Jones, T. Gwynn
Bardd, llenor, ysgolhaig, dramodydd, cyfieithydd a newyddiadurwr oedd T. Gwynn Jones (1871–1949). Enillodd y gadair genedlaethol yn 1902 ar ddechrau cyfnod llewyrchus i farddoniaeth Gymraeg a gaiff ei ystyried yn fath ar ddadeni llenyddol. Â’i wreiddiau yn y Sir Ddinbych amaethyddol, yn Aberystwyth y treuliodd ran helaethaf ei fywyd ac yntau’n ddarlithydd, ac yna’n Athro, yng Ngholeg y Brifysgol yno. Roedd ganddo ddiddordeb byw a hynod ddysgedig yn y gwledydd Celtaidd a’u hieithoedd, yn ogystal â diwylliannau Ewropeaidd eraill. Effeithiwyd arno’n ddirfawr gan ddinistr y Rhyfel Byd Cyntaf, ac yn gynyddol gwelir ei waith yn datblygu o ramantiaeth obeithiol, wladgarol tuag at anobaith cynyddol ynghylch tynged ei wlad, ei iaith, a chwrs y byd. Bwrir golwg yn benodol yma ar ei syniadau am estheteg (â'i pherthynas a Cheltigyrwydd).
Consyrn hanfodol ar ddiwedd y 19g., yn enwedig ymysg trigolion gwledydd traddodiadol amaethyddol fel Cymru ac Iwerddon, oedd y tir ei hun, ei drawsffurfiad yn sgil y chwyldro diwydiannol, a gormes o du’r sawl a oedd yn berchen arno. Mewn cyd-destun Cymreig, yr oedd yr obsesiwn hwn â’r tir, yn aml drwy gyfrwng disgrifiadau o natur, nid yn unig yn nodwedd hiraethus, ramantaidd, wrth-ddiwydiannol a gwrth-fodern, ond hefyd yn ymwneud â theimladau gwrthdrefedigaethol a gwrth-Brydeinig, wrth i’r awdur geisio ailhawlio’r tir yn ei waith drwy ei ailddiffinio, ei ddisgrifio yn ôl ei ddelfryd ei hun, a’i glodfori.
Natur grwydrol ac aflonydd a fu i fywyd T. Gwynn Jones am flynyddoedd, gan symud rhwng cefn gwlad a gwahanol drefi a oedd yn ganolog i’r bywyd diwylliannol Cymreig ar y pryd fel Lerpwl a Chaernarfon. Cynrychiolai cefn gwlad y bywyd cyn-ddiwydiannol, mwy hynafol a thraddodiadol, ond yr oedd cosmopolitaniaeth a modernrwydd lleoedd fel Lerpwl, Caernarfon, Dulyn a hyd yn oed yr Aifft yn cynnig posibiliadau newydd yn ddiwylliannol ac mewn termau artistig. Yn sicr, mae i waith cynnar T. Gwynn Jones ymdeimlad cryf o ddieithriad a dadleoliad, ond efallai mai o’r dadleoliad cynnar hwn y daw’r diddordeb mewn Celtigrwydd yn ei waith, gan ei fod ar unwaith yn cynnig ffordd o bontio’r gagendor rhwng y byd hynafol a’r byd modern, o gysylltu â’r tir ac â chof y tir, yn gyfle i groesi ffiniau ac i edrych y tu hwnt i Gymru’n unig. Yn ei Geltigrwydd, safai T. Gwynn Jones hefyd ar y ffin rhwng rhamantiaeth y 18g. a’r 19g., ar y naill law, a moderniaeth yr 20g. ar y llall.
