Owen, Morfydd
Bydd y cofnod hwn ymysg y cannoedd fydd yn ymddangos yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei cyhoeddi gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
(1891-1918)
Cyfansoddwraig, mezzo-soprano, pianydd ac ethnogerddoregydd. Roedd Morfydd Llwyn Owen yn un o’r cerddorion mwyaf talentog ac amlweddog a gynhyrchodd Cymru erioed: ffi gur canolog yn y broses o broffesiynoli cerddoriaeth Gymreig a ffi gur chwedlonol yn niwylliant y wlad oherwydd ei thalent, ei harddwch, ei phersonoliaeth hoenus a’i bywyd trychinebus o fyr.
Hi oedd yr ieuengaf o blant William Owen, cyfrifydd ac asiant tai, a’i wraig gyntaf, Sarah Jane Jones, a’r unig ferch yn eu plith. Fe’i magwyd yn Nhrefforest mewn sawl cyfeiriad gwahanol; ar un cyfnod roedd y teulu’n byw uwchben y siop ddefnyddiau a gadwai ei mam yn Wain House, Park Street. Roedd y ddau riant yn gerddorol a daethant i sylweddoli bod gan Morfydd dalent gwbl ryfeddol ar ôl iddi eistedd wrth y piano yn bedair oed a dechrau cyfansoddi yn chwech oed. Yn un ar bymtheg, cafodd wersi preifat mewn cyfansoddi a’r piano gyda David Evans (1874–1948) cyn ennill Ysgoloriaeth Caradog i astudio wrth draed Evans yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd](1909–12). Ymddangosodd fel unawdydd yn Concerto i’r Piano Grieg (1911) a chafodd ugain o’i chyfansoddiadau eu perfformio am y tro cyntaf yng nghyngherddau’r adran (1910–12). Ysgrifennodd un o’i chaneuon gorau, ‘To Our Lady of Sorrows’ (1912), ychydig cyn iddi raddio. Ymunodd â’r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam (1912) fel ‘Morfydd Llwyn-Owen’, enw a oedd yn deyrnged i fan geni ei thad yn Llanbryn-mair, ac sy’n dal i gael ei ddefnyddio’n fynych.
Yn dilyn cyngor Eliot Crawshay-Williams, astudiodd Morfydd gyda Frederick Corder (1852–1932) yn yr Academi Gerdd Frenhinol, Llundain (1912–17), gan ennill Gwobr Oliveria Prescott am ragoriaeth gyffredinol (1913), Ysgoloriaeth Goring Thomas am gyfansoddi dramatig (1913–17) a Medal Arian Charles Lucas (1913) am Nocturne gerddorfaol a ddisgrifiwyd fel ‘un o’r gweithiau mwyaf unigryw a glywyd gan fyfyriwr erioed’ (Corder, 1918).
Nocturne oedd y gyntaf mewn cyfres o sgorau swmpus a berfformiwyd yn gyntaf yng nghyngherddau’r Academi yn Queen’s Hall: A Cycle of Sea Songs (1913), y gerdd symffonig Morfa Rhuddlan (1914), scena yn dwyn y teitl Toward the Unknown Region, cantata Pro Patria (1915), a dau bâr o ganeuon gyda chyfeiliant cerddorfa, ‘In Cradle Land’ a ‘The Fairies’ Wedding’ (1916) ac ‘An Irish Lullabye’ a ‘Pitter Patter’ (1917). Mae’r rhestr o weithiau Morfydd yn cynnwys rhyw 250 o sgorau, gan gynnwys cerddoriaeth gerddorfaol, gorawl, siambr, piano a llais ynghyd â threfniadau o ganeuon gwerin a thrawsgrifiadau. Meddai Alexander Mackenzie, Pennaeth yr Academi, ‘You see that little monkey? There’s nothing that little devil can’t do!’ (B. Jones, 1976).
Yn ogystal, datblygodd Morfydd yn gyflym fel cantores yn yr Academi, gan gymryd gwersi am y tro cyntaf ac ennill Gwobr Eisteddfod Abertawe (1913). Cyfansoddwyd ‘Slumber-Song of the Madonna’ a ‘Spring’ (a ysgrifennwyd ar yr un diwrnod yn 1913), y caneuon arbrofol ‘Suo-Gân’ (1913) a ‘La Tristesse’ (1915), ynghyd â’r gân eiconig ‘Gweddi y Pechadur’ (1913) ar gyfer ei llais hi ei hun, a chafodd y perfformiadau cyntaf – mewn lleoliadau fel Neuadd Bechstein (Neuadd Wigmore bellach, 1913) a’r Pump Room, Caerfaddon (1916) – adolygiadau rhagorol.
Ymysg ei pherfformiadau arwyddocaol eraill yr oedd Requiem Verdi yn Rhosllannerchrugog (1915) ac ymddangosiadau fel unawdydd yn Eisteddfodau Cenedlaethol Aberystwyth a Phenbedw (1916–17). Pan roddodd Morfydd ei pherfformiad proffesiynol cyntaf yn Neuadd Aeolian, y platfform uchaf ei fri yn Llundain ar gyfer datganiadau, ar 10 Ionawr 1917, rhagwelodd rhai o fewn y wasg fod ‘ei thraed yn gadarn ar ysgol enwogrwydd’ ([di-enw] 1917, 4). Cyhoeddwyd ei chaneuon gan y Cwmni Cerddoriaeth Eingl-Ffrengig, Boosey, Chappell a Snell, a chawsant eu canu yn y Proms a Palladium Llundain gan Robert Radford ac Ivor Foster.
