Briff i’r wasg
Saesneg: Press briefing
Cyfarfod lle y mae llefarydd sefydliad penodol (er enghraifft y Tŷ Gwyn, y Cenhedloedd Unedig, NATO) a newyddiadurwyr yn trafod yn rheolaidd. Mae’r cyfan yn cael ei gofnodi (ar gofnod, on the record) ac mae’r ffynonellau yn cynnig gwybodaeth i’w defnyddio gan sefydliadau newyddion. Cynhelir y cyfarfod fel sesiwn Holi ac Ateb, fel arfer yn ddyddiol neu’n wythnosol gan sefydliadau cydnabyddedig. Nid yw’r sesiynau briffio i’r wasg yn digwydd ar y cyd â newyddion sy’n torri, er bod digwyddiadau neu faterion o’r fath yn cael eu trin fel arfer yn ystod y briffio os ydynt yn gyfredol.
Mae amserlen y briff fel arfer yn cynnig cyfle i newyddiadurwyr gasglu newyddion yn barhaus gan roi trefn ar y broses o gasglu newyddion, ac mae’r ffynonellau yn cael cyfle i rannu gwybodaeth am straeon y maen nhw am iddynt gael sylw. Mae beirniaid yn dadlau taw yn anaml y daw gwybodaeth newydd i’r fei yn y sesiynau briffio hyn gan fod y gohebwyr yn gofyn cwestiynau nad oes ganddynt lawer o siawns o gael eu hateb, tra bod swyddogion yn gwneud eu gorau i osgoi rhannu gwybodaeth nad ydynt yn barod i’w lledaenu.
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.