Sleep Furiously
- Gweler sylwebaeth arbenigol o Sleep Furiously gan Dyfrig Jones fan hyn.
Cynnwys
Crynodeb
Dogfen yw hon am gymuned wledig Trefeurig nepell o Aberystwyth. Mae’n ddogfen artistig sy’n symud yn araf ar draws blwyddyn yng nghwmni’r trigolion, gan ddefnyddio John Jones, ceidwad y llyfrgell deithiol fel llinyn storiol, a chawn weld ei fan felen yn symud fel malwen osgeiddig ar draws ehangder y tirlun. Rhoddir sylw hefyd i Pip, mam y cyfarwyddwr, a setlodd gyda’i diweddar ŵr yn yr ardal wedi iddynt ffoi o’r Almaen adeg yr Ail Ryfel Byd. Daw teitl y ffilm o ddyfyniad gan Noam Chomsky, "colourless green ideas sleep furiously" i ddarlunio brawddeg sy’n gywir yn ramadegol, ond yn gwneud dim synnwyr. Gellid honni nad yw ffilm Koppel yn gwneud synnwyr ar un olwg, ond fel cyfanwaith mae’n llwyddo i gyfleu y gymuned. Ceir teimlad o "gofnodi cyn ei bod yn rhy hwyr" sy’n rhoi blas o dristwch i’r gwyliwr, ac atgyfnerthir hyn gan y gerddoriaeth a dyfyniad a welir ar y sgrîn tuag at ddiwedd y ffilm – "It is only when I sense the end of things that I find the courage to speak, the courage but not the words".
Manylion Pellach
Teitl Gwreiddiol: Sleep Furiously
Teitl Amgen: The Library Van (Teitl Gweithiol)
Blwyddyn: 2008
Hyd y Ffilm: 94 munud
Cyfarwyddwr: Gideon Koppel
Cynhyrchydd: Margaret Matheson / Gideon Koppel
Cwmnïau Cynhyrchu: ‘Asiantaeth Ffilm Cymru’ mewn cydweithrediad â ‘bard entertainments ltd’ a ‘van film ltd’
Genre: Dogfen
Cast a Chriw
Cast Cefnogol
- Cyfranwyr – Trigolion a ffrindiau cymuned Trefeurig
Ffotograffieth
- Gideon Koppel
Cerddoriaeth
- Aphex Twin
Sain
- Chris King, Richard Davey, Joakim Sundström
Golygu
- Mario Battistel
Cydnabyddiaethau Eraill
- Uwch-gynhyrchydd – Mike Figgis / Serge Lalou
Manylion Technegol
Fformat Saethu: Super 16mm/35mm
Lliw: Lliw
Cymhareb Agwedd: 1.85:1
Gwlad: Cymru / DU
Iaith Wreiddiol: Saesneg / Cymraeg
Lleoliadau Saethu: Trefeurig, Cymru.
Gwobrau: Gwobr Ffilm Gyntaf The Guardian 2010
Lleoliadau Arddangos: Gŵyl Ffilm Ryngwladol Caeredin 2008
Manylion Atodol
Adolygiadau
- Mark Ford, The Guardian, 9 Mai 2009 ("Time just spins around")
- Jonathan Romney, The Independent on Sunday, 31 Mai 2009
- Sukdhev Sandhu, The Telegraph, 28 Mai 2009
- Sight and Sound, Mehefin 2009 (The Hills are Alive)
Erthyglau
Fideo
Mae Sleep Furiously ar gael i ddefnyddwyr cofrestredig yn Llyfrgell y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.