Corfan
Bar neu droed mydryddol yw corfan, sef y modd yr acennir gwahanol gyfuniadau o sillafau. Un o’r corfannau mwyaf cyffredin mewn barddoniaeth yw’r corfan talgrwn, a geir yn aml mewn mesurau pumban, sonedau, er enghraifft. Cyfuniad o ddwy sillaf yw’r math hwn o gorfan, gyda’r sillaf gyntaf yn ddiacen a’r ail sillaf yn acennog, er enghraifft, dyheu, ymhell, gerllaw, fan draw. Math arall o gorfan yw corfan crych disgynedig lle ceir clymiad o dair sillaf, gyda’r sillaf gyntaf yn acennog a’r ail a’r drydedd sillaf yn ddiacen, er enghraifft,
- Dwylo yn debyg i'r rhain
- Cwsg fy anwylyd di-nam,
- Tecach na'r rhosyn wyt ti;
- Huna ym mynwes dy fam,
- Tarian dy fywyd yw hi.
Dwy sillaf acennog yn dilyn ei gilydd yw corfan cytbwys, y gair cyntaf yn soned enwog R. Williams Parry, ‘Y Llwynog’, er enghraifft:
- Ganllath o gopa’r mynydd, pan oedd clych
- ´´ – ´ – ´– ´– ´
Y gwrthwyneb i gorfan crych disgynedig yw corfan crych dyrchafedig, lle ceir geiriau neu glymiad o dair sillaf, gyda’r ddwy sillaf gyntaf yn ddiacen, a’r drydedd sillaf yn acennog, er enghraifft.
- [Nid oes] gennym hawl ar y sêr
- [Nid oes] gennym hawl ar ddim byd
- Mae'r plant bach o Lerpwl sy'n Arfon
- Mae'r ddaear fel pe bai'n ailadrodd
Y corfan talgrwn o chwith yw corfan rhywiog, hynny yw, mewn clymiad o ddwy sillaf, y mae’r sillaf gyntaf yn acennog a’r ail linell yn ddiacen, caru, rhedeg, lleuad, darfod, er enghraifft.
Alan Llwyd
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.