Golygydd
Cyfeiria ‘golygydd’ mewn ystyr cyffredinol at amrywiaeth eang iawn o swyddi sy’n ymdrin (er mwyn ei newid neu ei gywiro) â deunydd a baratoir ar gyfer cynulleidfa gyhoeddus – ymdrin â thestun ysgrifenedig yn bennaf a wna golygydd, ond hefyd â deunydd gweledol ar draws y tirlun diwylliannol. Mae ‘golygydd’ felly’n enw amhenodol a all gyfeirio at olygydd newyddion (print neu deledu) neu olygydd i’r sgrîn fawr (sgript neu ffilm); at olygydd gwasg gyhoeddi (sy’n goruchwylio safon deunydd cyhoeddedig y wasg) neu olygydd cyfrol unigol (sy’n gwarantu cywirdeb a safon arbenigol cyfraniadau i’r gyfrol); neu, a chamu oddi wrth yr ystod diwylliannol, at olygydd rhaglenni cyfrifiadurol neu olygydd genynol (ym maes ymchwil therapi genynol). Fe ddigwydd yn ogystal ac yn fynych fel enw atodol ar swyddi sy’n arolygu neu’n comisiynu (yn hytrach na golygu) deunydd a gynhyrchir gan eraill – ac ar dro fe’i ddefnyddir yn yr ystyr yma yn ein llenyddiaeth mwyaf coeth, cf. Doethineb Salomon yn Apocrypha 1620, ‘oblegid Duw fydd … yn wir olygydd ei galon ef, ac yn gwrando ei ymadroddion ef’ (cyfieithir ‘golygydd’ yn fwy manwl-gywir i’w ddefnydd cyfoes fel ‘archwiliwr’ erbyn fersiwn newydd diwygiedig, ond tipyn llai coeth, 2004). Yn wir, camddefnyddir ‘golygydd’ yn bur aml er cyffredinoli mewn perthynas â phrosesu (gwirio neu brawfddarllen) testun.
Dafydd W. Jones
Llyfryddiaeth
Morgan, W. (1588; fersiwn diwygiedig Richard Parry 1620), Y Beibl Cyssegr-lân (Llundain: Bonham Norton a John Bill).
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.