Gelert
Crynodeb
Defnyddir y chwedl hanesyddol boblogaidd o Dywysog Llywelyn a'i gi Gelert i ddehongli pwysigrwydd cyfeillgarwch a ffyddlondeb ynghyd â'r perylg o ddicter a diffyg meddwl.
Mae'r ddyfais o stori tu fewn i stori yn cysylltu cymeriadau'r hogyn a'i gi dros amser (Llew/Gel yn y presennol, Llywelyn/Gelert yn hanesyddol). Trwy glywed am hanes trist Llywelyn Tywysog Gwynedd yn lladd Gelert trwy gamddealltwriaeth, mae'r hogyn ifanc LLew yn dysgu'r pwysigrwydd o werthfawrogi ei gi, Gel.
Animeiddiad uchelgieisol sy'n cynnwys golygfeydd cefndirol CGI gyda 600 o olygfeydd. Mae Gelert yn enghraifft dda o'r cryn gynnydd yn safon animeiddio yn y diwydiant Cymreig.
Manylion Pellach
Teitl Gwreiddiol Gelert
Blwyddyn 2007
Hyd y Ffilm 25 munud
Darlledwr S4C
Dyddiad y darllediad cyntaf 25.12.2007
Cyfarwyddwr Hywel Griffith
Sgript gan Mei Jones
Addasiad o Chwedl
Cynhyrchydd Hywel Griffith Cwmni Cynhyrchu Griffilms
Genre Animeiddiad Plant
Hawlfraint Griffilms