Cyhydedd
Ystyr cyhydedd, yn wreiddiol, yw ‘o’r un hyd’ neu ‘cyfartal’, ac mewn barddoniaeth, yr hyn y mae’n ei olygu yw hyd llinell o safbwynt y nifer o sillafau a geir ynddi. Defnyddir y gair am rai o fesurau Cerdd Dafod. Mesur ac iddo bedair llinell odledig gyda naw sillaf ymhob llinell yw cyhydedd nawban. Y mae llinell o gyhydedd hir wedi ei hollti’n bedair rhan, y tair rhan gyntaf yn bum sillaf yr un, a’r rhan olaf yn bedair sillaf, uned o 19 o sillafau i gyd. Mae’r tair rhan gyntaf yn odli â’i gilydd, a’r rhan olaf yn cynnal y brifodl. Ceir cynghanedd gyflawn yn y pum sillaf gyntaf, cynghanedd gyflawn eto yn yr ail glymiad o bum sillaf, tra bo’r drydedd a’r bedwaredd ran yn cynnal cynghanedd gyflawn arall, gyda’r orffwysfa yn disgyn ar y bumed sillaf eto, a’r brifodl ar y bedwaredd sillaf, er enghraifft, dyma un uned o waith Guto’r Glyn, ac un arall o waith Lewys Glyn Cothi:
- I riain rywiog y cân, myn Cynog,
- A’r odlau i’r gog a’r dail a’r gwŷdd.
- Adail a ddodaist
- gwyn ac a enwaist,
- o folt y seiliaist fal tŷ Selawnt.
Ceir mathau eraill o gyhydeddau hefyd, fel cyhydedd fer, mesur tebyg i gyhydedd nawban, gyda’r gwahaniaeth sylfaenol fod pob llinell yn wythsill o hyd yn hytrach na nawsill.
Alan Llwyd
Llyfryddiaeth
Llwyd, A. (2007), Anghenion y Gynghanedd (Llandybïe: Cyhoeddiadau Barddas).
Morris-Jones, J. (1925), Cerdd Dafod sef Celfyddyd Barddoniaeth Gymraeg (Rhydychen: Gwasg Clarendon).