Casglu newyddion
Saesneg: Newsgathering
Y broses o gasglu gwybodaeth gyda’r bwriad o’i droi’n newyddion. Mae nifer o unigolion mewn rolau amrywiol yn casglu newyddion, gan gynnwys gohebwyr, golygyddion, golygyddion copi, ffotograffwyr a chynhyrchwyr, ymhlith eraill. Mae pob un ohonynt yn gweithio ar y cyd i droi gwybodaeth ‘amrwd’ yn stori newyddion, gan ddibynnu ar gyfyngiadau’r cyfrwng y bydd yn ymddangos ynddo.
Gan fod technolegau casglu gwybodaeth wedi esblygu, mae’r weithred o gasglu newyddion wedi amrywio. Mae newyddiadurwyr yn wynebu heriau sy’n gysylltiedig â defnyddio offer o gofnodi, cael mynediad i lysoedd a safle trosedd, neu ymdrin ag achosion o gyfrinachedd. Mae’r termau a ddefnyddir i gasglu deunydd newyddion hefyd wedi newid ar hyd y blynyddoedd, e.e. yr acronym darlledu ENG (electronic newsgathering), SNG (satellite newsgathering) a DSNG (digital satellite news gathering, lloeren ddigidol), sy’n defnyddio offer cyfathrebu symudol ar gyfer dosbarthu lluniau a sain ledled y byd. Er nad yw’r hawl i gasglu newyddion yn cael ei warantu gan y gyfraith, mae’n ganolog i allu newyddiadurwyr i gynhyrchu gwybodaeth.
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.