Rowlands, John

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:49, 5 Chwefror 2022 gan RobertRhys (Sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i: llywio, chwilio


Bu John Rowlands (1938-2015) yn un o’n beirniaid llenyddol mwyaf toreithiog a dylanwadol am dros hanner canrif. Drwy ei weithgarwch beirniadol, fel adolygydd, golygydd, a beirniad Eisteddfodol, daeth â llu o syniadau a dylanwadau newydd i gyffyrddiad â thrafodaethau ar lenyddiaeth Gymraeg ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif a dechrau’r unfed ganrif ar hugain. Ond er mor faith fu ei yrfa, ni fu’n lladmerydd dros un athroniaeth neu ddamcaniaeth feirniadol benodol dros gwrs yr holl flynyddoedd, a gellir gweld bod ei feirniadaeth yn ymrannu’n gymharol eglur yn ddau gyfnod.

Cyfnod 1 – Y cyfnod dyneiddiol-ryddfrydol

Bu John Rowlands yn fyfyriwr i John Gwilym Jones ym Mangor ar ddiwedd y 1950au, a’r darlithydd hwnnw fu’r prif ddylanwad ffurfiannol ar ei syniadaeth feirniadol gynnar. Dull John Gwilym Jones o ddadansoddi barddoniaeth oedd y dull dyneiddiol-ryddfrydol, dull a ddylanwadodd arno drwy gyfrwng Beirniadaeth Ymarferol I. A. Richards ac F. R. Leavis, a Beirniadaeth Newydd W. K. Wimsatt ac M. Beardsley. Mae’r ysgol arbennig hon yn gweithredu ar sail y tybiaethau fod llenyddiaeth dda yn oesol, yn trosgynnu amser, ac yn dweud rhywbeth am y natur ddynol ym mhob oes; mai drwy ddarllen testun yn agos y deuir o hyd i’w ystyr, ac nad yw ystyriaethau allanol megis cefndir bywgraffyddol yr awdur neu gyd-destunau gwleidyddol a chymdeithasol cyfoes yn berthnasol; ac mai swyddogaeth beirniad llenyddol yw cyfryngu rhwng yr awdur a’r darllenydd.

Gwelir y syniadau hyn ar waith ym meirniadaeth gynnar John Rowlands hefyd. Dywedodd mewn un lle ‘nad oes gan lenyddiaeth fawr o apêl ataf onid yw’n cychwyn gyda phrofiad ac yn mynegi rhywbeth am ddyn a’i swyddogaeth yn y byd’, ac wrth iddo archwilio beth y mae’r testun yn ei ddweud am fywyd yn ei erthyglau beirniadol cynnar, â ati’n fwriadus i buro’r llenyddiaeth y mae’n ymdrin â hi o bob cyd-destun allanol. Cwbl amherthnasol iddo yw’r cwestiwn academaidd a oedd Morfudd, cariad Dafydd ap Gwilym, yn wraig o gig a gwaed ai peidio, er enghraifft, gan mai’r un yw’r gerdd ni waeth beth oedd amgylchiadau ei chreu. Wrth drafod "Dail Pren" Waldo Williams wedyn, mynnir bod y ffaith fod y gerdd ‘Cofio’ yn ddarn adrodd poblogaidd yn rhywbeth y dylai’r darllenydd ei anghofio a’i anwybyddu gan mai drwy ganolbwyntio ar y geiriau ar y dudalen y deuir o hyd i bob ac unrhyw ystyr.

