Paparazzi

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:02, 31 Gorffennaf 2019 gan Gwenda Richards (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Paparazzi

Term a ddefnyddir i ddynodi ffotograffwyr sy’n tynnu lluniau neu fideo heb yn wybod i’r person. Maent yn defnyddio tactegau anarferol neu ymwthiol fel arfer. Yn wahanol i ffotonewyddiadurwyr sy’n tynnu lluniau unigolion yn agored, mewn mannau cyhoeddus neu mewn lleoliadau preifat a drefnwyd ymlaen llaw, mae paparazzi yn defnyddio tactegau amheus a llechwraidd er mwyn portreadu pobl, gan amlaf enwogion, sydd wrthi’n gwneud pethau cyffredin fel siopa a bwyta, neu’n gwneud pethau a all beri embaras, fel cweryla’n gyhoeddus.

Mae’r gair paparazzi yn dod o’r Eidaleg. Mae’r term yn tarddu o’r ffilm ‘La dolce vita’ a gyfarwyddwyd gan Frederico Fellini yn 1960. Ynddo ceir hanes newyddiadurwr sy’n gweithio i gylchgrawn clecs (gossip magazine). Erbyn hyn mae paparazzi yn dynodi pob math o ffotograffiaeth diegwyddor ac anfoesegol ledled y byd. Mae’r ras i dynnu delweddau anhygoel o enwogion wedi arwain at densiynau trafferthus rhyngddynt a’r ffotograffwyr hyn. Er enghraifft, tybir bod y Dywysoges Diana wedi cael ei herlid gan baparazzi cyn ei marwolaeth ym Mharis yn 1997.