Dull cynhyrchu

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:16, 13 Mawrth 2023 gan AdamPierceCaerdydd (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

(Saesneg: Mode of Production)

Term o waith Karl Marx yw ‘dull cynhyrchu’. Mae’n cyfeirio at gyfuniad o’r moddion cynhyrchu (means of production; term sy’n cyfeirio at lafur dynol a’r offer, y peirianwaith a’r wybodaeth dechnolegol sydd ar gael mewn cyfnod hanesyddol penodol) a’r pherthnasau cynhyrchu (relations of production; yn arbennig, y perthnasau sy’n ymwneud â pherchnogaeth a threfniant y grymoedd cynhyrchu). Y ddwy elfen hyn yw sylfaen y modd y gall cynhyrchiant economaidd ddigwydd mewn cymdeithas benodol. Gwelir y strwythur economaidd hwn fel gwir sail cymdeithas, a gwelir dylanwad y strwythur hwn ar agweddau gwleidyddol, cymdeithasol a deallusol cymdeithas (gweler Rees 2014: 15). Mae cymdeithasau mewn cyfnodau gwahanol, felly, yn gwahaniaethu yn ôl y dull cynhyrchu a welir yn y gymdeithas (gweler materoliaeth hanesyddol). Yn y Gorllewin, gwelwyd tri phrif ddull o gynhyrchu: dull yr hen fyd, y dull ffiwdal a’r gymdeithas gyfalafol bresennol.

Garmon Iago

Llyfryddiaeth

Rees, W. J. (2014), Be’ Ddywedodd Karl Marx: Cyfrol 1, https://llyfrgell.porth.ac.uk/View.aspx?id=1897~4z~aUw8tYQE [Cyrchwyd: 13 Mai 2021].



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.