Dwned
Cymreigiad o’r gair Saesneg Canol donet / donat yw ‘dwned’ ar ôl enw awdur yr Ars Grammatica o’r 4g. OC, Aelius Donatus. Defnyddid y gramadeg hwnnw yn ysgolion yr Eglwys yn yr Oesoedd Canol. Daeth yn air a ddefnyddid yn y Gymraeg i olygu gramadeg neu lyfr gramadeg, ond tecach fyddai ystyried y dwned yn fath o lawlyfr penodol ar gyfer y beirdd.
Priodolir y fersiwn hynaf o’r dwned Cymraeg i Einion Offeiriad a luniodd ei destun ef o’r gramadeg rhwng tua 1316 a 1320. Aeth Dafydd Ddu Athro o Hiraddug ati wedyn i’w olygu tua’r flwyddyn 1330. Ceir sawl fersiwn a chopi diweddarach ohono o’r 15g. a’r 16g. Y pennawd a roes y bardd Gutun Owain (fl. c. 1451‒98) i’r copi o’r gramadeg yn ei law ei hun yn llawysgrif Llansteffan 28 yw hwn: ‘Llyma gyvrinach beirdd ynys brydain, yr hwnn a elwir y dwned ynghymraec’.
Yn ei awdl foliant i Lywelyn ap Gwilym (m. 1346/7), mae Dafydd ap Gwilym yn galw ei ewythr yn ‘Llyfr dwned Dyfed’, sy’n awgrymu mewn modd trosiadol fod Llywelyn yn dra hyddysg yn y ddysg farddol. Yn wir, awgrymwyd mai ef oedd athro barddol Dafydd ap Gwilym.
O gymryd fod y dwned yn fath o lawlyfr ar gyfer y beirdd, yr hyn a geir ynddo yw ymdriniaeth â’r llythrennau, y sillafau, y rhannau ymadrodd a chystrawen, mesurau cerdd dafod, y beiau gwaharddedig wrth lunio cerddi, ac adran yn rhestru’r modd y dylid moli pob peth, yn ogystal â’r Trioedd Cerdd. Dyma’r wybodaeth y byddai’r athrawon barddol yn ei chyflwyno i’w disgyblion.
Erbyn heddiw mae Dwned yn deitl ar gyhoeddiad a sefydlwyd yn 1995, sef cylchgrawn academaidd sy’n cyhoeddi erthyglau ar lenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol, a barddoniaeth y cyfnod yn enwedig.
Bleddyn Huws
Llyfryddiaeth
Williams, G. J. a Jones, E. J. (gol.) (1934), Gramadegau’r Penceirddiaid (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).
Johnston, D. et al. (2010), Cerddi Dafydd ap Gwilym (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), 5.1.
Geiriadur Prifysgol Cymru Ar Lein (2016), http://gpc.cymru/, ‘dwned’ [Cyrchwyd: 8 Tachwedd 2016].