Amwys yw safbwynt esthetaidd T. Gwynn Jones mewn perthynas ag iaith. Yn sicr, rhaid cydnabod natur ganolog ac allweddol y Gymraeg yn ei waith. Ond ceir tyndra yn ei farddoniaeth a’i feddwl rhwng y llenyddol a’r llafar, a rhwng swyddogaeth iaith ar y naill law fel mur amddiffynnol (pace Emrys ap Iwan, a ddylanwadodd yn fawr arno’n ifanc) neu arwydd o arwahanrwydd, ac ar y llaw arall fel modd o gyfathrebu ar draws ffiniau cenedlaethol a diwylliannol. I T. Gwynn Jones, nid ieithoedd caeëdig yw’r ieithoedd Celtaidd, ond moddion o ddenu eraill o genhedloedd bychain Ewrop i gydweithio ac i gydymdeimlo â hwy. ‘Yr oedd y Cymry’ ar un adeg, medd Jones, ‘yn gyfrannog yn niwylliant Gorllewin Ewrop, a’r Gymraeg cystal a rhyw iaith arall yno. Nid oedd “cachadurieit y wlad,” chwedl Dr. Sion Dafydd Rhys, eto wedi dysgu dirmygu eu iaith eu hunain, a siarad iaith eu meistriaid fel caethion’. Roedd yr iaith yn gyswllt hanfodol â’r gorffennol:
Yr oedd ein diwylliant y pryd hynny yn rhan o ddiwylliant cyffredinol Ewrop; ac wedi’i gyfoethogi o lawer cyfeiriad. Er colli o honom lawer arfer ddymunol, wrth gadw ein hiaith cadwasom doreth mawr ein diwylliant hynafol; a gellir ei olrhain yn gadwyn, o ddolen i ddolen, o’r chweched ganrif hyd yr ugeinfed.
Yn ei gerdd hir ‘Argoed’ (1927-30), er enghraifft, rhoes le i’r ystyriaethau ieithyddol y bu’n ymboeni amdanynt cyhyd, gan ddefnyddio lleoliad Celtaidd-Ewropeaidd yn Llydaw i bortreadu hyn. Daw’r ‘estron’ – y Rhufeiniaid yn yr achos hwn – i ‘ddofi’ y llwyth drwy ymosod ar eu hiaith, gan orseddu yn ei lle ‘[d]di-raen lediaith o druan Ladin’. Awgrymir bod trigolion Argoed, o golli eu hiaith, hefyd yn colli eu diwylliant a’u hunan-barch.
Edrych oddi allan ar ddiwylliant a wna adroddwr ‘Argoed’, ac mae hwn yn safbwynt y try Jones ato’n aml. Gwerth nodi, wrth gwrs, mai fel ysgolhaig y bu’n ennill ei fara o 1913 ymlaen, fel darlithydd ac yna Athro’r Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Y mae’r safbwynt ysgolheigaidd hwn yn gwbl gydnaws â meddylfryd yr oes a dra-orseddai ymchwil ysgolheigaidd, empeiraidd, yn ffilolegol ac ieithyddol. Yn wir, fel ysgolhaig o fardd y gwelid T. Gwynn Jones gan ei gyfoedion, ac mae lle i gredu mai felly y gwelai yntau ei hun hefyd.
Ar yr un pryd, fodd bynnag, gwthiai yn erbyn dehongliad deallusion fel Matthew Arnold o’r Celtiaid fel diwylliannau di-rym, statig, marw ac anhanesïol, a cheisiai ddadlau dros ddilysrwydd diwylliant byw Cymru a chanddo’r gallu i fod yn sylfaen i genedl-wladwriaeth yn hytrach nag fel rhywbeth i’w astudio’n unig. Yng ngwaith creadigol ac academaidd Jones, gwelwn dyndra rhwng yr awch i fynnu bod y Gymraeg a’i llenyddiaeth yn haeddu cael eu hastudio fel pynciau academaidd, a’r awydd ar yr un pryd i ddangos eu bod yn fwy na phynciau academaidd yn unig. Yn hyn o beth, deuwn at amcan creiddiol gyrfa lenyddol Jones, o bosibl, sef ceisio cyfleu dilysrwydd diwylliannol a gwleidyddol llenyddiaeth y gorffennol, gan ddefnyddio hynny i ‘weld’ neu i ddychmygu dyfodol i’r Cymry. Wrth wneud hyn, roedd yn ymrafael â’r tyndra rhwng traddodiad fel continwwm parhaus ar y naill law a’r cyflwr modern a modernaidd drylliedig ar y llall.
