Hafan
Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:43, 3 Rhagfyr 2013 gan Elis Glynne (Sgwrs | cyfraniadau)
Yr Esboniadur Daearyddiaeth
Ers nifer o flynyddoedd bellach gwelwyd cynnydd sylweddol yn y nifer o fodiwlau daearyddiaeth a ddysgir trwy gyfrwng y Gymraeg ar draws Cymru. Bwriad yr Esboniadur Daearyddiaeth yw llenwi’r bwlch mewn adnoddau addysg uwch cyfrwng Cymraeg ym meysydd daearyddiaeth ffisegol a dynol. Ar gyfer pob term, boed yn broses, tirffurf, damcaniaeth neu dechneg, ceir diffiniad, esboniad, enghreifftiau a llyfryddiaeth. Ysgrifennwyd yr esboniadau gan staff a myfyrwyr ol-raddedig adrannau daearyddiaeth Prifysgolion Aberystwyth ac Abertawe.