Llawysgrif

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:59, 2 Tachwedd 2016 gan SeimonBrooks (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Ystyr sylfaenol ‘llawysgrif’ yw dogfen ysgrifenedig sydd wedi ei llunio â llaw; defnyddir weithiau’r byrfoddau ‘llsgr.’ (unigol) a ‘llsgrau’ (llusosog). Yn y ddeunawfed ganrif y ceir yr enghreifftiau cynharaf o’r gair ‘llawysgrif’ ac mae’n debyg ei fod wedi ei fathu ar sail y Lladin manuscriptum (manus ‘llaw’ + scriptum ‘ysgrifennu, testun ysgrifenedig’, cymh. Saesneg manuscript). Gan amlaf, bydd ‘llawysgrif’ yn cyfeirio at ddogfen a ysgrifennwyd â phìn ysgrifennu neu bensil neu offeryn arall. Ond gall hefyd gyfeirio at ddogfen sydd wedi ei theipio ar deipiadur neu sydd wedi ei geirbrosesu ar gyfrifiadur a’i hargraffu. Defnyddir y gair ‘teipysgrif’ i gyfeirio’n benodol at ddogfen a gynhyrchir fel hyn.

Mae’n arferol heddiw i wahaniaethu rhwng ‘llyfr’ (cynnyrch gwasg argraffu) a ‘llawysgrif’. Ond cyn dyfeisio’r wasg argraffu yn y bymthegfed ganrif roedd pob llyfr hefyd yn llawysgrif gan mai’r unig ffordd o greu llyfr oedd trwy ei ysgrifennu â llaw. Gan hynny, mae gan rai llawysgrifau o’r Oesoedd Canol enwau sy’n cynnwys y gair ‘llyfr’, megis Llyfr Du Caerfyrddin (c. 1250, https://www.llgc.org.uk/cy/darganfod/oriel-ddigidol/digitalmirror-manuscripts/yr-oesoedd-canol/blackbookofcarmarthen/), Llyfr Aneirin (c. 1275, https://www.llgc.org.uk/cy/darganfod/oriel-ddigidol/digitalmirror-manuscripts/yr-oesoedd-canol/llyfr-aneirin/) a Llyfr Coch Hergest (c. 1400, http://digital.bodleian.ox.ac.uk/inquire/p/9bf187bf-f862-4453-bc4f-851f6d3948af). Fodd bynnag, ni roddwyd ei enw i Lawysgrif Hendregadredd (llawysgrif o waith Beirdd y Tywysogion o c. 1300, https://www.llgc.org.uk/cy/darganfod/oriel-ddigidol/digitalmirror-manuscripts/yr-oesoedd-canol/hendregadreddmanuscriptsnlwm/) tan yr ugeinfed ganrif, ac erbyn hynny roedd ystyron gwahanol i’r termau ‘llyfr’ a ‘llawysgrif’.

Mae pob llawysgrif hysbys o Gymru sy’n gynharach na’r bymthegfed ganrif wedi ei gwneud o femrwn, sef croen llo, dafad neu afr wedi ei drin mewn modd arbennig. Ysgrifennid ar y memrwn â phìn neu ysgrifbin a wnaed o bluen aderyn (‘cwilsyn’) â’i bôn wedi ei dorri i’w wneud yn addas at y pwrpas. Gwnaed yr inciau gwahanol o ddeunyddiau organig a mineralau. Lliw du neu frown tywyll sy’n arferol mewn llawysgrifau o Gymru, ond defnyddid inc coch ar gyfer ‘rhuddellu’ (sef cynhyrchu pennawd neu addurn arall mewn inc coch) ac weithiau ceir lliwiau eraill hefyd. Erbyn ail hanner y bymthegfed ganrif daeth llawysgrifau papur yn ddigon cyffredin yng Nghymru. Prin yw’r darluniau mewn llawysgrifau canoloesol o Gymru, ond mae llawysgrif Peniarth 28 (testun Lladin o Gyfraith Hywel Dda, https://www.llgc.org.uk/index.php?id=252&L=1) yn nodedig am ei darluniau trawiadol.

