Onomasteg
Mae’r term Onomasteg yn deillio o’r Groeg ‘Onomazein’ (ὀνομάζειν - ‘i enwi’) ac mae’n cyfeirio at yr astudiaeth o enwau, eu tarddiad a phopeth sy’n ymwneud â hwy. Gelwir y sawl sy’n astudio enwau yn onomastegydd(ion). Mae enwau’n eiriau, neu’n gyfuniad o eiriau, a ddefnyddir i adnabod pob math o bethau yn benodol, megis pobl, lleoedd a gwrthrychau. Yn ôl Hough (2016), mae enwau yn ‘linguistic universal’, gyda phob iaith yn gwneud defnydd ohonynt.
Mae llawlyfr Rhydychen am enwau ac enwi, a olygwyd gan Hough (2016), wedi ei rannu’n chwe adran: damcaniaeth onomasteg; toponomasteg, sef enwau lleoedd ac agweddau daearyddol megis afonydd; anthroponomasteg, sef enwau personol; onomasteg lenyddol, gan gynnwys ystyriaethau o enwau mewn ffuglen; onomasteg cymdeithasegol (socio-onomastics), sef yr astudiaeth ieithyddol-gymdeithasegol o enwau; onomasteg a disgyblaethau eraill, megis archaeoleg, seicoleg ac ieithyddiaeth; a mathau gwahanol o enwau, megis enwau anifeiliaid ac enwau mewn seryddiaeth.
O fewn rhan un o’r llawlyfr, ar ddamcaniaeth onomasteg, mae Elwys De Stefani (2016) yn dadlau am wahaniaethu rhwng onomasteg gymdeithasegol (maes ieithyddion cymdeithasegol) a chymdeithaseg enwau (maes cymdeithasegwyr) ar sail methodoleg a graddfa’r hyn y maent yn ei astudio. Yn ôl De Stefani, mae ysgolheigion onomasteg-gymdeithasegol yn astudio materion micro, tra bod cymdeithasegwyr enwau yn astudio materion macro. Yr wyf wedi dadlau yn erbyn y rhaniad artiffisial yma, gan fod ieithyddion cymdeithasegol a chymdeithasegwyr yn defnyddio amrediad o fethodolegau i astudio amrywiaeth o bynciau - gyda llawer iawn o orgyffwrdd. Hefyd, mae ymdrechion i wahaniaethu fel hyn, ar sail disgyblaeth, yn gwanhau’r maes yn gyffredinol, ac yn golygu nad oes cymaint o rannu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o waith ein gilydd, hyd yn oed ar bynciau tebyg. Mae ‘Onomasteg’ yn cynnig ‘enw’ sydd yn cwmpasu’r astudiaeth drawsddisgyblaethol o enwau (Wheeler, 2018).
Mae mudiadau a chymdeithasau onomasteg yn bodoli’n fyd-eang, ac maent yn amrywio o gymdeithasau ar lefel leol sydd yn canolbwyntio ar un agwedd o onomasteg, er enghraifft enwau lleoedd, i fudiadau rhyngwladol sydd yn ystyried pob agwedd ar onomasteg. Mae cyfnodolion penodol ym maes onomasteg, megis: Onoma - cyfnodolyn yr International Council of onomastic sciences; Names: A journal of onomastics, cyfnodolyn yr American Name Society; Nomina Africana: Journal of African Onomastics; Nomina - cyfnodolyn Society for Name studies in Britain and Ireland; The Journal of Scottish Name Studies; The Journal of Literary Onomastics. Ceir hefyd sawl mudiad a chyfnodolyn onomasteg mewn ieithoedd ar wahân i Saesneg.
Yn y Deyrnas Unedig, mae’r Society for Name Studies in Britain and Ireland yn ymroddedig i astudio pob math o enwau, megis enwau personol, lleoedd ac enwau eraill, a hynny o bob math o safbwyntiau, gan gynnwys y rhai ieithyddol, hanesyddol, a chymdeithasegol. Yng Nghymru, mae Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru wedi ymroi i wneud gwaith am enwau lleoedd yng Nghymru, gan gynnwys cofnodi pob agwedd o enwau daearyddol, ac mae'n cynhyrchu cylchlythyr i’w haelodau. Mae hefyd adnodd enwau lleoedd ar wefan Prifysgol Bangor i helpu darganfod enwau Cymraeg am leoedd Saesneg. Ceir llawer o lyfrau onomastaidd Cymraeg, y rhan fwyaf ohonynt am enwau lleoedd.
Sara Louise Wheeler
Llyfryddiaeth
American Names Society: promoting the study of onomastics (2018), http://www.americannamesociety.org/ (Cyrchwyd: 25 Ebrill 2018).
Canolfan Bedwyr (2018) Adnoddau Enwau Lleoedd, https://www.bangor.ac.uk/canolfanbedwyr/enwau_lleoedd.php.cy (Cyrchwyd: 25 Ebrill 2018).
Coats, R (2018), 'What is Onomastics?' https://icosweb.net/drupal/what-is-onomastics (Cyrchwyd: 25 Ebrill 2018).
Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru / Welsh Place-Name Society (2018) https://www.facebook.com/CymdeithasEnwauLleoeddCymruWelshPlaceNameSociety/ (Cyrchwyd: 25 Ebrill 2018).
De Stefani, E (2016), ‘Names and discourse’, yn Hough, C (goln), The Oxford Handbook of Names and Naming (Oxford: Oxford University Press), lleoliad kindle 1457-1814).
Dictionary.com (2018), 'Name', http://www.dictionary.com/browse/name (Cyrchwyd: 25 Ebrill 2018).
Hough, C (goln) (2016), The Oxford Handbook of Names and Naming, (Oxford: Oxford University Press).
Hough, C (2018), 'What is Onomastics?' http://onomastics.co.uk/ (Cyrchwyd: 25 Ebrill 2018).
Merriam Webster Dictionary (2018),'Definition of Onomastics' https://www.merriam-webster.com/dictionary/onomastics (Cyrchwyd: 25 Ebrill 2018).
Names: A Journal of Onomastics (2018), https://www.tandfonline.com/loi/ynam20 (Cyrchwyd: 25 Ebrill 2018).
Nomina (2018), http://www.snsbi.org.uk/Nomina.html (Cyrchwyd: 25 Ebrill 2018).
Nomina Africana: Journal of African Onomastics (2018), https://journals.co.za/content/journal/nomina (Cyrchwyd: 25 Ebrill 2018).
Onoma: Journal of the International Council of Onomastic Science (2018), http://poj.peeters-leuven.be/content.php?url=journal&journal_code=ONO (Cyrchwyd: 25 Ebrill 2018).
Society for Name Studies in Britain and Ireland (2018), Home http://www.snsbi.org.uk/ (Cyrchwyd: 25 Ebrill 2018).
The International Council for Onomastic Sciences (2018), Journals, https://icosweb.net/drupal/journal-links (Cyrchwyd: 25 Ebrill 2018).
The Journal of Literary Onomastics (2018), https://digitalcommons.brockport.edu/jlo/ (Cyrchwyd: 25 Ebrill 2018).
The Journal of Scottish Name Studies (2018), http://www.clanntuirc.co.uk/JSNS/JSNS11.html (Cyrchwyd: 25 Ebrill 2018).
Wheeler, SL. (2018), ‘Autoethnographic onomastics: transdisciplinary scholarship of personal names and ‘our stories’, Methodological Innovations, January-April, 1-11; http://journals.sagepub.com/doi/abs/10.1177/2059799118769818