Duffy (g.1984)

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:28, 19 Mawrth 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ganed y gantores Duffy (neu Aimée Ann Duffy i roi ei enw llawn) ym Mangor ar 23 Mehefin 1984. Cafodd ei magu yn Nefyn ac yn ddiweddarach yn Nhreletert ger Abergwaun. Ar ôl dychwelyd am gyfnod i Lŷn bu’n astudio yng Ngholeg Meirion Dwyfor ac yna ym Mhrifysgol Caer, cyn cychwyn ar ei gyrfa gerddorol fel cantores.

Yn 2003 ymddangosodd fel cystadleuydd ar y gyfres gerddorol Wawffactor ar S4C gan gipio’r ail safle (Lisa Pedrick oedd yn fuddugol). Yn dilyn ei llwyddiant ar y rhaglen rhyddhaodd yr EP Aimée Duffy (2004) ar label Awen. Derbyniodd yr EP glod gan y cyfryngau Cymraeg gan ddod i’r brig ar un o siartiau C2 yn 2008. Ar ôl symud i Lundain a chael ei chyflwyno i unigolion blaenllaw fel Jeanette Lee o recordiau Rough Trade, awgrymwyd y dylai fabwysiadu cerddoriaeth soul fel ei phrif genre. Yn dilyn hynny arwyddwyd Duffy gan label A&M Records a chafodd gyfle i recordio ei halbwm cyntaf, Rockferry (A&M, 2008).

Bu llwyddiant Rockferry yn gwbl syfrdanol. Gwerthodd 180,000 o gopïau yn ystod yr wythnos ar ôl cael ei ryddhau, ac arhosodd ar frig y siartiau am fis. Bu’r gwerthiant yn bennaf o ganlyniad i boblogrwydd y sengl ‘Mercy’ a ryddhawyd fis yn gynharach na’r albwm, gan fynd yn syth i frig siartiau senglau Prydain. Enwebwyd y sengl ar gyfer un o wobrau Grammy’r flwyddyn honno, ac mae’r gân wedi cael ei defnyddio droeon ers hynny ar gyfer rhaglenni teledu megis ER, Gray’s Anatomy a Smallville. ‘Mercy’ oedd y gân gyntaf gan gantores Gymreig i gyrraedd brig y siartiau Prydeinig ers ‘Total Eclipse of the Heart’ gan Bonnie Tyler bum mlynedd ar hugain ynghynt. Hyrwyddodd Duffy ei halbwm ymhellach drwy gyfrwng perfformiadau amrywiol ar raglenni fel Later with Jools Holland. Daeth llwyddiant iddi yn yr Unol Daleithiau hefyd gydag ymddangosiadau ar raglenni megis Late Night with Conan O’Brien.

Dilynwyd Rockferry ddwy flynedd yn ddiweddarach gan ei hail albwm, Endlessly (A&M, 2010), ond ni chafodd yr un llwyddiant â Rockferry. Rhyddhawyd un sengl, ‘Well Well Well’, a gyrhaeddodd rif 41 yn y siartiau Prydeinig. Ers hynny, ymddangosodd y gantores mewn ffilmiau a hysbysebion teledu amrywiol wrth iddi gymryd seibiant o’i gyrfa gerddorol. Ymddangosodd yn y ffilm Gymraeg, Patagonia (Rainy Day Films, 2010) a ryddhawyd erbyn gŵyl ffilmiau ryngwladol Seattle ym mis Mehefin y flwyddyn honno. Ymddangosodd hefyd yn ffilm Brian Helgeland, Legend (StudioCanal, 2015), gan gyfrannu dwy gân at y trac sain.

Disgrifir genre cerddorol Duffy fel blue-eyed soul ac mae Rockferry yn cael ei gydnabod fel un o albymau pwysicaf y genre yn negawd cyntaf yr 21g. Cymharwyd ei llais â chantoresau megis Dusty Springfield (1939– 99) a’i chyfoeswraig Amy Winehouse (1983–2011). Ynghyd ag Adele, Gabriella Cilmi ac Estelle, y mae Duffy yn nodweddu cyfnod o amlygrwydd i ferched ifainc fel artistiaid unigol ym Mhrydain a thu hwnt.

Gethin Griffiths

Disgyddiaeth

Aimée Duffy (Awen CD212, 2004)
Rockferry (A&M 179009-0, 2008)
Endlessly (A&M 2757411-70 , 2010)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.