Nofel
Defnyddir y gair ‘nofel’ yn y Gymraeg, fel novel yn Saesneg, i ddisgrifio naratif ffuglennol lle mae canolbwynt yr adrodd ar y berthynas rhwng profiad cymeriadau unigol a’r byd y’u lleolir ynddo. Nid oes raid i’r digwyddiad mewn nofel fod yn ffuglennol - gall rhai o leiaf o’r cymeriadau fod yn hanesyddol - ond y mae’n rhaid wrth ddychymyg yn y ffordd y mae’r berthynas rhwng y ddwy elfen hon wedi’i gweithio . Gan ddweud hynny, y mae disgwyliad bod dychymyg y nofelydd i ryw raddau’n gaeth i amodau’r bywyd neilltuol y mae’n ei bortreadu. Er ei fod yn rhannu priodoleddau naratif gyda’r epig ar y naill law a’r rhamant ar y llaw arall, ystyrir mai priod faes y nofel yw’r profiad dynol ar raddfa gyffredin. Gall nofel bortreadu cymeriadau anghyffredin a digwyddiadau eithafol, ond byddwn yn disgwyl gweld bod y berthynas rhyngddynt yn adlewyrchu amodau bywyd fel y mae.
Er ei bod, ers y 19g., wedi bod yn un o’r genres mawr llenyddol, gyda’r apêl fwyaf eang a’r sylfaen economaidd sicraf, bu datblygiad cynnar y nofel yn araf ac yn ansicr. Datblygodd yn wreiddiol mewn perthynas agos â’r rhamant, ac yn y gwledydd lle parheir rhamant yn gryf ni chydnabuwyd angen i wahaniaethu rhyngddynt. Felly yn Ffrangeg ac yn Almaeneg, er bod y rhamant a’r nofel wedi datblygu ar wahân i’w gilydd ers sawl canrif, defnyddir yr un gair am y ddau. Mabwysiadwyd y gair ‘nofel’ yn Saesneg yn wreiddiol, yn gynnar yn y 18g., o’r gair Sbaeneg novella, oherwydd y cysylltwyd y math ar ffugchwedlau a oedd yn ymddangos erbyn hynny â newydd-deb a chyfoesedd. Y mae’r amwysedd hwn wedi arwain at ansicrwydd ynglŷn â dechreuad y nofel a’i phriodoleddau sylfaenol fel genre llenyddol.
Ymddengys un peth yn sicr am wreiddiau’r nofel, sef ei bod yn mynegi ysbryd y cyfnod modern cynnar, a fynegwyd hefyd yn athroniaeth newydd a symudiadau gwleidyddol a chymdeithasol y 17g. O’r cyfnod hwnnw gwelwn ddirywiad y fframweithiau ideolegol trosgynnol a gynhaliai’r gwahanol fathau o ramant a ffynnai ar gyfandir Ewrop o’r oesoedd canol ymlaen. Yr elfen chwyldroadol newydd a ddatblygai yn y cyfnod cythryblus hwnnw oedd parodrwydd i ymddiddori ym mhrofiad dyn fel ffynhonnell ystyr ynddo ei hun. Dyna’r elfen lywodraethol a symbylai waith y Sbaenwr, Miguel de Cervantes, yn nwy gyfrol ei ffuglen, Don Quijote de la Mancha (1605 a 1615). Datblygai’r gyfrol gyntaf o un cwestiwn sylfaenol, sef beth a fyddai’n digwydd pe bai dyn yn methu â gwahaniaethu rhwng y byd a welai o’i gwmpas a’r byd a bortreedir yn nhudalennau’r rhamantau sifalri yr oedd y nofelydd ei hun yn eu hedmygu? Datblygir cymeriadau canolog y nofel yn sgil gofyn y cwestiwn hwnnw a daw’r digwyddiadau’n ganlyniad i’r gwrthdaro rhwng y cymeriadau hynny a’r byd o’u cwmpas. Cyflwynodd y gyfrol gyntaf honno rywbeth hollol newydd i fyd y naratif yn Ewrop, ond bu’r ail yn gyfraniad mwy syfrdanol fyth, yn plymio’n ddyfnach i hanfod unigoliaeth ddynol ac yn agor allan feysydd newydd i lenyddiaeth.
Er bod ffigwr canolog ffuglen Cervantes wedi gafael yn dynn yn nychymyg darllenwyr ar draws Ewrop, ychydig a ystyriai nad oedd ei waith yn cwympo i ffurfiau naratif cydnabyddedig. Anwadal fu’r datblygiadau yn y ddwy ganrif nesaf. Parhâi darllenwyr yn Ffrainc i ddosbarthu gweithiau fel Gil Blas (1715‒1735) Alain René Lesage a Le Paysan Parvenu (1735) Pierre Carlet de Chamblain de Marivaux gyda’r rhamant. Gwaith yr ysbïwr, dychanwr a’r newyddiadurwr, Daniel Defoe, yn anad dim, a symbylodd ymwybyddiaeth bod angen term newydd i ddisgrifio ffuglen a ddangosai cyn lleied o barch tuag at gategorïau llenyddol traddodiadol. Arweiniodd Robinson Crusoe (1719) at ddiddordeb newydd yn sylwedd a gwead profiad a oedd, wrth ei ystyried o safbwynt gwerthoedd traddodiadol yn hollol ddibwys. Tueddai rhai darllenwyr ar y pryd i ystyried ei fod naill ai’n hanes go iawn, neu’n gelwydd digywilydd, oherwydd eu bod yn methu â’i weld fel llenyddiaeth o gwbl.