Y rhagdyb y tu ôl i’r safbwynt hwn yw bod yr hyn a oedd ym meddwl awdur y testun wrth iddo gofnodi’r geiriau ar bapur yn sicr o gael ei gyfleu i’r darllenydd wrth iddo’u darllen. Swyddogaeth beirniad llenyddol, felly, yw dehongli’r testun ar gyfer y darllenydd, a’r awgrym sydd yn ymhlyg yn hyn oll yw mai un dehongliad dilys sy’n bod gan fod pob darllenydd yn rhannu’r un natur ddynol. Gwelir hyn yn nefnydd helaeth John Rowlands o’r person cyntaf lluosog yn ei erthygl ‘Ystyried Dail Pren’ er enghraifft, lle mae – drwy ei ddefnydd parhaus o’r rhagenw ‘ni’ – yn cymryd yn ganiataol y byddai pob darllenydd yn ymateb i’r cerddi yn yr un ffordd. Yn yr un modd yn ei drafodaeth ar ‘Morfudd fel yr Haul’ Dafydd ap Gwilym, y cwbl a wneir yw mynd drwy’r cywydd fesul dyfyniad byr, a thrafod y dyfyniadau hynny heb wneud mwy, yng ngeiriau John Rowlands ei hun, ‘nag aralleirio ar adegau, ac wrth wneud hynny, hyd yn oed, ni wneir ymgais i archwilio’r holl bosibiliadau deongliadol’. Gall y dull hwnnw arwain at feirniadaeth ddof a di-fflach, ond y rheswm a rydd John Rowlands dros hynny yw mai erthygl ar gyfer lleygwyr ydoedd, ac yn ôl rhesymeg dyneiddiaeth ryddfrydol, byddai’r lleygwyr hynny’n rhannu’r un dehongliad â John Rowlands pe bai ganddynt yr hyfforddiant a’r arfau academaidd pwrpasol i fynd ati i edrych ar y gerdd ar eu pennau eu hunain, ac felly nid oedd angen gwneud dim mwy nag aralleirio er mwyn taflu goleuni ar rywfaint o’r eirfa a’r gystrawen ganoloesol. Ceir yr argraff, gan fod llenyddiaeth yn bodoli ar ei thelerau’i hun ac mai drwy ddarllen agos y deuir o hyd i’w hystyr, nad oes bwrpas gwneud dim mwy wedi i’r gwaith hwnnw gael ei gyflawni. Fodd bynnag, tua chanol y 1970au, dechreuodd John Rowlands ymwrthod â’r egwyddorion dyneiddiol-ryddfrydol y bu’n eu coleddu cyn hynny, gan arwain at ei ail gyfnod beirniadol.

Cyfnod 2 – Y cyfnod Marcsaidd ac ôl-fodernaidd

Dengys Angharad Price mai erthygl John Rowlands, ‘Poésie Cérébrale?’, a drafodai waith T. H. Parry-Williams, yw’r un sy’n ‘pontio rhwng dylanwadau ei brentisiaeth a chymeriad unigryw ei waith diweddarach’, ac mai’r ddwy brif nodwedd newydd a welir yn yr erthygl hon yw pwysleisio cyd-destunau llenyddiaeth, a chyd-destunau amseryddol a chymdeithasol yn arbennig, ac ôl-foderniaeth.

Gwelir y pwyslais newydd ar gyd-destunau yn amlwg mewn erthygl ar R. Williams Parry lle dadleuir mai ‘bardd cyfnod ydyw yn anad dim’ a bod ei farddoniaeth yn adlewyrchu ei brofiadau personol ef, a digwyddiadau ei oes. Ac wrth glymu barddoniaeth R. Williams Parry wrth leoliad ac amser penodol, cydnabyddir na all fod yn fardd oesol sy’n trosgynnu amser gan na fyddai pobl a gydoesai ar yr un pryd yn ymateb i’w farddoniaeth yn yr un ffordd. Cydnabyddir, dan ddylanwad syniadau Roland Barthes am farwolaeth yr awdur, fod cymaint o ddeongliadau ag sydd o ddarllenwyr. Mae pwysleisio cyd-destunau hanesyddol a chymdeithasol llenyddiaeth yn nodwedd ar feirniadaeth lenyddol Farcsaidd, a gwelir dylanwad theorïau Marcsaidd ar y ffordd y mae John Rowlands yn edrych ar feirdd fel R. Williams Parry a T. H. Parry-Williams fel aelodau o ddosbarth cymdeithasol penodol, ac fel llefarwyr ar ran y dosbarth hwnnw, yn hytrach nag fel bodau prin sy’n fwy arbennig na gweddill y gymdeithas. Mae eu barddoniaeth, i John Rowlands, ‘yn fynegiant rhannol o ddiwylliant cymdeithas arbennig mewn man arbennig ar adeg arbennig’. Drwy sylwadau fel hyn, tynnir ysgrifennu barddoniaeth o lefel cynhyrchu celfyddyd aruchel gan broffwydi a gweledyddion i lawr i lefel "praxis": gweithgarwch sy’n digwydd mewn cymdeithas benodol gan fod y gymdeithas honno’n gweld gwerth yn yr arfer, ac am fod yr arfer yn fodd o fynegi rhywbeth am y gymdeithas honno.

