Corfan
Bar neu droed mydryddol yw corfan, sef y modd yr acennir gwahanol gyfuniadau o sillafau. Un o’r corfannau mwyaf cyffredin mewn barddoniaeth yw’r corfan talgrwn (iambic), a geir yn aml mewn mesurau pumban (iambic pentameter), sonedau, er enghraifft. Cyfuniad o ddwy sillaf yw’r math hwn o gorfan, gyda’r sillaf gyntaf yn ddiacen a’r ail sillaf yn acennog, er enghraifft, dyheu, ymhell, gerllaw, fan draw. Math arall o gorfan yw corfan crych disgynedig (dactyl) lle ceir clymiad o dair sillaf, gyda’r sillaf gyntaf yn acennog a’r ail a’r drydedd sillaf yn ddiacen, er enghraifft, caniatáu, ymarhous, bwrw glaw, ara’ deg. Dwy sillaf acennog yn dilyn ei gilydd yw corfan cytbwys (spondee), y gair cyntaf yn soned enwog R. Williams Parry, ‘Y Llwynog’, er enghraifft:
Ganllath o gopa’r mynydd, pan oedd clych
´´ – ´ – ´– ´– ´
Y gwrthwyneb i gorfan crych disgynedig yw corfan crych dyrchafedig (anapaest), lle ceir geiriau neu glymiad o dair sillaf, gyda’r ddwy sillaf gyntaf yn ddiacen, a’r drydedd sillaf yn acennog, geiriau ac ymadroddion fel caniatáu, ymarhous, ara’ deg, yn y man, er enghraifft. Y corfan talgrwn o chwith yw corfan rhywiog (trochee), hynny yw, mewn clymiad o ddwy sillaf, y mae’r sillaf gyntaf yn acennog a’r ail linell yn ddiacen, caru, rhedeg, lleuad, darfod, er enghraifft.
Alan Llwyd