Sam Tân
Crynodeb
Un o'r cyfresi mwyaf poblogaidd erioed i blant oed meithrin, o fewn unrhyw genre. Cychwynnodd dros 25 mlynedd yn ôl, a mae wedi ei dangos ledled y byd. Mae'n olrhain hanes Sam y dyn tân a'i gyfeillion, yn blant ac oedolion, ym mhentref cyfeillgar Pontypandy yng nghymoedd De Cymru (o'r chweched gyfres ymlaen , symudwyd y pentref i lan y môr). Fe'i crëwyd yn wreiddiol gan ddau swyddog tân, ac mae negeseuon diogelwch yn rhan annatod ohoni, ond heb amharu ar hwyl y straeon bywiog. Fe'i cynhyrchwyd yn y Gymraeg a Saesneg o'r cychwyn cyntaf, gan dderbyn ei llwyddiant gwreiddiol yn yr 1980au hwyr/1990au cynnar: animeiddiwyd pedair cyfres bryd hynny drwy ddull stop-symud gyda modelau. Fe'i hatgyfodwyd yn 2003 gan ddefnyddio cyfuniad o animeiddio stop-symud a rhai elfennau cyfrifiadurol. O 2008 fe'i hanimeiddiwyd yn gyfan gwbl ar gyfrifiadur, ac yn Llundain a China y'i cynhyrchir bellach.
Manylion Pellach
Teitl Gwreiddiol Sam Tân
Teitl amgen Fireman Sam
Blwyddyn 1985 hyd heddiw
Hyd Penodau/Cyfresi
- 8 Pennod 10 munud (cyfresi 1-4, + un bennod 20 munud ychwanegol yng nghyfres 3)
- 26 Pennod 10 munud (cyfresi 5-8)
Darlledwyr
- S4C (Cymraeg)
- BBC One/BBC Two (Saesneg, cyfresi 1-4)
- BBC Two/CBeebies (Saesneg, cyfres 5)
- CITV/Channel 5 (Saesneg, cyfres 6 hyd heddiw)
Dyddiad y Darllediad Cyntaf
- Rhagfyr 1985 (Cymraeg)
- 17 Tachwedd 1987 (Saesneg)
Cyfarwyddwr
- John Walker (cyfresi 1-4)
- Ian Frampton (cyfresi 3 - 4)
- Jerry Hibbert (cyfresi 6-7)
- Gary Andrews (cyfres 8)
Prif Animeiddiwr / Cyfarwyddwr Animeiddio
- John Walker (cyfresi 1-4)
- George Laban (cyfres 4)
- Brian Anderson (cyfresi 3-4)
- Timon Dowdswell (cyfres 5)
- Gary Andrews (cyfresi 6-7)
- Laura DiMaio (cyfres 6)
- Zhaoquin Zhai (cyfres 8)
- Jane Ma (cyfres 8)
Sgript gan
- Nia Ceidiog (cyfresi 1-4)
- Robin Lyons (cyfres 5)
- Andrew Brenner (cyfresi 6-7)
- Laura Beaumont (cyfres 8)
- Rosanne Reeves (fersiwn Gymraeg, cyfresi 6-8)
Stori gan Dave Gingell a Dave Jones gyda chymorth Mike Young (syniad gwreiddiol)
Cynhyrchwyr
- Ian Frampton, John Walker (cyfresi 1 - 4)
- Philip Evans (is-gynhyrchydd, cyfres 3)
- Robin Lyons (cyfres 5)
- Simon Quinn (cynhyrchydd gweithredol, cyfres 5)
- Margo Marchant, Lesley Sawl (cyfres 6 - 7)
- Jen Upton (cynhyrchydd arolygol, cyfresi 6-7)
- Lisa Pacheco (cyfres 8)
- Jo Aslett (is-gynhyrchydd, cyfres 8)
Uwch-gynhyrchwyr
- Christopher Grace, Theresa Plummer-Andrews (cyfresi 3-4)
- Anna Home (S4Ci), Siwan Jobbins (S4C), Jocelyn Stevenson (HiT) (cyfres 5)
- Christopher Skala (cyfresi 6-7)
- Marion Edwards (HiT), Siân Eirian (S4C) (cyfres 8)
Cwmnïau Cynhyrchu
- Bumper Films (cyfresi 1-4)
- Siriol Productions (cyfres 5)
- HiT Entertainment & Xing Xing Digital Corp. (cyfresi 6 - 8)
- Atsain/Rondo (fersiwn Cymraeg, cyfresi 6-8)
Techneg Animeiddio
- Animeiddio stop-symud (cyfresi 1-5)
- Animeiddio cyfrifiadurol (cyfresi 6-8)