Y Beirniad
Cylchgrawn chwarterol oedd Y Beirniad a gyhoeddid dan nawdd Cymdeithasau Cymreig y Colegau Cenedlaethol rhwng 1911 a 1920, ond yn llai rheolaidd o 1917 ymlaen.
Y golygydd oedd John Morris-Jones, ac yn ei erthygl olygyddol gyntaf, mynegodd ei amcanion a’i obeithion ar gyfer y cylchgrawn: ‘Bwriad ei hyrwyddwyr ydyw iddo fod yn gylchgrawn cenedlaethol; a hyderwn y ceir i gyfrannu iddo nid yn unig athrawon a myfyrwyr a graddolion, ond hefyd holl ysgrifenwyr goreu Cymru.’ Fel yr awgrymai’r teitl, ‘Beirniadaeth fydd prif amcan y cyhoeddiad’, ond roedd hefyd yn cynnwys gweithiau creadigol. Yn fwy na dim, yr amcan o’r dechrau’n deg oedd ‘goleuo a dyrchafu gwerin Cymru, a meithrin yr iaith Gymraeg.’
Efallai y cofir y cylchgrawn yn bennaf erbyn heddiw am ysgrifau ac erthyglau golygyddol Morris-Jones ei hun (cyhoeddwyd cyfres dan yr enw ‘Yr Orgraff’ yn y rhifynnau cynnar), lle cafodd gyfle i fynegi ei farn ar orgraff y Gymraeg, a sefydlu nifer o gonfensiynau ieithyddol yn seiliedig ar ei safonau clasurol ei hun. Roedd yr erthyglau hyn yn rhan o broject ehangach a chanddo’r nod o leihau dylanwad nifer o fudiadau a llenyddiaeth y 19g. ar ddiwylliant y Gymraeg; rhan hanfodol o hyn oedd dileu mythau a chamsyniadau ynghylch hynafiaeth sefydliadau fel yr Orsedd (e.e. yn ‘Derwyddiaeth Gorsedd y Beirdd’ yn y rhifyn cyntaf).
Cyhoeddwyd gweithiau beirniadol pwysig eraill yn y cylchgrawn, hefyd. Un o’r cyfresi mwyaf nodedig oedd ysgrifau Ifor Williams yn datblygu ei waith ysgolheigaidd ar y Gododdin. Cafwyd erthyglau hefyd gan amrywiol ysgolheigion ar Goronwy Owen, Lewis Morris, llenyddiaeth Iwerddon, Ernest Renan, a rhai a drafodai faterion y Brifysgol. Ymhlith y cyfranwyr i’r cylchgrawn yr oedd R. T. Jenkins, Idris Bell, D. Miall Edwards ac Alafon, a chyhoeddid adolygiadau yn rheolaidd hefyd. Prin, ar y llaw arall, yw’r merched a gyfrannodd i’r cylchgrawn – eithriad, er enghraifft, yw’r stori o eiddo Mattie Roberts yn un o’r rhifynnau cynnar.
Ceir esiamplau nodedig eraill o weithiau creadigol a welodd olau dydd am y tro cyntaf o fewn cloriau’r cylchgrawn. Ynddo y cyhoeddwyd ‘Ynys yr Hud’ W. J. Gruffydd, ‘Madog’ a ‘Pro Patria’ gan T. Gwynn Jones, ‘Llwybrau’r Nos’ gan T. H. Parry-Williams, a nifer o straeon gan E. Tegla Davies, gan gynnwys ‘Weindio’r Cloc’.
Un agwedd ar Y Beirniad nad yw wedi derbyn cymaint o sylw yw’r modd y cafodd ei ddefnyddio’n gynyddol, wrth i’r Rhyfel Byd Cyntaf ddynesu, i leisio safbwyntiau gwrth-Almaenig ac erthyglau gan rai a oedd yn bleidiol i’r rhyfel. Roedd Morris-Jones ei hun ymhlith y sawl a ysgrifennodd ar y pwnc; wrth adolygu dwy gyfrol o’r Almaen am ddichonoldeb y rhyfel, datganodd: ‘Nid yw’r Almaen, fel y mae, yn “addas” i fyw yn y byd. Rhaid diwreiddio’r drwg o’i chalon. Fel y dywedodd un o bapurau Rwsia, “rhaid serio’r cancr Prwsiaidd hwn o Ewrop â haearn poeth.” Ac fe wneir.’ Cafodd eraill hefyd, fel John Williams, Brynsiencyn, lwyfan o fewn cloriau’r cylchgrawn i leisio’u cefnogaeth i’r rhyfel.
Llŷr Gwyn Lewis
Llyfryddiaeth
Brooks, S. (2004), O Dan Lygaid y Gestapo: yr oleuedigaeth Gymraeg a theori lenyddol yng Nghymru (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).
James, A. (2011), John Morris-Jones (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).
Johnston, D., ‘The Literary Revival’ (1988), yn Johnston, D. (gol.), A Guide to Welsh Literature, c. 1900-1996 (Cardiff: University of Wales Press), tt. 1-22.
Jones, R. M. (1987), Llenyddiaeth Gymraeg 1902-1936 (Llandybie: Barddas).
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.