Llen iâ

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

(Saesneg: ice sheet)

Corff mawr iawn o iâ yw llen iâ ac iddi arwynebedd sydd yn fwy nag oddeutu 50,000 km2 ac sy’n claddu’r rhan fwyaf o’r tir y mae’n ei orchuddio. Llen Iâ Antarctica, ac iddi arwynebedd o oddeutu 11.5 x 106 km2 a thrwch cymedrig o tua 2000 m, yw’r fwyaf yn y byd sydd ohoni. Mae’r llen iâ yma yn llawer llai na’r llenni iâ a orchuddiai’r rhan helaethaf o ogledd-orllewin Ewrop a gogledd Gogledd America pan oedd y Rhewlifiant Defensaidd Diwethaf yn ei anterth tua 20,000 o flynyddoedd yn ôl. Yn wahanol i len iâ mae cap iâ (ice cap), megis Vatnajökull (8,300 km2), Gwlad yr Iâ, yn llai na 50,000 km2 ond eto’n ddigon mawr i gladdu’r dirwedd y mae’n ei gorchuddio. O’r herwydd mae patrwm ei lif, megis patrwm llif llen iâ, yn ganlyniad i faintioli a ffurf y cap yn hytrach na’r topograffi claddedig. Yn wahanol i lenni iâ a chapiau iâ, mae patrwm llif meysydd iâ (icefields), megis y rheiny sy’n nodweddu’r Rockies yng Nghanada neu’r Tien Shan yn China, dan ddylanwad y topograffi y maent yn eu rhannol orchuddio.

Gellir rhannu llenni iâ a chapiau iâ yn gromenni iâ (ice domes) – sef ardaloedd uchel o iâ sy’n symud yn gymharol araf – ac yn ffrydlifiau iâ (ice streams) a rhewlifau all-lifol (outlet glaciers), cyflymach o lawer eu llif, sy’n bennaf cyfrifol am symud swmp yr iâ tua chyrion y cap neu’r llen. Ar gyrion cap neu len iâ, tir heb iâ sy’n codi uwchlaw ymylon rhewlifau all-lifol ond iâ sy’n llifo’n araf a geir o boptu ffrydlifau iâ. Pa le bynnag y mae rhewlif all-lifol neu ffrydlif iâ yn terfynu yn y môr, bydd yr iâ’n arnofio gan esgor ar sgafell iâ (ice shelf) sydd, yn ei thro, yn bwtresu ac yn arafu llif y corff iâ sy’n ei bwydo. Mae sgafelli iâ, sy’n terfynu ar ffurf clogwyni a all fod cyn uched â 30 m, yn nodweddiadol iawn o Len Iâ Antarctica a Llen Iâ’r Ynys Las (Grønland). Er enghraifft, rhewlif Petermann, un o rewlifau all-lifol yr Ynys Las, yw’r mwyaf yn hemisffer y gogledd ac mae ei 50 milltir isaf ar ffurf sgafell arnofiol. Caiff rhannau o sgafelli iâ eu colli wrth i dalpiau enfawr ohonynt dorri a chwympo i’r môr ar ffurf mynyddoedd iâ tablaidd (tabular icebergs) a hefyd o ganlyniad i ddadmeriad gwaelodol (bottom melt). Yn y fath fodd y mae rhewlif Petermann yn cyflenwi 12 biliwn o dunelli metrig o iâ i’r Cefnfor Arctig bob blwyddyn.

Mae creiddiau iâ (ice cores) o’r ddwy len iâ fwyaf yn y byd yn darparu data hinsoddegol dirprwyol (proxy climatological data) manwl am hanes yr hinsawdd dros gyfnod o oddeutu 250,000 o flynyddoedd yn achos yr Ynys Las ac o leiaf 450,000 o flynyddoedd, ac o bosibl 750,000 o flynyddoedd, yn achos Antarctica. Yn wir, maent yn un o’r archifau pwysicaf o ddata palaeoamgylcheddol a palaeohinsoddeg y cyfnod cwaternaidd diweddar. Yn benodol, mae’r creiddiau yn cynnwys gwybodaeth hynod werthfawr am newidiadau hinsoddol, gan gynnwys newidiadau hinsoddol sydyn iawn, cyfansoddiad a chylchrediad yr atmosffer, llygredd atmosfferig ac echdoriadau folcanig. Er enghraifft, dengys cofnod y gymhareb isotop-ocsigen (18O:16O) (oxygen-isotope ratio) yng nghreiddiau’r Ynys Las fod hinsawdd yr holosen, megis y cyfnod rhyngrewlifol diwethaf (last interglacial) rhwng tua 110,000 a 140,000 o flynyddoedd yn ôl, wedi bod yn gymharol sefydlog ond bod newidiadau dramatig, ond byrhoedlog, wedi nodweddu’r cyfnod hwyr-rewlifol (late-glacial) a’r gylchred rewlifol ddiwethaf.

Llyfryddiaeth

Benn, D.I. a Evans, D.J.A. (adarg. 2010) Glaciers and Glaciation, Arnold, Llundain, tt. 15-18.

Bennett, M.R. a Glasser, N.F. (ail arg. 2009) Glacial Geology: Ice Sheets and Landforms, Wiley, Chichester, tt. 7-17.

Hancock, P.L. a Skinner, B.J. (2000) The Oxford Companion to The Earth, Oxford University Press, Rhydychen, tt. 24-8, 475-9.