Wynne, David (1900-83)

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:55, 21 Ebrill 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Am flynyddoedd lawer, gallai David Wynne (ei enw llawn oedd David Wynne Thomas) hawlio mai ef oedd cyfansoddwr hynaf Cymru. Ond o safbwynt arddull ac ysbryd parhaodd ymhlith yr ieuengaf, yn arbennig felly yn ei weithiau blaengar o’r 1960au ymlaen. Mae cwrs ei fywyd yn ddrych o gwrs hanes Cymru yn ystod ei gyfnod. Fe’i ganed yn y Gymru ddiwydiannol ym Mhenderyn ger Hirwaun ac wedi ei addysg gynradd aeth i weithio o dan ddaear yng nglofa’r Albion, Cilfynydd, ac yntau’n bedair ar ddeg mlwydd oed. Cychwynnodd wersi cerddoriaeth gyda Tom Llewellyn Jenkins, athro cerdd ac organydd lleol, a datblygodd yn gyflym.

Yn 1925 enillodd Ysgoloriaeth Morgannwg i astudio yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd, gan fynd yn syth i flwyddyn olaf y cwrs. Yn 1929 fe’i penodwyd yn bennaeth cerdd Ysgol Lewis Pengam (lle bu’n dysgu Mervyn Burtch (1929-2015) a Robert Smith (1922-98) ymhlith eraill) a chredir mai ef oedd yr athro cerdd amser llawn cyntaf yng Nghymru.

Derbyniodd radd DMus Prifysgol Cymru yn 1938 ond ennill Gwobr Goffa Clements am ei Bedwarawd Llinynnol Rhif 1 yn 1944 a’i sbardunodd i droi at gyfansoddi, a daeth yn un o gyfansoddwyr pwysicaf Cymru yn y cyfnod wedi’r Ail Ryfel Byd. Comisiynau oedd y mwyafrif o’i weithiau wedi hyn. Ymddeolodd yn 1960 ond parhaodd fel athro, yn gyntaf yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd (wedi hynny Coleg Cerdd a Drama Cymru) ac yna yn adran gerdd Prifysgol Cymru, Caerdydd. Bu farw yn ei gartref yn Hengoed yng Nghwm Rhymni tra oedd yn gweithio ar ei Bedwaredd Symffoni.

Mae llawer wedi sylwi ar y gwrthddywediad rhwng ei bersonoliaeth gynnes, ei ddull tawel o lefaru, ei urddas a’i garedigrwydd fel athro ar un llaw ac ar y llaw arall y gerddoriaeth ddi-ildio, ymwthgar a grëwyd ganddo ar brydiau. Mae ei weithiau cynnar yn ddyledus i systemau cyfansoddwyr Ewropeaidd o hanner cyntaf yr 20g. megis Paul Hindemith, Béla Bartók ac eraill, ond erbyn diwedd yr 1950au a’r 1960au fe’i gwelir yn arbrofi fwyfwy gyda’r system gromatig gyflawn mewn modd sy’n dwyn i gof waith yr Americanwr Elliott Carter a’r cyfansoddwr o wlad Pwyl Witold Lutosławski dyweder.

Yn gynnar yn ei yrfa cerddoriaeth siambr a oedd yn mynd â’i fryd (fel nifer o’i gyfoeswyr yng Nghymru), er enghraifft yn y Triawd Llinynnol (1945), Sonata Rhif 1 a Rhif 2 i’r Ffidil (1948, 1957) a nifer o weithiau pwysig eraill. Gadawodd nifer helaeth o weithiau siambr nodedig ac mae’r pum pedwarawd llinynnol yn hollol nodweddiadol o’i ddatblygiad fel cyfansoddwr. Ei Symffoni Rhif 3 Castell Caerffili (1963) yw un o’i weithiau gorau, gyda’i afael feistrolgar ar gystrawen yn amlwg o’r dechrau.

Roedd iaith a diwylliant Cymru yn ddylanwad pendant ar ei waith. Fe’i hysbrydolwyd gan farddoniaeth gynnar ei famwlad ac elfen gyson trwy ei waith yw’r diddordeb angerddol mewn mydr. Awgrymwyd bod ‘hwyl’ pregethwyr ei gyfnod wedi dylanwadu arno hefyd. Cyfansoddodd rai gweithiau sy’n amlwg ‘Gymreig’ megis y Cymric Rhapsody Rhif 1 (1965) a Rhif 2 (1969) ynghyd â gweithiau eraill fel ei drefniannau o alawon gwerin. Yn Owain ab Urien mae’n gosod barddoniaeth o’r 6g. ar gyfer côr meibion ac offerynnau taro - un o’r ychydig weithiau o’i fath. Yma, mae mydr y farddoniaeth yn dylanwadu’n drwm ar y gerddoriaeth sy’n cyrraedd uchelfannau creadigol Janáčekaidd. Nid ar chwarae bach y mae perfformio gwaith o’r fath ond roedd Wynne yn ffodus fod Côr Meibion Pendyrus, o dan arweiniad Glynne Jones, ar gael i’w berfformio yn y Festival Hall, Llundain yn 1967, gyda grŵp pres Philip Jones yn cyfeilio. Yn ddiau dyma un o’r gweithiau pwysicaf yng nghanon cerddoriaeth Cymru.

David Wynne oedd un o gyfansoddwyr pwysicaf a mwyaf mentrus Cymru yn y cyfnod tyngedfennol wedi 1945 ac mae ei weithiau gorau yn rhagorol.

Lyn Davies

Disgyddiaeth

  • Pumawd Piano Op. 20 (1964) yn Ian Parrott, David Harries, David Wynne (Lyrita SRCD284, 2008 [1971])

Llyfryddiaeth

  • Richard Elfyn Jones, David Wynne (Caerdydd, 1978)
  • Nodiadau Paul Conway ar gyfer recordiad Ian Parrott, David Harries, David Wynne (Lyrita SRCD284, 2008 [1971])
  • Archif Tŷ Cerdd
  • Archif a Llyfrgell Prifysgol Caerdydd



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.