Gohebydd
Saesneg: Correspondent, ynghyd â reporter, stringer, foreign correspondent
Mae gohebydd neu ‘riportar’ yn casglu gwybodaeth er mwyn ei adrodd fel newyddion.
Yn nyddiau’r papurau newydd cynnar, yr argraffydd ei hun oedd yn casglu pytiau a gohebiaeth, ond erbyn y 1830au cyflogwyd gohebwyr i wneud y gwaith hwn.
Roedd y gohebwyr (correspondents) cynnar yn ysgrifennu darnau hir a manwl (a oedd weithiau’n hunandybus) am fasnach, busnes a gwleidyddiaeth. Gwaith y riportars oedd gweithredu fel stenograffyddion yn casglu storïau o ddiddordeb oddi wrth y sefydliadau lleol, megis y llysoedd a’r heddlu.
Ym marn Barnhurst a Nerone (2001), wrth i’r amser fynd yn ei flaen, enillodd gohebwyr (reporters) fwy o fri, braint a llais awdurdodol, ac aeth y gwahaniaeth rhwng y ddau yn llai. Serch hynny, mae gohebydd (reporter) yn parhau i gael ei adnabod fel y sawl sydd â’r gallu i adrodd y ffeithiau yn gywir heb eu dehongli neu fynegi barn amdanynt.
Erbyn heddiw, mae’r term ‘correspondent’ yn cael ei ddefnyddio i wahaniaethu rhwng newyddiadurwr arbenigol sy’n gyfrifol am ysgrifennu neu adrodd ar bwnc penodol (e.e. iechyd neu ardal ddaearyddol fel De Affrica), a gohebydd neu newyddiadurwr cyffredinol. Gall gohebwyr hefyd weithredu’n nes at adref, fel gohebwyr lleol, neu ar patch lle maen nhw’n cynhyrchu adroddiadau ar newyddion lleol yr ardal benodol honno’n rheolaidd.
Mae rhai newyddiadurwyr yn gweithio fel gohebwyr rhan amser, neu fel ‘stringer’, nad ydynt yn aelodau o staff y sefydliad newyddion. Cânt eu talu yn ôl hyd y darn ysgrifenedig neu ddarllediad.
Fel arfer, gohebwyr lleol ydyn nhw sydd yn cynyddu eu hincwm trwy werthu storïau i sefydliadau newyddion eraill. Cyflogir y rhain yn aml er mwyn adrodd ar ddigwyddiadau sy’n gysylltiedig â lleoliad daearyddol penodol. Mae eu gwerth i’r cyflogwyr yn deillio o’r ffaith eu bod wedi’u trwytho yn iaith, diwylliant a daearyddiaeth yr ardal. Yn ogystal, mewn oes o gyni pan fo hi’n anodd cyfiawnhau cyflogi gohebydd tramor parhaol, mae’r newyddiadurwr llawrydd yn ddefnyddiol iawn i sefydliadau newyddion pan fo’n rhaid ymateb ar frys i ddigwyddiadau o argyfwng, megis rhyfeloedd, terfysgaeth neu drychinebau naturiol.
Llyfryddiaeth
Barnhurst, K. G. a Nerone, J. 2001. The Form of News: A History. New York: Guilford
Gweler hefyd y cofnod gohebydd yn yr Esboniadur Beirniadaeth a Theori.
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.