Y mae’r cymhlethdodau hyn, a’r tyndra rhwng traddodiad a moderniaeth, yn gosod T. Gwynn Jones ar drothwy rhwng rhamantiaeth a moderniaeth. Er bod beirniaid wedi tueddu i synio amdano fel rhamantydd, mae eraill fel Jerry Hunter wedi dadlau dros ei alw’n fodernydd; ac o ystyried rhai o’r safbwyntiau esthetaidd a beirniadol cyferbyniol yn ei waith, hawdd deall pam. Ar y naill law ceir ymwybyddiaeth ddofn o draddodiad yng ngwaith Jones, ond ar y llaw arall fe ŵyr yn rhy dda hefyd mai traddodiad drylliedig, wedi’i fradychu, ydyw bellach. O’r traddodiad drylliedig hwnnw, fodd bynnag, y gellir creu traddodiad newydd o barhad. Gellir darllen ‘Gwlad y Bryniau’, er enghraifft, fel awdl ddrylliedig, ddarniog, yn ei hadeiladwaith, ei lleoliadau, ei gweledigaeth a’i mesur. Yn ‘Tir na nOg’, mae Osian yn mynd ati, yn dra symbolaidd, i geisio ailadeiladu’r hen neuaddau o’r cerrig ymysg yr adfeilion – ond yn trengi yn yr ymdrech. Yn ddiweddarach yn ei yrfa, aeth Jones ati i arbrofi â’r gynghanedd a’i ffurfiau – o ‘Madog’ i ‘Gwlad Hud’ i ‘Cynddilig’ – er mwyn dangos drachefn nad traddodiad a chyfundrefn statig, ddigyfnewid mo cerdd dafod, ond rhywbeth byw a oedd yn datblygu’n gyson. Nid traddodiad caeëdig, gorffenedig, llonydd a marw yw ei draddodiad, ond un sydd yn parhau i’w ail-greu, ail-ddiffinio ac ail-ddyfeisio ei hun yn gyson. Trwy hyn llwydda T. Gwynn Jones i droi Celtigrwydd yn arf perfformiadol a chreadigol i greu o’r newydd.
Yn fwy na dim, nodweddir gwaith T. Gwynn Jones gan yr awydd i greu ‘newydd gân’ o ddrylliau a darnau ‘hanesion dewredd hen oesau’. Yn ei gerddi Celtaidd ‘mawrion’, chwedl Bobi Jones, ceisir pontio’r gagendor rhwng yr hen wareiddiad a Chymru’r ugeinfed ganrif. Peth byw, modern oedd Celtigrwydd iddo, a hunaniaeth y gellid ei defnyddio i greu ymdeimlad o barhad o ddrylliedigaeth.
Llŷr Lewis
Llyfryddiaeth
Davies, A. T. (gol.) (1948), Gwŷr Llên: Ysgrifau beirniadol ar weithiau deuddeg gŵr llên cyfoes ynghyd â’u darluniau (Llundain: W. Griffiths a’i frodyr).
Gwynn ap Gwilym (gol.) (1982), Cyfres y Meistri: Thomas Gwynn Jones (Llandybïe: Gwasg Christopher Davies).
Jenkins, D. (1973), Thomas Gwynn Jones: Cofiant (Dinbych: Gwasg Gee).
Jones, T. G. (1921), ‘Chwedlau’r Hen Fyd yn Gymraeg’, Y Geninen, XXXIX (1921), 181-5.
Jones, T. G. (1926), ‘Iaith a Diwylliant’, Baner ac Amserau Cymru, 11 Chwefror, 5.
Jones, T. G. (1932), Manion (Wrecsam: Hughes a'i Fab).
Jones, T. G. (1934), Caniadau (Wrecsam: Hughes a’i Fab).
Jones, T. G. (1935), Beirniadaeth a Myfyrdod (Wrecsam: Hughes a’i Fab).
Jones, T. G. (1936), Astudiaethau (Wrecsam: Hughes a’i Fab).
Jones, T. G. (1937), Dyddgwaith (Wrecsam: Hughes a'i Fab).