Mae sawl ffordd o astudio llawysgrifau. Enw un dull yw ‘palaeograffeg’, sef astudiaeth fanwl o lawysgrifen—ei ystyr lythrennol yw ‘gwyddor hen ysgrifennu’. Gan fod natur llawysgrifen yn amrywio o gyfnod i gyfnod ac o le i le, gall palaeograffeg ein helpu i ddyddio llawysgrifau a deall eu cyd-destun.

Astudio gwedd gorfforol llawysgrifau a wnawn wrth ystyried ‘codicoleg’, term sy’n deillio o’r Lladin codex (‘codecs, llyfr’). Mae codicoleg (neu ‘llawysgrifeg’) yn canolbwyntio ar wneuthuriad llawysgrifau: eu defnydd, eu ‘cydiant’ (sef sut y’u rhoddir at ei gilydd), eu rhwymiad, ac ati. I gynhyrchu codecs (neu lyfr llawysgrif) byddai darn hirsgwar o femrwn yn cael ei blygu’n ei hanner i greu ‘biffoliwm’ ac iddo ddwy ddalen neu ddau ‘ffolio’ (sy’n cyfateb i bedwar tudalen). Byddai sawl biffoliwm (roedd oddeutu pedwar yn nifer cyffredin) yn cael eu rhoi ar ben ei gilydd i greu llyfryn o’r enw ‘plyg’ (neu weithiau ‘cwir’, o’r Saesneg quire). Fe ffurfiwyd y codecs wrth ddod â sawl plyg ynghyd. Cyfeirir at dudalennau unigol mewn llyfr o’r fath drwy eu rhifo fel mewn llyfr modern neu drwy roi rhif i bob ffolio. O wneud yr ail, mae’n arferol defnyddio’r termau Lladin recto (r) a verso (v) i gyfeirio at flaen a chefn pob ffolio. Felly bydd ‘4r’ yn cyfeirio at ochr flaen y pedwerydd ffolio (sef y seithfed tudalen). Fformat y llyfr sydd i’r rhan fwyf o lawysgrifau o Gymru. Ond mae ffurf y rhol (neu sgrôl) yn gyffredin ar gyfer rhai mathau o gofnodion swyddogol megis cofnodion llys a hefyd ar gyfer rhestru achau ar ffurf ‘cart achau’.

Yn yr Oesoedd Canol roedd cynhyrchu llawysgrifau yn broses ddrud a oedd yn gofyn am arbenigedd a nawdd sylweddol. Er na wyddom lawer am union amgylchiadau cynhyrchu llawysgrifau unigol yng Nghymru, mae’n deg tybio bod nifer helaeth wedi eu creu mewn sefydliadau crefyddol. Yn benodol, mae lle i gredu i abatai Sistersaidd fod yn flaenllaw yn hyn o beth. Er enghraifft, gellir bod yn hyderus mai ‘sgriptoriwm’ (ystafell neu gymuned ysgrifennu) abaty Sistersaidd Ystrad Fflur yng Ngheredigion a fu’n gyfrifol am lunio Llawysgrif Hendregadredd. Ac mae’n bosibl mai ym mhriordy Urdd yr Awstiniaid yng Nghaerfyrddin y copïwyd Llyfr Du Caerfyrddin (c. 1250), y llawysgrif gynharaf sydd gennym o farddoniaeth Gymraeg. Yn sicr, yno’r ydoedd pan ddiddymwyd y mynachlogydd yn ystod teyrnasiad Harri VIII.

Gan amlaf, cyfyng iawn yw ein gwybodaeth am y sawl a ysgrifennai lawysgrifau canoloesol, sef yr ‘ysgrifyddion’ neu’r ‘ysgrifwyr’ (unigol ‘ysgrifydd’) neu’r ‘copïwyr’ (unigol ‘copïydd/copïwr’). Gall llawysgrif unigol fod yn waith mwy nag un ysgrifydd, ac yn aml byddai ysgrifyddion yn dibynnu ar eraill er mwyn darparu elfennau gweledol mwy trawiadol megis rhuddellu, llythrennau addurnedig (ar ddechrau adrannau fel rheol) neu ddarluniau.

