Dychan Uffernaidd

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Defnyddir y termau ‘dychan uffernaidd’ ( S. infernal satire) a ‘genre uffernaidd’ (S. infernal genre) ar gyfer y genre llenyddol dychanol a oedd yn ymwneud yn benodol ag angau a’r isfyd. Genre cyfansawdd ydyw ac mae iddo wreiddiau hynafol sy’n cynnwys haenau clasurol a phaganaidd cynnar yn ogystal â haenau Cristnogol diweddarach.

Mae haen baganaidd y genre i’w gweld yn neialogau’r meirw gan Lucian (3g.), awdur o Syria a ysgrifennai mewn Groeg. Cafodd Lucian gynulleidfa newydd yn ystod cyfnod y Dadeni wrth i ddyneiddwyr ymddiddori drachefn yng nghlasuron Groeg a Rhufain. Darllenwyd ei waith gan awduron a gynhaliodd fomentwm dychan uffernaidd yn Ewrop: François Rabelais (c. 1494-c. 1553), Ben Jonson (1572/3-1637), Quevedo (1580-1645), Paul Scarron (1610-60), Bernard le Bovier de Fontenelle (1657-1757), Jonathan Swift (1667-1745) a François Fénelon (1751-1715).

Gwelir haen Gristnogol y genre yn y modd y benthyciodd yn drwm oddi wrth stoc amrywiol o ddelweddau a oedd yn rhan ‘o waddol cyffredin y traddodiad gweledigaethol’ (Gwyn Thomas), sef elfennau beiblaidd, dwyreinol, Celtaidd a Thiwtonaidd ynghylch nefoedd ac uffern sydd i’w gweld yng ngweledigaethau crefyddol mwyaf poblogaidd Ewrop Ganoloesol: 'Purdan Padrig', 'Breuddwyt Pawl Ebostol','Apocalupsis Petri', Gweledigaeth Piers Plowman, Gweledigaeth Drythelm, Gweledigaeth Wettin, a Comedi Ddwyfol Dante.

Er gwaethaf y gwreiddiau hynafol hyn, daeth dychan uffernaidd yn boblogaidd iawn ymhlith awduron yn Lloegr yn ystod 17g. a’r 18g.. Mae’n debyg mai gwaith Barnabe Riche yw’r enghraifft gynharaf, sef Greenes News both from Heaven and Hell (1593). Addasiadau Saesneg Richard Crawshawe a Roger L’Estrange (1616-1704) o 'Los Sueños', gweledigaethau’r Sbaenwr Dom Fransisco Gomez de Quevedo Villegas, fu’n gyfrifol am boblogeiddio’r genre, a Tom Brown (1663-1704) a Ned Ward (1667-1731) yw’r awduron a gysylltir fwyaf â’r genre.

Gweledigaetheu y Bardd Cwsc (1703) gan Ellis Wynne (1671–1734) yw’r enghraifft fwyaf adnabyddus o ddychan uffernaidd yn y Gymraeg. Dangosodd Gwyn Thomas fod ar Ellis Wynne ddyled lenyddol drom i waith L’Estrange. Y mae cyfrol Gwyn Thomas yn dal ei thir fel yr astudiaeth fwyaf cynhwysfawr o wedd Gymreig y genre yng Nghymru. Erbyn i Ellis Wynne gyhoeddi ei weledigaethau, roedd y genre ar drai. Yn y 18g. yng Nghymru, ceir enghreifftiau byrion o’r genre ar ffurf llythyrau oddi wrth y meirw at y byw gan Lewis Morris (1701-65), William Williams o Bantycelyn (1717-91) ac Edward Williams (Iolo Morganwg, 1747-1826). Ystyrir Gohebiaethau Syr Meurig Grynwsth (1856–58) gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog, 1832-87) yn enghreifftiau o ffuglen wyddonol gynnar, ond mae’r llythyrau hefyd yn dal perthynas agos â’r genre uffernaidd ar sail eu lleoliad arallfydol. Mae’r genre uffernaidd yn dangos sut y cyfoethogwyd traddodiadau llenyddol Cymru trwy gyfieithu diwylliannol o draddodiadau llenyddol Seisnig, Ewropeaidd a Chlasurol.

Dwy echel hanfodol y genre hwn yw’r lleoliad arallfydol a’r safbwynt dychanol. Fe’i lleolir mewn byd arall, fel arfer mewn uffern neu burdan y traddodiad Cristnogol, neu ynteu’r isfyd Clasurol. Y meirw a’r natur ddynol yw ffocws y dychan. Gan mai’r deunydd crai uffernaidd hwn sy’n diffinio’r genre mae iddo gryn hyblygrwydd o ran ei ffurf allanol. Ceir enghreifftiau o lythyrau oddi wrth unigolyn marw at unigolyn byw, a’r rheiny wedi eu postio yn uffern neu mewn lleoliad arallfydol arall fel y lleuad. Ceir enghreifftiau eraill ar ffurf breuddwyd neu weledigaeth o’r byd arall; fel arfer yng nghwmni cydymaith neu dywysydd arallfydol, fel angel neu un o’r meirw. Ceir hefyd enghreifftiau ar ffurf deialog, sef naill ai â chydymaith arallfydol neu rhwng y byw a’r marw.

Dadleuodd yr hanesydd llenyddol Benjamin Boyce fod rhesymoliaeth y cyfnod yn un achos dros boblogrwydd y genre hwn yn yr 17g., yn arbennig felly, ddadleuon Sosiniaid Gwlad Pwyl, Ariaid Seisnig a Phlatonwyr Caer-grawnt a oedd yn bwrw amheuaeth ar athrawiaeth uffern. Mewn cyfnod a danseiliodd athrawiaeth uffern, gallai llenorion fanteisio ar botensial comig uffern a’r isfyd. Serch hynny, roedd ambell awdur yn ofalus i bwysleisio mai dychanu’r natur ddynol oedd eu bwriad ac nid dychanu’r athrawiaeth Gristnogol ynghylch uffern fel y cyfryw.

Cathryn A. Charnell-White

Llyfryddiaeth

Benjamin Boyce, B. (1943), ‘News From Hell: Communications from the Nether World in English Writings of the Seventeenth and Eighteenth Centuries’, Publications of the Modern Language Asssociation, 58:2, 402–37; ar gael ar-lein https://www.jstor.org/stable/459052?seq=1#page_scan_tab_contents [Cyrchwyd 3 Ionawr 2018].

Charnell-White, C.A. (2007), O’r Cysgodion: Llythyrau’r Meirw at y Byw (Aberystwyth, 2007).

Hughes, J. Ceiriog, (1948) Gohebiaethau Syr Meurig Grynswth, gol. Hugh Bevan (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru)

Thomas, G. (1971) Y Bardd Cwsg a’r Gefndir (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.