Y Mabinogi
Cynnwys
Crynodeb
Ar ddiwrnod ei ben-blwydd yn ddeunaw oed, caiff byd Lleu ei chwalu gyda'r newyddion ei fod wedi ei fabwysiadu. Ar yr un diwrnod, mae ei ffrind Rhiannon yn amau ei bod yn feichiog, ac mae Dan, sy'n byw yng nghysgod ei frawd mawr, yr un mor chwit chwat ag erioed.
Er gwaethaf eu problemau personol mae'r tri yn dod at ei gilydd ar ben-blwydd Lleu, ac yn cychwyn ar anturiaeth mewn cwch bysgota fychan. Ymhen ychydig maent yn gweld rhyw newid yn y dwr, ac maent yn sylweddoli eu bod, ar noswyl Gwyl Fai, wedi dod o hyd i borth aur y Byd Arall, sydd i'w weld yn disgleirio ymhell o dan y don.
A hithau yn ferch annibynnol a phenstiff, dydy Rhiannon ddim yn meddwl ddwywaith cyn plymio i'r môr mawr, a dydy'r ddau arall ddim yn hir yn ei dilyn. Fel y maent yn plymio yn is ac yn is i'r dyfnderoedd ac yn nesàu at y porth, fe gânt eu cludo ganrifoedd yn ôl i fyd anhygoel y Mabinogi.
Ond mae gan Rhiannon, Manawydan a Lleu Llaw Gyffes eu problemau Canol Oesol eu hunain. Mae Rhiannon yn cael ei gorfodi i briodi rhywun nad yw'n ei garu, mae Manawydan yn ceisio gwneud iawn am gynllwynio mileinig brawd byrbwyll ac mae Lleu yn ceisio dygymod â'r ffaith i'w fam ei wrthod fel baban.
Wrth geisio goresgyn y problemau hyn rhaid i'r cymeriadau wynebu'r gwrthdaro rhwng ffawd, dewis personol a hud a lledrith.
Manylion Pellach
Teitl Gwreiddiol: Mabinogi, Y
Teitl Amgen: Otherworld
Blwyddyn: 2003
Hyd y Ffilm: 90 munud
Cyfarwyddwr: Derek W. Hayes (a Marc Evans (golygfeydd byw))
Sgript gan: Martin Lamb / Penelope Middlebow
Addasiad o: chwedlau'r Mabinogi
Cynhyrchydd: Naomi Jones
Cwmnïau Cynhyrchu: Cartwn Cymru / S4C Rhyngwladol / Cyngor Celfyddydau Cymru / British Screen Productions / BSkyB
Genre: Addasiad, Animeiddio, Antur, Ffantasi
Cast a Chriw
Prif Gast
- Daniel Evans (Dan)
- Jenny Livsey (Rhiannon)
- Matthew Rhys (Lleu)
- Sue Jones-Davies (Siân)
- Ioan Gruffydd (Bendigeidfran)
Cast Cefnogol
- Lisa Palfrey - Arianrhod
- Philip Madoc - Gwydion
- Paul McGann - Matholwch
Gellir gweld rhestr lawn ar Gronfa Ddata'r BFI[1]
Cerddoriaeth
- John Cale
Sain
- Peter Jeffreys / Ian Banks
Golygu
- Williams Oswald
Cydnabyddiaethau Eraill
Gellir gweld y credits llawn ar Gronfa'r BFI[2]
Manylion Technegol
Tystysgrif Ffilm: 12A
Fformat Saethu: 35mm
Lliw: Lliw
Gwlad: Cymru
Iaith Wreiddiol: Cymraeg (mae fersiwn Saesneg hefyd)
Lleoliadau Arddangos: Taith o sinemâu yng Nghymru yn 2003 : UGC Caerdydd a Casnewydd, a Cineworld Bryste o 27/06/03
Gwyl y Mabinogi, Gerddi Middleton
29/07/03 – München Fantasy Filmfest, Germany 17/08/03 – Hamburg Fantasy Filmfest, Germany 05/05/04 – Trebon Film Festival Czech Republic 29/10/04 – Waterloo Festival for Animated Cinema, Waterloo, Ontario (Canada)
Manylion Atodol
Llyfrau
ap Dyfrig, R., Jones, E H G, Jones, G. The Welsh Language in the Media[3] (Aberystwyth: Mercator Media, Mercator Media Monographs, 2006)
Gwefannau
Gwefan Swyddogol Y Mabinogi[4] ar wefan S4C, sy'n cynnwys
- Cyflwyniad i'r cymeriadau
- Cyfweliadau gyda chast a chriw
- Dadlwythiadau
Y Mabinogi ar Gronfa Ddata'r BFI[5]
Y Mabinogi ar IMDB[6]
Adolygiadau
Osmond, Andrew. Sight and Sound (UK) Medi 2003, Vol. 13,
Empire Magazine Online[7]
Time Out[8]
Erthyglau
Lamb, M., Middleboe, P. ‘Addasu y Mabinogi yn ffilm animeiddiedig’. Yn Chwileniwm, 139-156 (2002, Gwasg Prifysgol Cymru)
"Ffilm Animeiddiedig Newydd S4C"[9] BBC Cymru'r Byd, 1 Tachwedd 2002
"Mabinogi yn yr Ardd"[10] BBC Cymru'r Byd, 12 Gorffenaf 2003
"Edgy and erotic - the Welsh scary movie"[11] The Guardian, 26 Hydref 2002
Marchnata
Gweler gwefan swyddogol Y Mabinogi[12]