Marwysgafn

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 23:18, 18 Gorffennaf 2016 gan SeimonBrooks (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Credir mai math o gerdd oedd ‘marwysgafn’ a genid yn yr Oesoedd Canol cynnar gan fardd ar ei wely angau. Yn wir, ystyr lythrennol y gair yw ‘gwely angau’, sef ‘marw’ + ‘ysgafn’ (sef ‘mainc’, o’r Ll. scamnum).

Cofnodwyd yr enghreifftiau cynharaf o’r gair mewn teitlau ar frig testunau o dair cerdd yn Llawysgrif Hendregadredd (c.1282–c.1350), casgliad mawr o ganu Beirdd y Tywysogion, a’r tebyg yw fod pob enghraifft ddiweddarach yn deillio o’r llawysgrif honno. Nid oes wybod a oedd y gair ar frig y cerddi yn ffynhonnell neu ffynonellau’r rheini a fu’n eu cofnodi yn y llawysgrif, ynteu ai’r copïwyr anhysbys hynny a’i hychwanegodd. Posibilrwydd arall yw bod y beirdd eu hunain wedi dewis cyfeirio at eu cerddi yn y modd hwnnw. Ni waeth beth yn union a ddigwyddodd, y tebyg yw fod ystyr wreiddiol ‘marwysgafn’ wedi datblygu erbyn c.1300, ar yr hwyraf, i olygu ‘cerdd ar wely angau’ neu, o bosibl, ‘cerdd ynghylch marwolaeth’.

O ran tebygrwydd eu henwau, nid yw’n amhosibl fod ystyr ‘marwysgafn’ wedi datblygu dan ddylanwad ‘marwnad’, un o brif genres barddoniaeth Gymraeg a enwir ar frig nifer fawr o gerddi yn Llawysgrif Hendregadredd. O ran natur y canu, cymharwyd y farwysgafn yn aml â’r dadolwch, math arall o gerdd a genid gan Feirdd y Tywysogion, gan mai erfyn am gymod a wneir yn y ddau (gan Dduw yn y naill a noddwr seciwlar yn y llall).

Eiddo Meilyr Brydydd (fl. c.1081–c.1137) yw’r farwysgafn gynharaf ar glawr (a’r enwocaf), lle erfynia ar Dduw am fywyd tragwyddol a’i foli yn yr un modd ag y molai Meilyr ei noddwyr seciwlar. Cyffesa’r bardd ei bechodau, gofynna am faddeuant a dymuna’n olaf gael ei gladdu Ymplith plwyf gwirin gwerin Enlli, ‘Ymhlith pobl sanctaidd cymuned Enlli.’

Digon tebyg yw cynnwys marwysgafn Cynddelw Brydydd Mawr (fl. c.1155–c.1195), y mwyaf o Feirdd y Tywysogion, ac eithrio bod hunanhyder nodweddiadol y bardd i’w glywed ynddi’n eglur. Collwyd y tudalennau lle ceid y gerdd yn Llawysgrif Hendregadredd, ond ceir copïau mewn llawysgrifau diweddarach ac, at hynny, ceir rhan o’r gerdd yn y llawysgrif gynharaf oll o farddoniaeth Gymraeg, Llyfr Du Caerfyrddin (c.1250).

Eiddo Bleddyn Fardd (fl. c.1220–c.1285) yw’r drydedd farwysgafn, a’r ddiweddaraf. Hi hefyd yw’r fyrraf, a’r unig un heb ynddi elfen gyffesol gref. Ymbilia’r bardd yn y dull arferol ar Dduw i’w dderbyn i’r nefoedd, gan ofyn ar ddiwedd y gerdd i Fair eiriol ar ei ran.

Er na cheir y gair ‘marwysgafn’ wrth yr un gerdd arall yn y llawysgrifau, mae’n bosibl fod dwy gerdd gynnar o’r math hwnnw gan feirdd anhysbys wedi goroesi, y naill yn Llyfr Du Caerfyrddin a’r llall yn Llyfr Taliesin (c.1300–50) ac yn Llyfr Coch Hergest (1382–c.1405). Ni all y ddwy gerdd hynny, fodd bynnag, ddal cannwyll i’r tair cerdd a drafodwyd uchod o ran safon a chrefft.

Eurig Salesbury

Llyfryddiaeth

Andrews, Rh. M. et al. (goln) (1996), Gwaith Bleddyn Fardd a Beirdd Eraill Ail Hanner y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Bryant-Quinn, M. P. (1997), ‘Archaf weddi: rhai sylwadau ar farwysgafn Meilyr Brydydd’, Llên Cymru, 20, 12–24.

Haycock, M. (gol.) (1994), Blodeugerdd Barddas o Ganu Crefyddol Cynnar (Llandybïe: Cyhoeddiadau Barddas).

Jones, N. A. a Parry Owen, A. (goln) (1995), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr II (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Jones, N. A. (2004), ‘Marwysgafyn Veilyr Brydyt: deathbead poem?’, Cambrian Medieval Celtic Studies, 47, 17–39.

Williams, J. E. C., Lynch, P. a Gruffydd, R. G. (goln) (1994), Gwaith Meilyr Brydydd a’i Ddisgynyddion (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.