Hermeniwteg

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:30, 24 Rhagfyr 2016 gan SeimonBrooks (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Ar ei ffurf fwyaf sylfaenol, hermeniwteg yw’r term a ddefnyddir i ddisgrifio’r broses o ddehongli testun. Yn hynny o beth mae’n air sydd iddo hanes hir, yn ymestyn yn ôl at y Groegiaid a’u triniaeth o destunau. Ymddengys y term yn ogystal mewn diwinyddiaeth o’r cyfnod cynnar ymlaen, gan ddisgrifio’r broses o ddehongli’r ysgrythur, a daeth yn arbennig o bwysig wedi’r diwygiad Protestanaidd a phwyslais Martin Luther ar yr unigolyn. Ymarferwyd hermeniwteg yn ogystal mewn meysydd amrywiol megis y gyfraith, ond dim ond yn y 19g. y dechreuodd athronwyr, Friedrich Schleiermacher a Wilhelm Dilthey yn eu plith, ei drafod yn nhermau damcaniaethau cyffredinol, gan gynnig egwyddorion neu fethodoleg y gellid eu priodoli iddo ar draws sawl maes.

Bwriad Schleiermacher oedd adnabod egwyddorion cyffredinol ar gyfer hermeniwteg a thechnegau ar gyfer deall meddwl yr awdur. Rhannodd Dilthey yr un diddordeb ‘rhamantaidd’ yn yr awdur, a phwysleisiodd yn ogystal y pwysigrwydd o ddatblygu methodoleg soffistigedig er mwyn sicrhau statws i wybodaeth hermeniwteg ochr-yn-ochr â’r gwyddorau naturiol. Gyda ffigyrau pwysig megis Heidegger, Gadamer a Riceour fe drodd hermeniwteg o geisio dadlennu ‘bywyd seicig’ yr awdur er mwyn esbonio testun tuag at bwyslais ar y testun ei hun. Iddynt hwy, mae gan y testun fodolaeth a realiti ohono’i hunan sydd yn ymestyn y tu hwnt i’w statws fel cynnyrch un meddwl, ac y mae’r ystyr neu’r ystyron sydd yn deillio o’r testun ynghlwm mewn ffactorau amlhaenog.

Yn y cyswllt yma, Hans-Georg Gadamer a adnabyddir fel y meddyliwr pwysicaf yn y traddodiad hwn, yn seiliedig ar ei waith helaeth, Wahrheit und Methode (Gwirionedd a Method) (1960), sydd yn datblygu sawl thema ddylanwadol. Mae’r cysyniad o’r ‘cylch hermeniwteg’ yn ganolog, sydd yn gofyn inni gynyddu ein dealltwriaeth mewn modd cylchol wrth weithio trwy destun, gan ddeall rhannau gwahanol er mwyn cael gafael ar y cyfan, a deall y gwaith yn ei gyfanrwydd er mwyn deall a dehongli’r darnau gwahanol. Fodd bynnag, mae’r cylch yma o ddehongli a synnwyr yn ymestyn y tu hwnt i’r testun ei hunan, nid yn unig yng nghyswllt ‘bywyd seicig’ yr awdur a’i gyd-destun hanesyddol, ond yn ogystal dealltwriaeth, ymwybyddiaeth a gorwelion y darllenydd.

Y mae’r broses o gyfryngu meddwl yr unigolyn, sef ei ddealltwriaeth o’r testun yng ngolwg ei ddaliadau a gwybodaeth ehangach, yn esgor ar y posibiliad o ddehongliadau di-rif o destunau. I Gadamer, mae’r rhagfarnau a rhagdybiaeth sydd gennym yn ganolog i’r dehongliad o destun. Nid ydynt o reidrwydd yn negatif – dyma’r categorïau a syniadau sy’n ein galluogi i ddeall y byd a’r testunau o’n cwmpas, ac er y byddant yn arwain i ddarllen gyda rhai anghenion neu safbwyntiau penodol mewn golwg, fe all y broses o ddarllen ein harwain i’w hailystyried.

Yn hollbwysig i Gadamer yw’r posibiliad o’r darllenydd yn ehangu a diwygio ei ragfarnau a gwybodaeth o’r byd trwy ystyried safbwyntiau a syniadau o’r ‘arall’. Yn y cysyniad yma codir cwr y llen ar hermeniwteg sydd yn ystyried amrywiol agweddau o’r byd yn ‘destun’, sydd yn mynd tu hwnt i destun traddodiadol ac yn hyrwyddo’r safbwynt y gellir deall ein bywydau beunyddiol mewn modd hermeniwteg. Awgrymir safbwynt moesol ar fywyd cyfunol gan y dehongliad yma o hermeniwteg - un sydd yn ymgeisio at greu perthynasau goddefgar gyda’r ‘chi foesegol’ trwy’r broses o ddysgu am yr arall, a pherchenogi ei orwelion yn rhannol o fewn ein gorwelion ni.

Huw Williams

Llyfryddiaeth

Gadamer, H.-G. (2004), Truth and Method (New York: Bloomsbury Academic).

Mantzavinos, C. (2016), ‘Hermeneutics’, The Stanford Encyclopedia of Philosophy https://plato.stanford.edu/archives/win2016/entries/hermeneutics/ (Cyrchwyd: 24 Rhagfyr 2016)

Zimmermann, J. (2015), Hermeneutics: A Very Short Introduction (Oxford: Oxford University Press).