Cyfannerch
Cyfannerch yw'r term a ddefnyddir (gan ddilyn awgrym John Morris-Jones) am y ddyfais rethregol a llenyddol a elwir hefyd yn apostroffi, yn llythrennol yn y gwreiddiol, 'troi ymaith'. Defnyddir apostroffi gan amlaf i olygu collnod, coma, ac felly doeth defnyddio cyfannerch.
Dyfais a welir yn bennaf mewn barddoniaeth ydyw. Wrth gyfannerch bydd y bardd yn troi oddi wrth ei gynulleidfa (y darllenwyr neu'r gwrandawyr) i gyfarch rhywun neu rywbeth arall; gwrthrychau ym myd natur, unigolion sydd ar dir y byw neu wedi marw, neu haniaethau. Weithiau rhoddir 'O!' o ebychnod ar ddechrau'r darn cyfanerchol, a bydd y darn hwnnw yn fynegiant angerddol o ddyhead neu argyhoeddiad. Ceir enghreifftiau niferus yng ngwaith yr emynwyr (e.e. Ann Griffiths, 'O! F'enaid gwêl addasrwydd y Person rhyfedd hwn' a Morgan Rhys 'Breswylydd mawr y berth, chwanega eto nerth'.) Safle gyfanerchol a fabwysiedir gan Dafydd ap Gwilym yn 'yr Adfail', 'Tydi y bwth tinrhwth twn/ Rhwng y gweundir a'r gwndwn'. Agorodd Gerallt Lloyd Owen un o'i gerddi enwocaf trwy gyfarch tywysog o'r gorffennol pell yn uniongyrchol - 'Wylit, wylit, Lywelyn/ Wylit waed pe gwelit hyn'. Dwyseir yr argraff a roddir o uniaethu ingol â Llywelyn ein Llyw Olaf trwy'r ddyfais. Ceir defnydd helaeth o gyfannerch yng ngwaith Waldo Williams ac mae i'r ddyfais swyddogaeth ganolog yn ei waith wrth iddo godi ei olygon oddiwrth drueni ac argyfyngau'r presennol i chwilio am ysbrydoliaeth o ffynonellau eraill. Cyferchir cân yr ehedydd yn 'Ar Weun Cas Mael' ('O! gân ar yr esgynfa serth') yn ogystal â Chymru'r 'gweundir gwrm a'r garn'. Mae'r gerdd wrthfilitaraidd 'Plentyn y Ddaear' yn cloi gyda'r llinellau 'Tosturi, O! sêr, uwch ein pennau,/Amynedd, O! bridd, dan ein traed.'
Mae'r beirniad Jonathan Culler yn cysylltu'r ddyfais yn benodol â barddoniaeth delynegol a thraethodd yn olau ar ei harwyddocâd a'i defnydd. O fewn y traddodiad barddol Cymraeg diau bod y ddyfais mor gyffredin a chyfarwydd i ni (fe'i defnyddir hefyd yn ddoniol, at bwrpas parodi) fel nad ydym wedi ei dosbarthu na'i dadansoddi na mesur ei harwyddocâd yn ddigonol.
Robert Rhys
Llyfryddiaeth
Culler, J. (2015) Theory of the Lyric (Cambridge Massachussets, London England: Harvard University Press).
Llwyd A. a Rhys, R. (2014) Cerddi Waldo Williams 1922-1970 (Llandysul: Gomer).
Morris-Jones,J. (1925) Cerdd Dafod (Rhydychen: Gwasg Clarendon).
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.