Ma Fa?, (Aberystwyth, 1913). [Drama]
  • D. T. Davies, Ephraim Harris, (Caerdydd, 1914). [Drama]
  • D. T. Davies, Where Is He?, cyfieithwyd gan D. T. Davies, (Stratford-upon-Avon, 1917). [Drama]
  • D. T. Davies, Castell Martin, (Caerdydd, 1920). [Drama]
  • D. T. Davies, Ffrois, (Caerdydd, 1920). [Drama]
  • D. T. Davies, Y Pwyllgor, (Caerdydd, 1920). [Drama]
  • D. T. Davies, ‘Welsh folk drama: its future’, Anglo-Welsh Review, (Ionawr 1920), t. 65.
  • D. T. Davies, ‘The Welsh Drama: important aspects of production’, The Western Mail, (17 Mawrth 1920), t. 8.
  • D. T. Davies, Branwen Ferch Llŷr, (Caerdydd, 1921). [Drama]
  • D. T. Davies, Y Dieithryn, (Caerdydd, 1922). [Drama]
  • D. T. Davies, Pelenni Pitar, (Abertawe, 1925). [Drama]
  • D. T. Davies, Troi’r Tir, (Caerdydd, 1926). [Drama]
  • D. T. Davies, Toriad Dydd, (Aberystwyth, 1932). [Drama]
  • D. T. Davies, Gwerthoedd, (Aberystwyth, 1936). [Drama]

Amdano

  • Saunders Lewis, ‘Welsh Drama: a speech and a play’, Cambria Daily Leader, (24 Hydref 1919), t. 5.
  • Saunders Lewis, ‘Drama Week: a retrospect’, Cambria Daily Leader, (25 Hydref 1919), t. 4.
  • D. T. Davies, ‘Welsh Drama Week’, The Western Mail, (6 Mawrth 1920), t. 10.
  • ‘ Welsh Drama in Cardiff’, The Western Mail, (15 Mai 1922), t. 6.
  • ‘Y Ddrama 1913–1936’, Barn, rhif 271, (Awst 1985), t. 295.
  • Menna Davies, ‘D. T. Davies (1876–1962)’, yn (gol.) Hywel Teifi Edwards, Cwm Rhondda (Cyfres y Cymoedd), (Llandysul, 1995), tt. 254–75.

Cyfeiriadau



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.