Dieithrio
Dieithrio
Deilliodd y term Rwsieg ostranenie (‘dieithrio’; defamiliarization yn Saesneg) o waith Ffurfiolwyr Rwsia ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, yn sgil eu hymgais i ddiffinio'r hyn a olygir gan ‘lenyddoldeb’. Ceir y mynegiant croywaf o hanfod dieithrio fel techneg lenyddol mewn ysgrif gan un o'r Ffurfiolwyr, Victor Shclofsci, sy'n dwyn yr enw ‘Celfyddyd fel Techneg’ (1917). Ynddi, dadleuodd Shclofsci mai trwy dorri (neu dreisio) rheolau arferol ffurf y troir iaith arferol yn iaith lenyddol. Er mwyn osgoi diddymdra'r dull cyffredin, 'algebraidd', o amgyffred, meddai, rhaid i gelfyddyd wneud defnydd o dechnegau dieithrio. Trwy hynny, gwneir gwrthrychau yn 'anghyfarwydd', gwneir ffurf yn 'anodd', gan lesteirio ac arafu'r broses o amgyffred 'sydd amcan esthetaidd ei hun'. Yn hytrach nag ‘adnabod’ gwrthrychau yn arwynebol, dylem, trwy gelfyddyd, eu 'hamgyffred' yn llawn. Dadansoddodd Shclofsci ran o nofel Tolstoi, 'Rhyfel a Heddwch', er mwyn darlunio'r technegau dieithrio hyn ar waith yn llwyddiannus.
Daeth y syniad hwn mai iaith ddieithriedig yw hanfod llenyddoldeb yn sylfaen i lawer o waith Ffurfiolwyr Rwsia, a dylanwadodd y syniad ar waith nifer o ysgolion damcaniaethol diweddarach, yn enwedig o'r 1960au ymlaen. I feirniaid a arddelai safbwynt Marcsaidd tuag at iaith lenyddol, e.e. Fredric Jameson yn The Prison House of Language (1972), roedd dieithrio yn ddull cyfleus o synio am olyniaeth neu draddodiad llenyddol fel proses barhaus o ymwrthod, ymbellhau neu dorri ymaith oddi wrth yr hyn a fu.
Yn yr Almaen, bu'r pwyslais ar ddieithrio yn ysgogiad i ffenomenoleg darllen damcaniaethwyr megis Hans Robert Jauss a Wolfgang Iser (Ysgol Constans), a bwysleisiai rôl ganolog profiad y darllenydd wrth bennu ystyr testun llenyddol. Yn groes i Ffurfiolwyr Rwsia, nid perthyn i'r testun yn unig a wnâi'r dieithrio yn eu barn hwy. Yn hytrach, dylid ei weld yn gynnyrch perthynas y testun a'r darllenydd. I Jauss, Iser a'u tebyg, roedd cysylltiad agos rhwng gwerth llenyddol testun penodol ac arafwch y broses o'i ddarllen. Gellir dadlau i feddylfryd tebyg ysgogi ymdriniaeth ôl-strwythurol enwog Roland Barthes â'r stori fer 'Sarassine' yn y gyfrol S/Z (1970), lle dadleuir bod darllen yn digwydd oddi mewn ac oddi allan i rychau deongliadol cyfarwydd.
Yn yr Unol Daleithiau, cafwyd adwaith i'r pwyslais unplyg ar ddieithrio o fewn profiad y darllenydd yng ngwaith beirniaid megis Stanley Fish. Yn yr ysgrif 'How Ordinary is Ordinary Language?' (1973), cwestiynodd Fish ddilysrwydd y ddeuoliaeth iaith lenyddol v. iaith gyffredin, gan ddadlau mai cyfeiliornad yw 'iaith ddieithriedig' fel categori dadansoddol syml. Yn sicr, mae'r syniad o ddieithrio yn fwy defnyddiol wrth drafod rhai mathau o lenyddiaeth (e.e. llenyddiaeth Fodernaidd), yn hytrach na mathau eraill (e.e. testunau mwy 'clasurol' eu naws). Gwendid arall a nodwyd yw na all 'dieithrio' esbonio 'gwreiddioldeb' (neu 'newydd-deb') parhaus rhai testunau llenyddol er gwaethaf traul amser a'r lleihad yn eu dieithrwch honedig.
Cafwyd trafodaeth estynedig ar ddieithrio yn y Gymraeg gan R. M. Jones yn Seiliau Beirniadaeth. Er ei fod yntau, fel Fish, yn ymwrthod â deuolioaeth syml iaith gyffredin v. iaith lenyddol, dadleua fod ffurf lenyddol yn ei hanfod yn fframwaith dieithriol sydd yn rhoi bod i lenyddoldeb: 'Y mae ffurfiau llenyddiaeth wedi'u seilio o raid ar fynegiant cyffredin, ond pellhad ydynt. Dieithriad. Fe'u dieithrir hwy drwy ffurf.'
Angharad Price
Fish, Stanley (1980), Is there a text in this class?: the authority of interpretive communities (Cambridge, Massachusetts: Harvard University Press)
Iser, Wolfgang (1978), The Act of Reading: A Theory of Aesthetic Response (London: Routledge and Kegan Paul )
Jauss, Hans Robert (1982),Toward an Aesthetic of Reception, cyf. Timothy Bahti (Brighton, Harvester Press)
Jones, R. M. (1984), Seiliau Beirniadaeth Cyfrol 1 (Aberystwyth: Coleg Prifysgol Cymru)
Shklovsky, Victor (1998), 'Art as Technique' yn Julie Rivkin a Michael Ryan, gol., Literary Theory: An Anthology (Oxford: Malden)
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.