A hithau’n byw y tu allan i Gymru, daeth Morfydd yn fwyfwy ymwybodol o’i mamwlad, ac ysbrydolwyd sawl cyfansoddiad o’i heiddo gan dirwedd a llenyddiaeth Cymru, yn cynnwys y miniaturau piano Glantaf a Nant-y-Ffrith a cherddoriaeth ar gyfer The Passing of Branwen. Fe’i cyflwynwyd i hufen cymdeithas Cymry Llundain yng Nghapel Charing Cross, gan gynnwys Herbert Lewis, AS Rhyddfrydol Sir y Fflint, a’i wraig Ruth Herbert Lewis, Mary Davies, a David a Margaret Lloyd George. Roedd Morfydd yn westai rheolaidd yng nghartref y Lewisiaid, 23 Grosvenor Road, a bu’n lletya yno am dymor. Trawsgrifiodd a rhoddodd gyfeiliant piano i Folk-Songs Collected in Flintshire and the Vale of Clwyd (1914) Ruth Lewis a rhoddodd gyhoeddusrwydd i’w darganfyddiadau mewn cyngherddau a darlithoedd. I Herbert Lewis, ysgrifennodd emyn-donau i eiriau gan Thomas Jones, a chyhoeddwyd chwech o’r rheini yn Cân a Moliant (1916) H. Haydn Jones.
Roedd cylch cymdeithasol Morfydd hefyd yn cynnwys D. H. Lawrence, Ezra Pound a Felix Yusupov. Trawsgrifiodd ganeuon gwerin o ganu Alexis Chodak, cariad iddi o Rwsia, a gwnaeth gais am Gymrodoriaeth Prifysgol Cymru i baratoi ‘astudiaeth feirniadol o’r elfennau mewn canu gwerin sy’n cael dylanwad parhaus ar ddatblygiad cerddorol cenedl, gyda chyfeiriad arbennig at Rwsia, Norwy a’r Ffindir … a’r hyn a allai fod yn bosibl yng Nghymru.’ ([di-enw] 1915, 12–13) Yn anffodus, ni fu’n bosibl iddi ymweld â St Petersburg i astudio, fel yr oedd wedi bwriadu; dryswyd ei chynlluniau gan y Rhyfel Byd Cyntaf ac yna’r Chwyldro Bolsiefic.
Mewn parti yn Hampstead yn fflat Eric Hiller, awdur y geiriau i’w chân ‘William’ (1916), cyfarfu Morfydd ag Ernest Jones (1879–1958), y seicdreiddiwr a bywgraffydd swyddogol Sigmund Freud. Synnwyd ei chyfoeswyr pan briododd y ddau yn gyfrinachol chwe wythnos yn ddiweddarach yn Swyddfa Gofrestru Marylebone ar 6 Chwefror 1917, heb neb o deulu na ffrindiau’r gantores yn bresennol – ac mae eu perthynas yn destun chwilfrydedd hyd heddiw. Roedd Morfydd yn dal ar lyfrau’r Academi hyd fis Gorffennaf 1917 ac enillodd ei ARAM (1918), ond prin fu ei chyfansoddiadau a’i chyngherddau wedi hynny wrth iddi ymroi i chwarae rôl gwesteiwraig ac ysgrifenyddes i’w gãr.
Bu farw Morfydd ar 7 Medi 1918 yng nghartref ei rhieni-yng-nghyfraith yn Ystumllwynarth, ar ôl pendectomi aflwyddiannus dan amgylchiadau sy’n parhau’n ddirgelwch. Disgrifiodd David Evans ei marw fel ‘colled ddifesur i gerddoriaeth Cymru – ni wn, mewn gwirionedd, am yr un cyfansoddwr ifanc arall o Brydain a ddangosai gymaint o addewid.’ ([di-enw] 1918, 2)
Rhian Davies
Llyfryddiaeth
[di-enw] Y Gorlan, x, 8 (Awst, 1915), 12–13
[di-enw] Western Mail (11 Ionawr 1917), 4
[di-enw] South Wales Daily News (9 Medi 1918), 2
F. Corder, ‘Obituary: Morfydd Owen’, R.A.M. Club Magazine, 54 (Medi, 1918), 13–14
E. Crawshay-Williams, ‘Morfydd Owen’, Wales, iv (1958), 50–56
———, ‘The tragedy of Morfydd’, Y Ddinas (Mawrth, 1959), 17–18
E. Jones, Free Associations: Memories of a Psycho-Analyst (Llundain, 1959)
K. I. Jones, ‘The enigma of Morfydd Owen’, Welsh Music/Cerddoriaeth Cymru, 5/1 (1975–76), 8–21
B. Jones, ‘Letter, 30 May 1976’, Welsh Music/Cerddoriaeth Cymru, 5/3 (1976), 99–100
R. Davies, Yr Eneth Ddisglair Annwyl | Never So Pure a Sight: Morfydd Owen (1891–1918): Ei Bywyd mewn Lluniau/A Life in Pictures (Llandysul, 1994)
———, ‘“A refi ned and beautiful talent”: Morfydd Owen (1891–1918)’ (traethawd PhD Prifysgol Cymru Bangor, 1999)