Hafan

Oddi ar WICI
Fersiwn yn ôl 08:46, 26 Medi 2013 gan Dafydd James (sgwrs | cyfraniadau) (Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ' == Yr Esboniadur Daearyddiaeth == Ers nifer o flynyddoedd bellach gwelwyd cynnydd sylweddol yn y nifer o fodiwlau daearyddiaeth a ddysgir trwy gyfrwng y...')
(gwahan) ← Fersiwn hŷn | Fersiwn ddiweddaraf (gwahan) | Fersiwn ddiweddarach → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Yr Esboniadur Daearyddiaeth

Ers nifer o flynyddoedd bellach gwelwyd cynnydd sylweddol yn y nifer o fodiwlau daearyddiaeth a ddysgir trwy gyfrwng y Gymraeg ar draws Cymru. Bwriad yr Esboniadur Daearyddiaeth yw llenwi’r bwlch mewn adnoddau addysg uwch cyfrwng Cymraeg ym meysydd daearyddiaeth ffisegol a dynol. Ar gyfer pob term, boed yn broses, tirffurf, damcaniaeth neu dechneg, ceir diffiniad, esboniad, enghreifftiau a llyfryddiaeth. Ysgrifennwyd yr esboniadau gan staff a myfyrwyr ol-raddedig adrannau daearyddiaeth Prifysgolion Aberystwyth ac Abertawe.


Pori Pob Term