Canu cocosaidd

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:28, 4 Ebrill 2018 gan MariFflur (Sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i: llywio, chwilio

Canu yn null John Evans (1827?-95), ‘Y Bardd Cocos’ o Borthaethwy, Môn. Trwy estyniad aed i ddefnyddio’r term am unrhyw brydyddiaeth gloff. Cymeriad diniwed oedd y Bardd Cocos gwreiddiol, ag uchelgais farddol fawr ond heb unrhyw amgyffred o fesur nac aceniad, dim ond obsesiwn ag odl, honno’n cael ei harfer yn brennaidd ailadroddus. Testunau ei ganu oedd damweiniau a thrychinebau’r oes, teyrngedau i wŷr enwog, a’i fyfyrdodau ei hun ar fywyd. Weithiau drwy’r cyfan fe drawai’r Bardd ar ambell gwpled cofiadwy:

Fydd yr awen ddim yn fflash
Heb fwstash;

neu ambell wirionedd sy’n ein hoelio:

Mae Prince of Wales wedi priodi
A miloedd heddiw’n byw mewn tlodi.

Cafwyd ‘beirdd cocosaidd’ eraill, a daeth y ‘gerdd gocosaidd’ yn eitem mewn adloniant. Ond pethau amhur yw cerddi cocos modern, yn tueddu at ergydion ffraeth a diweddglo trawiadol. Carbwleidd-dra diniwed yw hanfod y cocoswaith gwreiddiol, – ac eto nid yn yr iaith, sy’n hollol gywir.

Yn William McGonagall (‘The Great McGonagall’) (1830-1902) cafodd yr Alban ei henwog fardd cocos ei hun. Ie, ‘gwŷr o athrylith’ chwedl bardd arall, ond nad oedd ‘mesur eu llathen hwy yr un hyd â llath’.

Dafydd Glyn Jones

Llyfryddiaeth

Jones, D. G. (2014), Hen Lyfr Bach y Bardd Cocos (Bangor: Dalen Newydd).

Ceiriog, H. ac Ap Dafydd, M. (1998), Perlau Cocos. Casgliad o Waith Beirdd Cocosaidd (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.