Nid trafod llenyddiaeth o safbwynt gwahanol yn unig a wnâi John Rowlands yn ystod yr ail gyfnod beirniadol hwn, ond ei thrafod mewn dull newydd hefyd, dull ôl-fodernaidd a gofnododd yn yr erthygl ‘Beirniadu’n Groes i’r Graen’. Yn yr erthygl honno, mae’n gwrthod y syniad y dylid ystyried llenyddiaeth yn fynegiant o ryw wirionedd gwrthrychol, ond y dylid yn hytrach fod yn ‘effro bob amser i’r elfen yma o “dwyll” sydd mewn llenyddiaeth’ a herio’r testun yn hytrach na’i dderbyn. Dyma’r dull sydd ar waith yn ei drafodaeth ar T. Rowland Hughes lle defnyddia dystiolaeth hanesyddol er mwyn dangos mor wael oedd amodau economaidd ac ansawdd bywyd chwarelwyr Llanberis mewn gwirionedd, a sut mae nofelau T. Rowland Hughes felly yn ein twyllo gan nad yw’r cymeriadau ynddynt yn cael eu darlunio fel pobl ddarostyngedig sy’n byw mewn tlodi, ond yn hytrach fel rhai rhadlon a di-gŵyn. Defnyddia John Rowlands hyn wedyn i archwilio’r safbwynt ideolegol a gyflwynir fel gwirionedd amlwg yn nofelau T. Rowland Hughes, safbwynt tawelyddol sy’n pleidio derbyn y drefn yn hytrach na gwrthryfela yn ei herbyn.

Daeth beirniadaeth lenyddol John Rowlands yn fwy bywiog a chreadigol yn y cyfnod ar ôl i’w nofel gyhoeddedig olaf ef ei hun ddod o’r wasg, a chanolbwyntiodd lawer o’i egni creadigol ar ffurf y nofel ei hun, yn mapio hanes y nofel Gymraeg, ac yn ei hyrwyddo fel ffurf. Datganodd yn 1976 nad ‘nofel Gymraeg sydd gennym, ond nofelau mewn Cymraeg’, ac nid ffaith ddibwys mo honno iddo gan fod y ffaith na chydiodd y nofel yng Nghymru yn golygu bod bydoedd cyfan o’r meddwl a’r dychymyg a’r profiad Cymreig heb eu mapio o gwbl, a’r iaith ei hun yn dlotach o’r herwydd. Eironig hefyd yw y byddai Cymru, gyda’i gwleidyddiaeth radical, ei chrefydd anghydffurfiol, a’i chymdeithas gymharol ddiddosbarth, wedi bod yn feithrinfa ardderchog i’r ffurf, gan mai pobl gyffredin yw arwyr nofelau, meddai. Er bod rhai beirniaid llenyddol Ewropeaidd ac Americanaidd wedi bod yn darogan tranc y nofel fel ffurf ers rhai blynyddoedd, aeth John Rowlands ati i geisio ei hyrwyddo. Mor gynnar â 1964, bu’n ceisio perswadio’r Eisteddfod Genedlaethol i ddenu mwy o bobl i gystadlu yng nghystadleuaeth y nofel drwy gynnig gwobr ariannol fwy sylweddol – maen a gafwyd i’r wal pan sefydlwyd Gwobr Goffa Daniel Owen, gyda gwobr o £500, yn 1978, a John Rowlands yn un o’r beirniaid. Ond anhawster arall a wynebai’r nofel oedd y tawelwch beirniadol o’i chylch. Gan fod y nofel yn ymwrthod â rhai confensiynau llenyddol, megis ‘iaith ac arddull goeth a chain’, bu hynny’n ‘rhwystr iddi gael ei hystyried o ddifri gan y beirniaid am gryn amser’ ac aeth John Rowlands ati i gyhoeddi astudiaethau o nofelau a nofelwyr unigol, ac o’r nofel yn gyffredinol, er mwyn dangos bod y ffurf yn haeddu ymdriniaeth broffesiynol o ddifri gan academyddion, a thrwy hynny berswadio awduron fod y nofel yn ffurf y gallent ei defnyddio i drafod themâu a chyfleu syniadau pwysfawr, nid i roi i ddarllenwyr ddiddanwch ennyd awr yn unig.

