Gohebydd tramor
Saesneg: Foreign correspondent
Mae gohebydd tramor yn newyddiadurwr sy’n cael ei aseinio am gyfnod er mwyn adrodd nôl i’r sefydliad newyddion cartref am ddigwyddiadau a materion y wlad honno. Gall gohebydd tramor weithio o ganolfan newyddion penodol ynghyd â symud o gwmpas y wlad neu’r cyfandir yn ôl y galw gan adrodd yn ôl o’r maes yn rheolaidd.
Cawsai’r swydd ei hystyried fel arbenigedd galwedigaethol yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac roedd yn ffordd i bapurau newydd Unol Daleithiau’r America ac Ewrop yn bennaf i adrodd ar ddigwyddiadau ymhell o adref. Hyd heddiw, mae gohebydd tramor yn parhau i fod yn swydd elitaidd ac yn ddymunol o fewn sefydliadau newyddion oherwydd mae’n cyfuno annibyniaeth rhywun o’r tu allan â gwybodaeth fewnol.
Fel arfer, caiff gohebydd tramor ei aseinio i ranbarth neu wlad arbennig lle y maen nhw’n gyfrifol am ddehongli hanes, gwleidyddiaeth, economeg a diwylliant y lle hwnnw.
O ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, danfonwyd gohebwyr tramor yn eu cannoedd i bellafoedd byd er mwyn adrodd nôl i’r papurau newydd am ddigwyddiadau pellennig. Drwy gydol y ganrif ddiwethaf, wrth i gyfathrebu byd-eang a rhwydweithiau teithio gwell ei gwneud hi’n bosibl i wybod mwy am y byd o’n cwmpas, roedd gwaith y gohebydd tramor yn werthfawr tu hwnt i sefydliadau newyddion.
Mae angen iddynt feddu ar ddoniau amldasgio; mae’n rhaid iddynt allu weithredu’n fyrfyfyr, ac addasu’n gyflym i amgylcheddau anghyfarwydd. Fel arfer, fe’u hanfonir am ‘daith o ddyletswydd’ i fan penodol am gyfnod o dair i bum mlynedd. Maen nhw’n gorfod dygymod â chyflymder cynyddol newyddiaduraeth, ynghyd â phwysau ychwanegol fel rhwystrau iaith, sensitifrwydd diwylliannol, awdurdodau lleol sy’n amheus ohonynt, pryderon diogelwch ac yn aml, cyfyngiadau ar fynd a dod. Mae llawer o’r problemau sy’n gysylltiedig ag adroddiadau gohebwyr tramor – fel gohebu arwynebol neu ddibynnu ar stereoteip – yn deillio o’r methiant i ymdopi â’r anawsterau hyn.
Erbyn diwedd yr ugeinfed ganrif, roedd llai a llai o newyddiadurwyr yn cael eu danfon dramor i ohebu. Wrth i sefydliadau newyddion deimlo’r esgid yn gwasgu, gostyngodd nifer y canolfannau tramor, ac yn sgil cyllidebau yn crebachu, daeth ffynonellau newydd o gasglu newyddion tramor yn fwy cyffredin, ac felly gwelwyd gohebwyr tramor yn mynd yn fwy prin.
Mae’r sefydliadau newyddion wedi ailstrwythuro’r ffordd maen nhw’n casglu newyddion ac yn adrodd ar ddigwyddiadau tramor, a hynny drwy anfon gohebwyr (sydd eisoes yn aelodau o’r staff) am gyfnod byr, defnyddio newyddiadurwyr llawrydd lleol ac asiantaethau newyddion yn fwy aml, ynghyd â defnyddio dinasyddion lleol i newyddiadura’n achlysurol.
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.