Pencerdd
Pencerdd oedd y radd uchaf ond un y gellid ei hennill oddi fewn i’r gyfundrefn farddol yng nghyfnod Beirdd yr Uchelwyr, er y ceir cyfeiriad at bencerdd yn y cyfreithiau Cymreig. Yn ôl y cyfreithiau hynny, yr oedd gan y pencerdd ei sedd ei hun yn llys y Tywysog, ac er nad oedd yn un o swyddogion y llys, fel y Bardd Teulu, ceir yr awgrym ei fod yn uwch o ran statws na’r Bardd Teulu.
Cymerai Pencerdd ato ddisgybl neu ddisgyblion i’w hyfforddi yng nghelfyddyd y canu caeth. Byddai’n rhaid i’r prentisfeirdd godi o ris i ris nes cael eu dyrchafu’n benceirddiaid yn y pen draw, os oeddent yn llwyddiannus fel disgyblion. Cymerai naw mlynedd o hyfforddiant cyn y gallai prentis neu ddisgybl o fardd gael ei ddyrchafu’n bencerdd. Cynhelid cynadleddau a elwid yn eisteddfodau i raddio disgyblion ac i adolygu rheolau’r grefft. Cynhaliwyd cynadleddau o’r fath oddeutu 1450 yng Nghaerfyrddin (lle’r enillodd Dafydd ab Edmwnd gadair arian am ei aildrefniant o’r hen fesurau), yn 1523 ac yn 1567 yng Nghaerwys. Dyrchafwyd Tudur Aled yn Athro Cadeiriog yn Eisteddfod Caerwys, 1523, gradd uwch na phencerdd hyd yn oed. Câi’r beirdd eu graddio mewn neithiorau yn ogystal. Ceid chwech o raddau i gyd: disgybl ysbâs heb radd, disgybl ysbâs graddol, disgybl disgyblaidd, disgybl penceirddaidd, pencerdd ac athro.
Dechreuodd oes y Penceirddiaid mawr ddirywio yn ail chwarter yr 16g., pan fu farw tri phencerdd, Tudur Aled, Lewys Môn a Iorwerth Fynglwyd i gyd oddeutu 1525-1527. Tudur Aled oedd un o benceirddiaid mawr yr oes, er mai ei ewythr, Dafydd ab Edmwnd, a’i dysgodd yng nghyfrinion Cerdd Dafod. Uchelwr oedd Dafydd ab Edmwnd, fel Tudur Aled ei hun, ac nid oedd raid iddynt wrth athrawon barddol cydnabyddedig a thrwyddedig. Yn ôl un o’i farwnadwyr, Lewys Daron, ‘Pencerdd y ddwygerdd agos’ oedd Tudur Aled, sef meistr ac awdurdod, y mae’n debyg, ar y ddwy chwaer-grefft, Cerdd Dafod a Cherdd Dant.
Un o benceirddiaid mawr cyfnod y Cywyddwyr oedd Gruffudd Hiraethog, a’i ddisgyblion ef oedd y to olaf o benceirddiaid mawr. Ymddengys mai Lewis Morgannwg oedd athro Gruffudd Hiraethog, ond mewn neithior y graddiodd Gruffudd ei hun, gan na chynhaliwyd eisteddfod yn ystod ei oes ef. Roedd yn rhy ifanc i ennill unrhyw fath o radd yn Eisteddfod Caerwys 1523, a bu farw yn 1564, yn weddol annisgwyl ac yn gymharol ifanc, rhyw dair blynedd cyn y cynhaliwyd ail Eisteddfod Caerwys. Gwyddys mai yn 1545/1546 y graddiodd yn ddisgybl penceirddaidd.
O ran nifer a phwysigrwydd ei ddisgyblion, Gruffudd Hiraethog oedd un o benceirddiaid mwyaf y gyfundrefn farddol. Un o ddisgyblion Gruffudd oedd Simwnt Fychan (c.1530-1606), awdur ‘Pum Llyfr Cerddwriaeth’ (c.1570), sef y cronicl llawnaf o ddysg y beirdd sydd ar gof a chadw. Graddiodd Simwnt yn Bencerdd yn ail Eisteddfod Caerwys, 1567. Graddiodd tri disgybl arall iddo yn benceirddiaid yn yr un eisteddfod, Owain Gwynedd, Lewys ab Edward a Wiliam Llŷn. Enillodd tri disgybl arall iddo radd disgybl penceirddaidd yn ail Eisteddfod Caerwys, sef Wiliam Cynwal, Siôn Phylip a Siôn Tudur.
Alan Llwyd
Llyfryddiaeth
Bowen, D. J., (gol.) (1990), Gwaith Gwilym Hiraethog (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).
Parry, T. (1945), Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).