Empeiriaeth
Ysgol o athroniaeth ym maes epistemoleg (yr astudiaeth o natur gwybodaeth) yw empeiriaeth, a ddatblygodd yn arbennig yn y 18g. Yn ôl hanes traddodiadol athroniaeth y gorllewin fe’i deellir fel ymateb i resymoliaeth Rene Descartes, a’i gwreiddiau yn safbwynt Aristoteles a oedd yn mawrygu pwysigrwydd y synhwyrau yn groes i’w athro, Platon. Mae’r Ffrancwr Descartes, tad athroniaeth fodern, yn adnabyddus am ei gred mai’r meddwl yw sail pob gwybodaeth ac nad oes modd dibynnu ar y synhwyrau fel ffynhonnell ddibynadwy. Ymhlyg yn y ddamcaniaeth hon y mae’r gred bod y meddwl wedi’i ddodrefnu gyda rhagwybodaeth o wirioneddau sylfaenol, a’r gallu i ymresymu.
Perthyn Leibniz a Spinoza i’r traddodiad ‘cyfandirol’ hwn, a wrthwynebwyd yn fwyaf enwog gan yr Empeirwyr ‘Prydeinig’ fel John Locke, George Berkeley a David Hume. Iddynt hwythau, ‘llechen lân’ yw’r meddwl heb unrhyw wybodaeth neu strwythurau sylfaenol sydd yn cyflyru ein canfyddiad o’r byd. O’r herwydd, mae ein gwybodaeth yn seiliedig ar yr wybodaeth rydym yn ei ganfod trwy’r synhwyrau yn unig. Awgryma hyn hanfod empeiriaeth, sef mai profiad yw sail pob gwybodaeth, fel yr awgryma etymoleg y term, a ddaw o’r gair Groegaidd am brofiad.
Datblygodd safbwyntiau gwahanol ar empeiriaeth yn y 19g. a’r 20g. Daeth empeiriaeth yn gyfraniad bwysig at seiliau’r arddull gwyddonol, a’i bwyslais ar ganfod gwybodaeth sicr am y byd trwy ddulliau o brofi ac arbrofi. Yn ddiweddarach, yn enwedig gyda datblygiad safbwyntiau beirniadol megis ôl-foderniaeth ac ôl-drefedigaethedd, mae nifer wedi cwestiynu'r statws dyrchafedig mae’r safbwynt empeiraidd wedi ei briodoli i wybodaeth wyddonol, gan awgrymu iddo gael ei ddefnyddio ar adegau fel arf i danseilio ffurfiau eraill o wybodaeth. Ceir ffurf ar y math yma o feirniadaeth yn ogystal yn Athroniaeth Crefydd y Cymro, Dewi Z. Phillips. Honna bod dadlau yn erbyn bodolaeth Duw ar sail empeiriaeth yn ffurf o ddryswch athronyddol, lle mae’r ‘byd-darlun’ gwyddonol yn cael ei ddefnyddio er mwyn tanseilio byd-darlun crefyddol na ellir ei gymhwyso’n rhesymegol at ofynion empeiraidd.
Huw Williams
Llyfryddiaeth
Davies, C. (2009), ‘Breuddwyd Descartes: Method a Metaffiseg’ yn Daniel, J. a Gealy, W. (goln), Hanes Athroniaeth y Gorllewin (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), tt. 187-204.
Evans, M. (2009), ‘David Hume’ yn Daniel, J. a Gealy, W. (goln), Hanes Athroniaeth y Gorllewin (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), tt.309-335.
Phillips, D. Z. (1974), Athronyddu am Grefydd: Cyfeiriadau Newydd (Llandysul: Gwasg Gomer).
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.