Ond mae gennym wybodaeth fanylach yn achos rhai llawysgrifau, megis Llyfr yr Ancr (http://digital.bodleian.ox.ac.uk/inquire/p/7396c69b-67f6-4dc0-bf07-e035bc4addbe). Yn honno mae ‘coloffon’ (sef nodyn ynghylch manylion llunio’r llawysgrif) sy’n datgan iddi gael ei chopïo gan ‘ancr’ (neu feudwy) o Landdewibrefi yng Ngheredigion yn y flwyddyn 1346. Yr ysgrifydd amlycaf y gwyddom ei enw yw Hywel Fychan ap Hywel Goch o Fuellt, gŵr a gyfrannodd at sawl llawysgrif bwysig gan gynnwys Llyfr Coch Hergest (c. 1400). Gwyddom fod Hywel yn ysgrifydd proffesiynol a gopïai lawysgrifau ar gais noddwyr seciwlar, sef, yn ei achos ef, teulu Hopcyn ap Tomas, uchelwr o waelod Cwm Tawe. Copïodd yr ancr ei lawysgrif enwog yntau ar gyfer noddwr seciwlar hefyd, ac mae’n amlwg i’r arfer hwnnw ddod yn gynyddol gyffredin o’r bedwaredd ganrif ar ddeg ymlaen.

Tueddwn i gysylltu llawysgrifau â’r Oesoedd Canol (noder mai llawysgrifau canoloesol yw sail y drafodaeth uchod). Yn aml iawn mae llawysgrifau o’r cyfnod hwnnw (ac yn wir wedi hynny) yn wrthrychau brau a bregus ac felly rhaid ymorol am eu ‘cadwraeth’, sef dulliau o’u hadfer a’u diogelu, gan geisio lleihau unrhyw ddirywiad yn eu cyflwr dros amser. Erbyn hyn, daeth yn gyffredin i greu delweddau digidol o lawysgrifau pwysig—eu ‘digideiddio’—er mwyn lleihau’r traul corfforol arnynt a gwneud eu cynnwys yn fwy hygyrch.

Ond dylid pwysleisio na ddaeth cyfnod y llawysgrif i ben yn sgil dechrau argraffu llyfrau Cymraeg yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Yn wir, yn achos rhai ffurfiau llenyddol (megis y canu caeth), y llawysgrif oedd y cyfrwng arferol ar gyfer eu cylchredeg hyd at ddiwedd y ddeunawfed ganrif, os nad wedi hynny. Erbyn heddiw, fodd bynnag, mae tuedd i lawysgrifau fod yn ddogfennau mwy preifat; meddylier am ddrafftiau o weithiau creadigol, er enghraifft. Ond wrth i’r proses creadigol ddigwydd fwyfwy ar gyfrifiaduron heb esgor ar gopïau caled, mae’n rhaid i lyfrgelloedd a sefydliadau tebyg ystyried sut y dylid diogelu deunydd o’r fath at y dyfodol.

Prin iawn yw’r llawysgrifau canoloesol Cymraeg sydd mewn dwylo preifat bellach—mae’r mwyafrif llethol yn eiddo i lyfrgelloedd a phrifysgolion. Wrth gyfeirio’n ffurfiol-fanwl at lawysgrifau penodol, yr arfer yw enwi’r lleoliad, y sefydliad, y casgliad (os oes enw penodol arno) ac yna rhif y llawysgrif benodol. Felly gelwir y llawysgrif a elwir gan amlaf yn Llyfr Taliesin (c. 1325, https://www.llgc.org.uk/cy/darganfod/oriel-ddigidol/digitalmirror-manuscripts/yr-oesoedd-canol/bookoftaliesinpeniarthms2/) wrth yr enw ffurfiol ‘Aberystwyth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Peniarth 2’.

Dylan Foster Evans

Llyfryddiaeth

Oriel Ddigidol Llyfrgell Genedlaethol Cymru o Lawysgrifau Canoloesol: https://www.llgc.org.uk/cy/darganfod/oriel-ddigidol/digitalmirror-manuscripts/yr-oesoedd-canol/ [Cyrchwyd 31 Hydref 2016].

Huws, Daniel (1993), Llyfrau Cymraeg 1250–1400 (Aberystwyth: Llyfrgell Genedlaethol Cymru).

Huws, Daniel (1997), ‘Llyfrau Cymraeg yr Oesoedd Canol’ yn Jenkins, Geraint H. (gol.), Cof Cenedl XII (Llandysul: Gwasg Gomer), tt. 1–31.

Huws, Daniel (2000), Medieval Welsh Manuscripts (Cardiff and Aberystwyth: University of Wales Press and the National Library of Wales).