Llenyddiaeth Taith
Gwelwyd twf aruthrol ym maes llenyddiaeth taith o fewn y ddau ddegawd diwethaf. Maes rhyng-ddisgyblaethol ydyw sy’n cwmpasu llawer mwy na’r llenyddol yn unig, gan gynnwys tywyslyfrau, taithlyfrau, hunangofiannu, llythyron, dyddiaduron, erthyglau, boed yn brintiedig neu ar ffurf llawysgrif. Mae hefyd yn faes amlddiwylliannol os nad amlieithog, a hynny o reidrwydd, oherwydd mae ysgrifennu taith yn ymdrin â chroesi ffiniau diwylliannol ac ieithyddol yn ogystal â rhai daearyddol. Felly mae llenyddiaeth taith yn caniatáu inni astudio agwedd gwahanol ddiwylliannau tuag at ei gilydd, ac yn union fel yn achos astudiaethau cyfieithu, anaml iawn y mae’r berthynas rhwng y diwylliannau (diwylliant y teithiwr a’r diwylliant yr ymwelir ag ef) yn gwbl gyfartal mewn termau gwleidyddol neu rym economaidd.
Yn aml felly mewn llenyddiaeth taith gellir dadansoddi perspectif imperialaidd neu nawddoglyd y teithiwr o Ewrop tuag at wledydd y Byd Newydd, y Dwyrain neu’r Trydydd Byd. Yn yr un modd gellir astudio agweddau teithwyr o Loegr tuag at ddiwylliannau lleiafrifol Prydain, fel y gwledydd Celtaidd. Mae testunau o’r fath yn gallu dysgu rhywfaint inni am y diwylliant llai, ond fel arfer maent yn dweud mwy wrthom am ddechreubwynt a chefndir diwylliannol y teithiwr nag am y wlad yr ymwelir â hi. Felly gellir ystyried llenyddiaeth taith yn adlewyrchiad o ddiwylliant yr awdur, a gellir beirniadu awdur sy’n gweld y diwylliant yr ymwelir ag ef mewn termau cymharol yn unig am fethu â ‘theithio’ yng ngwir ystyr y gair. Daeth yr honiad nad yw symud a mynd i le newydd yn wir ‘deithio’ yn allweddol yn ddiweddar wrth i’r maes ddechrau ffocysu ar foeseg teithio ac wrth i ysgolheigion o ieithoedd modern a diwylliannau lleiafrifol herio Eingl-ganolrwydd y ddisgyblaeth. Er mwyn teithio’n ystyrlon rhaid gweld gyda llygaid newydd, neu newid agwedd. Bu ysgrifennu taith yn euog, dros y blynyddoedd, o amlygu ac efallai o gyfrannu tuag at barhad agwedd imperialaidd tuag at ddiwylliannau ‘lleiafrifol’. Yn achos Cymru, gall teithio trwy gyfrwng y Saesneg fod yn foesegol broblematig, ac honnodd Ned Thomas: ‘Everywhere in the world you can travel superficially, see things from the outside, but nowhere is this easier than for the English in Wales’.
Cydnabyddir mai ar dwristiaeth y mae cyfran o’r bai am erydu gwahaniaethau diwylliannol ac am ladd ieithoedd. Hyd yn oed pan hybir arwahanrwydd y diwylliannau hyn, caiff y gwahaniaethau eu cyfyngu i lefel y cerdyn post, h.y. mae’n fath o addurn. Dros y canrifoedd bu’r syniad mai’r teithiwr fyddai’r olaf i weld ac i gofnodi gwahaniaethau diwylliannol sydd ar fin diflannu yn motif mewn llenyddiaeth taith; e.e. Ffrancwyr ar daith yn Llydaw yn honni bod y Llydaweg ar fin marw ac na fydd yno i deithwyr y dyfodol ei chlywed. Cyflwyna hyn ddarlun negyddol o ddirywiad i’r darllenwyr Ffrangeg, a gwelir felly sut y gall llenyddiaeth taith ei hun gael effaith andwyol ar hyfywedd diwylliant. Yn achos Cymru byddai’n anghywir disgrifio’r Gymraeg a glywyd ar wefusau’r werin bobl gan deithiwr o ddiwylliant mwyafrifol (e.e. Lloegr, Ffrainc) yn y 18g. yn iaith leiafrifol, oherwydd fe’i siaradwyd ar y pryd gan fwyafrif y boblogaeth. Ond byddai’n gywir disgrifio’r iaith fel un o dan orthrwm. Yn amlach na pheidio gwelai’r teithwyr yr iaith fel arwydd byw o orffennol sydd ar fin diflannu yn enw cynnydd. Dros y canrifoedd, mae rhai teithwyr i Gymru, serch hynny, yn teimlo iddynt gael cip ar ddyfodol Ewrop wrth arsylwi ar weithfeydd haearn, pyllau glo a chwareli llechi, ac ymweld â hwy, neu wrth ryfeddu at bensaernïaeth y pontydd a’r rheilffyrdd a oedd yn arwain y byd, ac yn aml roedd teithwyr o gyfandir Ewrop yn rhyfeddu at ffyniant diwydiannol Cymru. Ar y llaw arall, mae diwylliannau lleiafrifol eraill, megis Llydaw, wedi gweld rhyw fath o adlewyrchiad o’u hunain, neu fodel i’w ddilyn, yng Nghymru. O fynd cam ymhellach, ceir hefyd destunau gan deithwyr gwleidyddol neu ffoaduriaid yng Nghymru; gan gynnwys Llydawyr ac Iddewon yn adladd yr ail ryfel byd, a Belgiaid yn ystod y rhyfel byd cyntaf.
