Alegori

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Dameg estynedig sydd drwyddi’n pwysleisio’i hystyr symbolaidd. ‘Aralleg’ meddem weithiau, ac ni adewir inni byth anghofio’r ‘arall’. Lluniodd John Bunyan hanes pererindod y Cristion drwy anialwch y byd hwn, ac yn hytrach na galw’i bererin yn ‘John’, galwodd ef yn ‘Cristion’. Rhoddodd iddo gyfaill ffyddlon, ac yn lle ei alw’n ‘William’, galwodd ef yn ‘Ffyddlon’. Pan ddaw at ffair sy’n cynrychioli gwagedd a chors sy’n cynrychioli anobaith, fe’u gelwir yn ‘Ffair Wagedd’ (Vanity Fair) a ‘Chors Anobaith’ (the Slough of Despond). Ac fel yna ymlaen. Wrth gyflwyno’i gerdd hir ‘Bywyd a Marwolaeth Theomemphus’, mynnodd Pantycelyn: ‘Ni ellir ei alw yn alegori, am fod y personau yn wir ddynion’. Ond anodd meddwl nad oes dyled i’r traddodiad alegorïaidd yn enw Theomemphus (Ceisiwr Duw), ac enwau cymeriadau eraill megis Aletheius (Gwirionedd), Seducus (Hud-ddenwr), Abasis (Disylfaen), Philomede (Hoff o Fwlio) etc. Nid yw hyn yn rhwystro iddynt fod yn ‘wir ddynion’, mwy nag y rhwystrodd gymeriadau Bunyan.

Bu alegori yn un o hoffterau mawr bydoedd llenyddol yr Oesau Canol a’r Dadeni. Gwaith poblogaidd a mawr ei ddylanwad fu ‘Le Roman de la Rose’, o ddwylo dau awdur Ffrangeg o’r 13-14g., yn dilyn troeon yr ymchwil am y rhosyn prin, sef Serch. Ceir cymeriadau fel Bel-Accueil (Croeso), Dangier (Perygl) a Faux-Semblant (Rhagrith). Alegorïaidd drwyddi yw ‘The Faerie Queene’ gan Edmund Spenser, epig Saesneg Oes Elizabeth. Erys elfen alegorïaidd gref yng ngweithiau Morgan Llwyd yn y 17g., Llyfr y Tri Aderyn yn arbennig, ac ymhen canrif eto fe’i gwelir drwy anterliwtiau Twm o’r Nant: rhag ofn inni anghofio sut rai ydynt, gelwir y Cybyddion yn ‘Rhinallt Ariannog’, ‘Hywel Dordyn’, ‘Mr Blys y Cwbl’, a’r Ffyliaid yn ‘Syr Iemwnt Wamal’, ‘Mr Rhyfyg Natur’, ‘Mr Pleser’, ‘Mr Oferedd’; i ymuno â hwy daw ‘Cariad Perffaith’, ‘Gofid’, ‘Cydwybod’, ‘Madam Duwioldeb Crefydd’ a nifer o rai eraill.

Erbyn Oes Victoria darfyddasai alegori yn ei ffurf buraf, ond erys gweddillion yn y nofel. Yng ngwaith Charles Dickens nid oes fawr amheuaeth sut ddyn yw ‘Mr Gradgrind’ na sut ysgol yw ‘Dotheboys Hall’. Mae ambell gymeriad gan Daniel Owen ag arlliw alegorïaidd ar ei enw, – ‘Sharp Rogers’, ‘Mr Smart’ a ‘Mr Strangle’. Amgylchynir ‘Ffermwr Careful Cilhaul Uchaf’ yn stori Samuel Roberts gan lu o gymeriadau ag enwau Saesneg neu hanner-Saesneg eto, – Ned Slow a’i wraig Peggy Slwt Slow, Billy Active, Tomi Strong etc.

Fel doniolwch y goroesodd elfennau alegorïaidd i’r ugeinfed ganrif, ond gwelwn gysondeb alegori drwy ddameg enwog George Orwell, Animal Farm, gyda phob anifail yn cynrychioli rhyw garfan neu’i gilydd yn nhrybestod y Chwyldro Comiwnyddol.

Dafydd Glyn Jones

Llyfryddiaeth

Lewis, C. S. (1936), The Allegory of Love. A Study in Mediaeval Tradition (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen).

MacQueen, J. (1970), Allegory (Llundain: Methuen).

Bevan, H. (1950), Alegorïau Christmas Evans (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).