Hafan
Yr Esboniadur Daearyddiaeth
Ers nifer o flynyddoedd bellach gwelwyd cynnydd sylweddol yn y nifer o fodiwlau daearyddiaeth a ddysgir trwy gyfrwng y Gymraeg ar draws Cymru. Bwriad yr Esboniadur Daearyddiaeth yw llenwi’r bwlch mewn adnoddau addysg uwch cyfrwng Cymraeg ym meysydd daearyddiaeth ffisegol a dynol. Ar gyfer pob term, boed yn broses, tirffurf, damcaniaeth neu dechneg, ceir diffiniad, esboniad, enghreifftiau a llyfryddiaeth. Ysgrifennwyd yr esboniadau gan staff a myfyrwyr ol-raddedig adrannau daearyddiaeth Prifysgolion Aberystwyth ac Abertawe.
Llyfryddiaeth Theatr Cymru Gynnar
Mae'r adnodd hwn yn cynnwys llyfryddiaeth yn ymdrin â gweithgaredd dramataidd a theatraidd yng Nghymru yn ystod yr hanner canrif rhwng 1880 a 1940. Cyflwynir dramodwyr a llyfryddiaeth o'u gweithiau oedd yn weithgar yn y cyfnod a chanolir ar weithiau a gyhoeddwyd a/neu sydd â gwybodaeth bendant ynghylch teitlau, awduron ayb. Datblygwyd yr adnodd hwn er mwyn cyfoethogi'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ym maes Theatr Cymru Gynnar a chynorthwyo myfyrwyr i ddarganfod deunydd cyfeiriol a chefndirol yn y maes.
Mae cynnwys yr adnodd hwn wedi'i ryddhau dan y drwydded hawlfraint Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International.