Ceir hefyd ysgrifennu taith o Gymru, yn Gymraeg. Ac wrth gwrs, gall berthyn i unrhyw gategori, gan gynnwys y categori anegwyddorol neu anfoesolegol, er nad ydym efallai ‘yn gyfforddus yn meddwl am Gymro yn ymddwyn fel asiant i Ymerodraeth Brydeinig’. Ar y llaw arall, weithiau mae’r sawl sy’n byw yn y wlad yr ymwelir â hi, ac sy’n aros yn fud oherwydd y ffin ieithyddol (‘travelee’ yw’r term a fathwyd yn Saesneg gan Mary Louise Pratt), yn ymateb, ac yn ‘ysgrifennu nôl’. Gall yr ymateb fod mewn genre arall, megis y nofel neu farddoniaeth, ac felly’n anos i ysgolheigion llenyddiaeth taith ei olrhain. Ac os ydy’r ymateb mewn iaith leiafrifol, nid yw’n debygol o dderbyn sylw prif ffrwd y maes beth bynnag. Yn wir, nid yw’r cysyniad ‘lleiafrifol’ wedi derbyn llawer o sylw hyd yn hyn mewn astudiaethau llenyddiaeth taith, er y cafwyd trafodaethu defnyddiol a pherthnasol ar gysyniadau megis ‘ymylol’, ‘arall’ ac ‘ecsotig’ gan arloeswyr megis Mary Louise Pratt.
Yn ddiweddar, gwelwyd math newydd o lyfr taith mewn iaith fwyafrifol sy’n honni bod yn driw i arwahanrwydd y diwylliant lleiafrifol, e.e. Pamela Petro, Travels in an Old Tongue: Touring the World Speaking Welsh. Yn y rhain nid yn unig mae’r iaith yn brif thema mae hefyd yn strwythuro’r darn. Er bod hyn yn ddatblygiad addawol, gellir beirniadu’r teithwyr hyn am orbwysleisio perthynas glòs yr iaith gyda lle, a gall pwyslais o’r fath gaethiwo’r siaradwyr yn eu tirlun, fel y dadleuodd Michael Cronin: ‘minority language speakers become the prisoners of the picturesque landscapes lovingly articulated in their disappearing languages’.
Yn sicr dyma faes sy’n tyfu’n gyflym, a bydd amlieithrywdd a’r wedd gymharol yn hanfodol i’w ddatblygiad.
Heather Williams
Llyfryddiaeth
Cronin, M. (2014), ‘Speech acts: language, mobility, and place’, yn Fowler, C., Forsdick, C. a Kostova, C. (goln) Travel and Ethics (London: Routledge), tt. 16-30.
Davies, H. M. (2007), ‘Wales in English travel writing 1791-8: the Welsh critique of Theophilus Jones’, Cylchgrawn Hanes Cymru, 23:3, 65-93.
Islam, S. M. (1996), The Ethics of Travel: From Marco Polo to Kafka (Manchester: Manchester University Press).
Jones, K., Tully, C. a Williams H. (goln) (2014), Studies in Travel Writing, 18:2, rhifyn arbennig ar Gymru.
Luft, D. (2011), ‘Byd o lyfrau taith: llên teithio Cymraeg’, Taliesin, 143, 18-27.
Minhinnick, R. (1993), A Postcard Home (Llandysul: Gomer).
Morgan, P. (2001), ‘Wild Wales: Civilizing the Welsh form the sixteenth to the nineteenth centuries’, yn Burke, P., Harrison, B. a Slack, P. (goln), Civil Histories: Essays Presented to Sir Keith Thomas (Oxford: Oxford University Press), tt. 265-84.
Petro, P. (1997), Travels in an Old Tongue: Touring the World in Welsh (London: Harper Collins).
Phillips, D. (2000), ‘“Pa bris y croeseo?”: Effeithiau twristiaeth ar y Gymraeg’, yn Jenkins, G. H. a Williams, M. A. (goln), ‘Ei Hiaith a Gadwant?’: Y Gymraeg yn yr Ugeinfed Ganrif (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), tt. 507-30.
Pratt, M. L. (2008), Imperial Eyes: Travel Writing and Transculturation, ail argraffiad (Llundain ac Efrog Newydd: Routledge).
Thomas, N. (1985), ‘Tourism and Self respect’, Planet, 52, 3-4.
Williams, H. (2017), ‘Minority’ yn Forsdick, C. a Kinsley, Z. (goln), Travel Writing: 100 Keywords, (Liverpool: Anthem).
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.