Newyddion
Saesneg: News
Gwybodaeth newydd am ddigwyddiad neu fater a rennir ag eraill mewn modd systematig a chyhoeddus. Mae newyddion yn deillio o’r gair ‘newydd’, wedi ei sillafu yn y drydedd ganrif ar ddeg fel ‘newydd’ yn Llyfr Iorwerth ac fel ‘newes’ neu ‘niwes’ yn yr Hen Saesneg yn yr unfed ganrif ar bymtheg.
Gyda datblygiad y wasg argraffu ac ymddangosiad cyfalafiaeth, cododd angen am air a allai, yn wahanol i ‘tydings’ yr Hen Saesneg, fod yn arwydd o werth newydd masnachol a gododd o amgylch newyddiaduraeth. Roedd newid ‘tydings’ i ‘news’ yn drobwynt mewn perthynas â sut oedd y cyhoedd yn gweld statws gwybodaeth materion cyfoes ac yn nodi bod y modd y’i darperir yn debyg i’r modd y darperir nwyddau eraill fel bwyd neu ddillad, a bod y wybodaeth yn cael ei defnyddio er mwyn sicrhau elw o fewn fframwaith cyflenwad a galw.
Fodd bynnag, mae esblygiad y term yn haws i’w olrhain na’i ddiffiniad, gyda newyddiadurwyr yn cyfaddef bod diffinio’r newyddion yn dasg aruthrol. Mae’r rhan fwyaf o lyfrau newyddiaduraeth yn rhoi mwy o sylw i sut i ysgrifennu’r newyddion neu hel newyddion na diffinio beth yw newyddion mewn gwirionedd. Mae’r atebion i’r cwestiwn ‘Beth yw newyddion?’ yn tueddu i gynnwys rhestrau o nodweddion (amseroldeb, diddordeb neu amlygrwydd) yn hytrach na diffiniadau. Er bod y New York Times yn addo ‘yr holl newyddion sy’n addas i’w argraffu’, mae sylwebyddion sgeptig yn dweud mai ‘newyddion yw’r hyn y mae’r golygydd yn ei ddweud yw’r newyddion’, ‘newyddion yw’r hyn y mae’r cyhoedd am ei ddarllen’, a ‘newyddion yw beth sy’n codi aeliau’.
Yn fras, caiff y rhan fwyaf o newyddion cyfoes ei gynhyrchu o fewn fframwaith systematig a biwrocrataidd, lle y mae newyddiadurwyr yn gweithio yn unol â threfn sefydliadol ar amserlen benodol. Mae newyddiadurwyr yn cael gwybodaeth oddi wrth ffynonellau o’r cylchoedd sefydliadol mwy er mwyn cynhyrchu storïau sy’n adrodd ar faterion cymdeithasol, gwleidyddol, economaidd, cyfreithiol a diwylliannol i gynulleidfa adnabyddadwy. Byddant yn gwneud hyn yn ôl y grefft o newyddiadura, gan ddefnyddio gwerthoedd newyddion (sef meini prawf y mae newyddiadurwyr yn eu defnyddio er mwyn penderfynu faint o sylw a gaiff stori), arferion a defodau cydsyniol, gan gynnal safonau perfformiad y cytunwyd arnynt a defnyddio strategaethau dehongli cydsyniol, gan weithredu fel cymuned ddehongli. Ar yr un pryd, maent yn defnyddio ystod o enghreifftiau amrywiol o newyddiaduraeth niwtral, newyddiaduraeth gan gyfranwyr, newyddiaduraeth bleidiol, lenyddol ac ati, er mwyn cynhyrchu newyddion o fewn amserlen benodol.
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.