Cyfalafiaeth
(Saesneg: Capitalism)
Yng ngwaith Karl Marx (1818–83), cyfalafiaeth yw’r ffurf economaidd-gymdeithasol a ddisodlodd ffiwdaliaeth. Gwelir twf cyfalafiaeth ar ddiwedd yr Oesoedd Canol, a chyrhaeddodd ei llawn dwf yn ei ffurf ddiwydiannol yn y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Daw cymdeithas yn gyfalafol pan mai nod pennaf y broses gynhyrchu ynddi yw cynyddu elw (drwy’r broses o gyfnewid nwyddau), yn hytrach na chynhyrchu er mwyn diwallu anghenion unigolion. Er bod Marx yn canmol y datblygiadau technolegol a’r cynnydd aruthrol yng ngallu cynhyrchu’r ddynoliaeth a welwyd mewn cyfalafiaeth, ceir beirniadaeth lem ganddo ar y gorthrwm strwythurol sy’n deillio o’r ysfa i wneud elw sydd wrth graidd cyfalafiaeth ac sy’n niweidio pob unigolyn yn y gymdeithas, boed bourgeoisie neu broletariat (gweler Marx ac Engels 1848/2014).
Seilir y gymdeithas gyfalafol ar eiddo preifat, â’r gymdeithas wedi’i rhannu yn ddau brif ddosbarth: y bourgeoisie sy’n perchnogi ac yn rheoli’r broses o gynhyrchu nwyddau, a’r proletariat, y dosbarth sy’n gorfod gwerthu eu llafur am gyflog pitw er mwyn goroesi (Marx ac Engels 1848/2014). Atgynhyrchir rheolaeth economaidd y bourgeoisie drwy holl sefydliadau’r gymdeithas, boed yn y wladwriaeth, y farnwriaeth, neu syniadaeth yr oes. Gan hynny, gwelwn berthynas ormesol rhwng y ddau ddosbarth, a nodweddir cyfalafiaeth gan wrthdaro di-baid rhwng y ddau ddosbarth hyn wrth i’r ddau ohonynt geisio hybu buddiannau eu dosbarth (gweler Materoliaeth Hanesyddol).
Garmon Iago
Llyfryddiaeth
Marx, K ac Engels, F. (1848/2014), Maniffesto’r Blaid Gomiwnyddol, https://llyfrgell.porth.ac.uk/View.aspx?id=1982~4u~vx7iUPMZ [Cyrchwyd: 13 Mai 2021].
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.