Yn raddol ar ôl Defoe daeth pobl i dderbyn bod ffurf lenyddol newydd ar gael, y tueddent i’w dehongli fel mynegiant o weledigaeth y dosbarthiadau cymdeithasol newydd a symbylai ddatblygiad y sustem gyfalafol o ail hanner yr 17g. ymlaen. Cadarnhawyd y duedd honno gan waith Samuel Richardson a Henry Fielding yn Lloegr a Denis Diderot yn Ffrainc. Yna, gydag ymddangosiad nofelau realaidd Stendhal, Honoré de Balzac a Gustave Flaubert yn Ffrainc, ynghyd â rhai Charles Dickens, William Thackeray a George Elliot yn Lloegr, aeth yn ystrydeb i ddweud mai mynegiant o athroniaeth y dosbarth bwrgeisaidd oedd y nofel yn ei hanfod. Un peth yw dweud hynny, wrth gwrs, a pheth hollol wahanol yw dweud mai dyna a oedd y nofel yn y cyfnod hwnnw. Yn ddiau, cynigiai’r nofel ar y pwynt hanesyddol hwnnw gynghanedd ryfeddol rhwng adnoddau ffurfiol a ffurfiau argyfyngus o brofiad mewnol a symbylwyd gan amgylchiadau allanol cyfoes. Yn y cyfnod hwnnw, felly, daeth y nofel i’w hoed fel ffurf lenyddol gwirioneddol fawr.
Y mae’n wir dweud hefyd bod y nofel yng nghyfnod Realaeth, sef rhwng 1830 a 1880 yn fras, wedi datblygu cydbwysedd nodweddiadol rhwng y gwahanol elfennau arddulliadol a gynigir fel naratif. Serch hynny, chwalwyd y cydbwysedd hwnnw gyda dechrau’r mudiad Modernaidd yn negawdau diweddaraf y 19g. Manteisiai awduron fel Marcel Proust, James Joyce a Thomas Mann ar y cyfle i ad-drefnu elfennau’r nofel realaidd yr oedd y berthynas rhyngddynt wedi ymddangos mor naturiol yn y cyfnod cynt, er mwyn ymgorffori deongliadau newydd o fywyd dynol. Yn nwylo’r awduron hyn newidiwyd y berthynas rhwng profiad mewnol yr unigolyn ac amodau allanol yn syfrdanol, yn bennaf trwy ad-drefnu’r berthynas rhwng dulliau gwahanol o drin amser. Felly, yng ngwaith Proust, er enghraifft, A La Recherche de Temps Perdu, y mae’r dechneg o amrywio amser a modd y ferf, hyd yn oed o fewn i un adroddiad integredig, yn ein harwain i feddwl am y cysyniad o unoliaeth ddynol mewn ffordd hollol newydd.
Yn ystod y 20g. gall fod yn wir fod y nofel yn yr Unol Daleithiau ac yn America Ladin wedi arwain y ffordd o ran datblygiadau technegol ac athronyddol, yn nwylo awduron fel William Faulkner, Scott Fitzgerald a Kurt Vonnegut ar y naill law, a Gabriel Garcia Marquez, Mario Vargas Llosa a Jorge Luis Borges ar y llall. Ar drothwy’r ganrif bresennol y mae’r ffurf yn dal i fod yn hynod boblogaidd ac o gryn bwysigrwydd yn economaidd. Er hynny y mae trafodaeth wedi bod ynglŷn â’i gallu i barhau fel ffurf gelfyddydol mewn oes ddigidol. Gan ei bod yn elfen mor bwysig mewn diwylliant cyfredol ar hyd y byd gorllewinol, y mae braidd yn eironig bod ei diwedd wedi ei rhagweld gan sylwebyddion gwahanol ac am resymau amrywiol ers canrif gyfan.
Ioan Williams
Llyfryddiaeth
Genette, G. (1980), Narrative Discourse (Rhydychen: Basil Blackwell).
Levin, H. (1963), Gates of Horn. A Study of Five French Realists (Efrog Newydd: Gwasg Prifysgol Rhydychen).
Watt, I. (1957), The Rise of the Novel: Studies in Defoe, Richardson and Fielding (London: Chatto & Windus).
Williams, G. (gol.) (1999), Rhyddid y Nofel (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).
Williams, I. (1979), The Idea of the Novel in Europe, 1600‒1800 (London: Macmillan).
Williams, I. (1984), Y Nofel (Llandysul: Gwasg Gomer).
Williams, I. (1989), Capel a Chomin. Astudiaeth o ffugchwedlau pedwar llenor Fictoraidd (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).