Llwybr Llaethog
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Deuawd electronig yw Llwybr Llaethog. Cafodd John Griffiths a Kevs Ford eu magu ym Mlaenau Ffestiniog a daethant ynghyd i berfformio yn 1984, a hynny’n fuan ar ôl i Griffiths ymweld ag Efrog Newydd a chael cyfle i wrando ar hiphopwyr newydd y ddinas. Arbrofodd y ddeuawd am gyfnod cyn rhyddhau eu record gyntaf, y sengl ‘Dull Di-Drais’ (Anhrefn, 1986).
Roedd y trac teitl, a chân arall ar y record, ‘Dyddiau Braf (Rap Cymraeg)’, yn allweddol o ran gosod agenda’r ddau fel yr artistiaid cyntaf i greu rap yn yr iaith Gymraeg. Efallai nad oedd eu defnydd o beiriant drymiau yn gwbl newydd yn y byd roc Cymraeg, ond roedd helaethrwydd y defnydd ohono yn arloesol, a llwyddasant i gyfuno dylanwad hip-hop gyda thuedd i amrywio gwead y trac trwy’r defnydd o effeithiau megis reverb, a oedd yn nodweddiadol o gerddoriaeth dyb. Roedd yr EP, gyda’i defnydd o lais yr ymgyrchydd iaith Ffred Ffransis ar un trac a llais Margaret Thatcher ar y llall, hefyd yn nodweddiadol o’u hymlyniad wrth wleidyddiaeth radical y chwith.
Ni chafodd Llwybr Llaethog lawer o gyhoeddusrwydd ar Radio Cymru ar y pryd, ond yn 1987 daethant i sylw John Peel, DJ Radio 1, a estynnodd wahoddiad iddynt chwarae sesiwn ar gyfer ei sioe, sef y gyntaf o bedair sesiwn. Yn 1988 ymddangosodd y ddau am y tro cyntaf ar y rhaglen gerddoriaeth Fideo 9, a hynny gyda fideo ar gyfer eu trac ‘Tour de France’, a oedd yn dathlu buddugoliaeth y seiclwr Gwyddelig Stephen Roche. Roedd Griffiths a Ford yn byw yn Llundain ar y pryd, a chafodd eu halbwm cyntaf, Da!, ei ryddhau ar label annibynnol Seisnig, Side Effects, yn ystod yr un flwyddyn gan sicrhau adolygiadau ffafriol yn y wasg gerddorol Saesneg.
Recordiodd Llwybr Llaethog nifer o recordiau yn y cyfnod dilynol i amrywiol labeli, gan gynnwys Be? (1990), LL.LL v T.G. MC DRE (ar y cyd â Datblygu, 1991), a’r sengl ‘Ni Fydd y Chwyldro ar y Teledu, Gyfaill’ (1992) ar Ankst, gyda’r bardd Ifor ap Glyn yn darparu ‘rap’ a efelychai waith y bardd- rapiwr arloesol Gil Scott-Heron.
Roedd gan Mad! (Ankst, 1996) agwedd fwy rhyngwladol a chynhwysai gyfraniadau lleisiol yng Ngaeleg yr Alban ac mewn Pwnjabeg. Rhyddhawyd y casgliad Hip-Dub Reggae-Hop gan Ankst yn 2000 a chafodd adolygiadau ffafriol. Dilynwyd Anomieville (Crai, 2002) gan gyfnod byr fel rhan o Sherbet Antlers, band roc byrhoedlog a ffurfiwyd gan y ddau a chyn- aelodau Catatonia. Rhyddhawyd albymau pellach ar ôl hynny, sef Mega Tidy (Rasal, 2005), Chwaneg (Neud Nid Deud, 2009), Curiad Curiad (Neud Nid Deud, 2011) a Dyb Cymraeg (Neud Nid Deud, 2013).
Er na fu i arddull gerddorol heriol Llwybr Llaethog fwynhau’r un llwyddiant masnachol â’u cyfoedion megis Super Furry Animals a Catatonia, cydnabyddir cyfraniad Llwybr Llaethog gan lawer o artistiaid cyfoes yng Nghymru a thu hwnt. Yn 2012 derbyniodd y ddeuawd wobr am Gyfraniad Arbennig yng Ngwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru.
Craig Owen Jones
Disgyddiaeth
- ‘Dull Di-Drais’ [sengl] (Anhrefn 009, 1986)
- ‘Tour De France’ [sengl] (Anhrefn 011, 1987)
- Da! (Side Effects SER13, 1988)
- Be? (Pinpoint Records, 1990)
- [gyda Datblygu a Tŷ Gwydr] LL.LL v T.G. MC DRE (Ankst 025, 1991)
- [gydag Ifor ap Glyn] ‘Ni Fydd y Chwyldro ar y Teledu, Gyfaill’ [sengl] (Ankst 032, 1992)
- Mad! (Ankst CD065, 1996)
- Anomieville (Crai CD0087, 2002)
- Mega-Tidy (Rasal CD007, 2005)
- Chwaneg (Neud Nid Deud NND003, 2009)
- Curiad Curiad (Neud Nid Deud NND004, 2011)
- Dyb Cymraeg (Neud Nid Deud NND006, 2013)
casgliad:
- Hip-Dub Reggae-Hop (Ankst CD094, 2000)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.