Newyddiaduraeth amlgyfrwng

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 08:35, 2 Mai 2019 gan Gwenda Richards (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Multimedia journalism

Newyddiaduraeth sy’n defnyddio mwy nag un fformat wrth baratoi a chyflwyno eitem newyddion (testun, delweddau, sain, fideo ac ati). Mae’r tueddiad parhaus tuag at gydgyfeiriant digidol yn golygu bod newyddiaduraeth amlgyfrwng yn gynyddol amlwg. Yn Saesneg, gelwir y newyddiadurwyr sy’n meddu ar sgiliau amlgyfrwng yn VJs (Video Journalist) neu MoJos (Mobile Journalists).

Heddiw, disgwylir i newyddiadurwyr weithio’n hyderus ar draws ystod o lwyfannau gan ddefnyddio amrywiaeth eang o sgiliau, megis ffilmio (naill ai gyda chamera bach digidol neu ffôn symudol), tynnu lluniau, golygu yn y maes a danfon y deunydd yn ôl i’r ganolfan ddarlledu drwy liniadur neu ffôn clyfar. Gall y deunydd hwn gael ei ddarlledu ar y teledu, radio neu ar-lein, neu fwyfwy’r dyddiau hyn.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.