Arwrol

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:13, 20 Gorffennaf 2016 gan SeimonBrooks (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Daw’r ansoddair hwn o’r enw 'arwr' (ar- + gŵr): mae ffurfiant y gair yn awgrymu mai 'g˘r rhagorach' oedd yr arwr, yn ddyn arbennig. Defnyddid y gair 'arwr' gan y Cymry cynnar i ddynodi rhyfelwr nodedig, dyn a chanddo ddewrder eithriadol mewn brwydr. Dyma’r gair a saif ar ddechrau un o awdlau'r Gododdin, awdl sy’n moli gwrhydri eithafol y milwr Buddfan fab Bleiddfan: sonnir am ei gyflymder ar faes y gad, ei allu disglair i drin arfau, a'i barodrwydd i aberthu ei fywyd ei hun: dywedir i’w gorff fynd yn ysglyfaeth i’r adar, yn fwyd i frain. Awgryma’r awdl hon, fel darnau eraill o’r Gododdin, mai clod tragwyddol yw’r wobr am arwriaeth y milwyr. Fel y dywed hen ddihareb Gymraeg: 'Hwy clod no hoedl', ‘Mae clod yn para’n hwy nag einioes’.

Cynyddu a wna’r enghreifftiau o’r gair arwr yng ngwaith y beirdd wrth iddynt foli a marwnadu tywysogion y 12-13g. a'u swyddogaeth fel cadfridogion rhyfel; defnyddid y gair gan y Cywyddwyr wrth ganmol campau milwrol eu noddwyr hwythau. Nid oedd gan y gair Cymraeg erioed y cynodiadau goruwchnaturiol neu ddwyfol a berthynai weithiau i’r hen air Groeg hērōs (y gair a roes Saesneg hero). Erbyn heddiw, mae’r gair 'arwr' (ac 'arwres', a gofnodwyd gyntaf yn 1798) yn cyfeirio nid at ryfelwyr yn unig, ond at bobl a chanddynt nodweddion rhagorol a chanmoladwy: ar ben rhestr 100 Arwr Cymru yn 2003-4 yr oedd Aneurin Bevan, Owain Glynd˘r a’r canwr Tom Jones. Yn 2016, roedd pêl-droedwyr tîm Cymru yn 'arwyr' cenedlaethol. Yn yr un modd, gellid canmol rhywun am ei ‘waith arwrol’ yn gweithio’n galed dros ryw achos da. Mae’r geiriau 'arwr' ac 'arwrol' (a ddaeth i ddisodli’r hen ansoddair canoloesol 'arwraidd') yn cael eu defnyddio mewn sawl ffordd benodol wrth drafod llenyddiaeth. Hawdd adnabod arwr nofel neu ffilm. Ef, fel arfer, yw’r prif gymeriad, ac y mae disgwyl inni gydymdeimlo ag ef, neu weld y stori o’i safbwynt yntau: Harri Vaughan yw arwr diymwad nofel Cysgod y Cryman (1953) gan Islwyn Ffowc Elis, a hynny er gwaethaf rhai diffygion yn ei gymeriad. Mae 'gwrtharwr' hefyd yn bod: cymeriad canolog diffaith neu dda-i-ddim yw hwn, fel arfer, ond un sy’n hoelio ein sylw os nad ein hedmygedd.

Defnyddir y termau 'canu arwrol', 'barddoniaeth arwrol' neu 'lenyddiaeth arwrol' i ddynodi gweithiau sy’n ymwneud ag arwyr o fath Buddfan fab Bleiddfan yn Y Gododdin. Gall y gweithiau hynny fod yn gynnyrch uniongyrchol cymdeithas ryfelgar fel honno a fodolai yn y 6g. wrth i’r Cymry cynnar amddiffyn eu tir a’u daear rhag eu gelynion. Nod y gyfryw lenyddiaeth fyddai adlewyrchu meddylfryd y rhai hynny a reolai’r gymdeithas — yr aristocrasi fel arfer — a gwasanaethu eu buddiannau drwy gymell dewrder hyd angau fel delfryd. Ond fe all 'llenyddiaeth arwrol' hefyd fod yn gynnyrch cymdeithas sy'n edrych yn ôl ar gampau tybiedig yr oesoedd cynt ac yn eu mawrygu, weithiau er mwyn goreuro gorffennol llinach, neu garfan neu genedl. Enghraifft o hyn fyddai'r cerddi epig hirfaith a astudiodd Milman Parry mewn rhan o'r hen Iwgoslafia (Bosnia erbyn hyn) yn nhridegau'r 20g., ac a ddisgrifiwyd yn llyfr dylanwadol ei ddisgybl, Albert B. Lord, The Singer of Tales (Cambridge, MA, 1960).

Dadleuodd H.M. Chadwick yn ei lyfr The Heroic Age (London, 1912), ac yna'n llawnach yn nhair cyfrol The Growth of Literature (Cambridge, 1932-40) fod llenyddiaethau'n 'esblygu', a bod nifer ohonynt yn mynd drwy 'oes arwrol' a fyddai'n parhau fel oes aur arwriaeth i lenorion diweddarach. Yn llenyddiaeth gwlad Groeg, y cyfnod tuag adeg cwymp Caerdroea fyddai hynny, ac mewn llenyddiaeth Gymraeg, oes dybiedig y beirdd Aneirin a Thaliesin yn y 6g. Datblygwyd y syniadau hyn gan C.M. Bowra yn Heroic Poetry (London, 1952). Beirniadwyd y rhagdybiaethau esblygiadol, a'r cysylltiad annatod a wneid gan rai rhwng llenyddiaeth arwrol a llenyddiaeth lafar, gan Ruth Finnegan, Oral Literature: Its Nature, Significance and Social Context (Cambridge, 1977).

Marged Haycock

Llyfryddiaeth

Jarman, A.O.H. (1965), 'Y Delfryd Arwrol yn yr Hen Ganu', Llên Cymru, 8, 125-49.


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.