Llwyddodd yn hynny o beth, ac wrth i nofelau mwy anturus a heriol fel rhai Wiliam Owen Roberts, Robin Llywelyn ac Angharad Tomos gael eu cyhoeddi, bu John Rowlands yn lladmerydd cryf ar eu rhan yn wyneb rhai nad oedd yn eu deall nac yn gweld eu gwerth gan mor wahanol oeddynt i nofelau a gyhoeddid yn y Gymraeg cyn hynny. Os yw’r ‘nofel Gymraeg’ yn bodoli erbyn heddiw, gellid dadlau mai John Rowlands, i raddau helaeth iawn, a’i creodd, ac efallai mai ei waith yn hyrwyddo’r nofel fel ffurf, ac fel lladmerydd dros genhedlaeth newydd o nofelwyr, oedd ei gyfraniad beirniadol pwysicaf.


Elis Dafydd


Llyfryddiaeth

Price, A. (2007), ‘John Rowlands: 'Y Beirniad Bydol’ yn Wiliams, G. (gol.), "Ysgrifau Beirniadol XXVII" (Dinbych: Gwasg Gee), tt. 50-72.

Rowlands, J. (1964), ‘Yr Eisteddfod a’r Nofel’, "Barn", Rhif 15, tt. 86-7.

Rowlands, J. (1969), ‘Ystyried Dail Pren’ yn Williams, J. E. C. (gol.), "Ysgrifau Beirniadol IV" (Dinbych: Gwasg Gee), tt. 266-86.

Rowlands, J. (1971), ‘Morfudd fel yr Haul’ yn Williams, J. E. C. (gol.), "Ysgrifau Beirniadol VI" (Dinbych: Gwasg Gee), tt. 16-44.

Rowlands, J. (1975), ‘Poesie Cérébrale?’, "Y Traethodydd", Cyfrol CXXX, Rhif 557, tt. 321-29.

Rowlands, J. (1975), "T. Rowland Hughes" (Cardiff: University of Wales Press for the Welsh Arts Council).

Rowlands, J. (1976), ‘Agweddau ar y Nofel Gymraeg Gyfoes’ yn Williams, J. E. C. (gol.), "Ysgrifau Beirniadol IX" (Dinbych: Gwasg Gee), tt. 274-97.

Rowlands, J. (1984), ‘Bardd y Gaeaf’, "Taliesin", Cyfrol 50, tt. 9-33.

Rowlands, J. (1985), ‘T. Rowland Hughes’, "Y Traethodydd", Cyfrol CXL, Rhif 595, tt. 64-79.

Rowlands, J. (1987), ‘Cipolwg ar waith T. H. Parry-Williams’, "Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion", 1987, tt. 153-75.

Rowlands, J. (1990), ‘Beirniadu’n Groes i’r Graen’, "Taliesin", Cyfrol 71, tt. 57-65.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.